14 Rhagfyr 2021

 

“Roedd y cyfarfodydd Agrisgôp dros Zoom yn achubiaeth i lawer ohonom – yn gysur, yn cynnig cyngor ymarferol a chefnogaeth pan oedd fwyaf ei angen arnom.” Dyma eiriau Janet Davies, ffermwr llaeth o Lanteg, a fu, ynghyd â’i gŵr, Alan, yn derbyn cefnogaeth gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio i’w helpu i sefydlu busnes newydd yn gwerthu llaeth yn uniongyrchol i’r cyhoedd o beiriant gwerthu llaeth wrth giât y fferm. 

“Roedd yn gyfnod llawn straen. Roedd angen gwneud nifer o benderfyniadau brys ynglŷn â rheoliadau amgylcheddol a phrosesu bwyd, lle i osod y peiriant, offer prosesu, prynu ein holl nwyddau gan werthwyr dibynadwy a’r strategaeth farchnata hollbwysig.” 

Un o’r pethau a synnodd Janet ac Alan oedd pa mor ddwys yr oedd y prosiect newydd o ran llafur yn fuan iawn. Mae’r ddau’n cytuno y byddent wedi cael trafferth heb gefnogaeth eu harweinydd Agrisgôp, Lilwen Joynson a holl aelodau’r grŵp, a fu’n rhoi anogaeth pan oedd pethau’n mynd o chwith, ac yn cynnig cyngor ymarferol ynglŷn â sut i ymdopi gyda phroblemau gyda chyflenwyr yn methu cyrraedd terfynau amser.

“Roedd mewnbwn Lilwen yn hollbwysig; nid yn unig yr oedd hi’n sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio barn a chael atebion i’w cwestiynau, ond roedd hi hefyd yn ein cynorthwyo i edrych ar y pwysau hwn yn ei wir oleuni, gan ofyn sut oedd pob un ohonom yn teimlo ac a oedden ni’n ymdopi gyda gofynion sefydlu ein mentrau newydd ochr yn ochr â dyletswyddau eraill sydd ynghlwm â rhedeg fferm laeth brysur,” meddai Janet.

Agrisgôp yw rhaglen ddysgu gweithredol Cyswllt Ffermio, sy’n dod ag unigolion o’r un anian ynghyd i drafod a datblygu syniadau busnes. Ym mis Gorffennaf 2020, bu Ms Joynson, sy’n ffermwr ac yn hyfforddwr arallgyfeirio busnes cymwys, yn arwain ac yn hwyluso un o grwpiau newydd ‘gwerthu llaeth o beiriant’ Cyswllt Ffermio.

“Roedd pob aelod o’r grŵp, a oedd eisoes yn ffermwyr llaeth profiadol a llwyddiannus, yn benderfynol o ddysgu popeth ynglŷn â sefydlu a datblygu menter arallgyfeirio newydd a fyddai’n creu ffrwd incwm cynaliadwy ychwanegol,” meddai Ms Joynson. 

“Roedd Brexit a Covid wedi rhoi straen ar gyfer nifer o unigolion a busnesau, ond i’r teuluoedd ffermio a ymunodd â’r grŵp newydd hwn, roedd Agrisgôp yn cynnig cyfle gwych nid yn unig i adeiladu rhwydwaith cymorth newydd, ond hefyd i fagu hyder, er mai dim ond ar-lein yr oedden nhw’n gallu cwrdd. 

“Roedd rhai o’r teuluoedd eisoes wedi bod drwy’r camau cynllunio ac wedi sicrhau cyllid, felly roedd ganddyn nhw lawer o wybodaeth i’w rhannu gyda phawb, gan gynnwys rhai ffermwyr a benderfynodd nad oedden nhw’n barod i ddilyn y trywydd hwn ar hyn o bryd.

“Roedd pob aelod o’r grŵp, o’r myfyriwr prifysgol ieuengaf i’r ffermwyr profiadol hŷn, yn dod â rhywbeth gwerthfawr i’r cyfarfod. Mae pob un wedi dysgu oddi wrth ei gilydd, ac wedi magu’r ymddiriedaeth a’r hyder angenrheidiol i rannu eu barn ac i gyrraedd eu casgliadau eu hunain ynglŷn â’r hyn fyddai’n addas iddyn nhw, a ph’un a ddylent fynd ymlaen ai peidio,” meddai Ms Joynson. 

Mae fformat a chynnwys pob cyfarfod Agrisgôp yn ddibynnol ar yr hyn y mae’r aelodau ei angen. Gall hyn gynnwys yr arweinydd yn cyflwyno arbenigwyr i drafod pynciau perthnasol neu drefnu ymweliadau grŵp i weld busnesau sydd eisoes wedi creu mentrau newydd llwyddiannus, neu wedi dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a phroffidiol o weithio”. 

Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, roedd grŵp Ms Joynson yn cwrdd dros Zoom, gyda chyfarfodydd misol gyda’r nos yn cael eu cynnal o gegin neu swyddfa’r fferm. Ac fe ddatgelodd y byddai “brechdan slei neu baned o fewn cyrraedd” yn aml yn rhan o’r cyfarfod i’r rhai a oedd yn brysio i ymuno ar ôl godro.

Prynodd Ms Joynson arbenigedd nifer o siaradwyr gwadd a fu’n ymuno o bell i gynnig arweiniad yn amrywio o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol i frandio a rheoliadau amgylcheddol. 

Roedd rhai aelodau o’r grŵp yn teimlo’n betrus am ymuno â’r cyfarfodydd eu hunain. Roedd y fyfyrwraig amaeth Annie Peters (22), sydd ar ei thrydedd flwyddyn yn astudio cwrs sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr, a’i mam Margaret yn mynychu’r sesiynau Zoom gyda’i gilydd, gydag Annie yn aros yn y cefndir ac yn annog ei mam i siarad. Newidiodd hynny’n eithaf sydyn, a dywedodd Ms Joynson fod Annie wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr ym mhob cyfarfod – a dechreuodd fwynhau hynny’n fuan iawn. 

“Mae’r wybodaeth a gefais a’r sgiliau a ddysgais o ganlyniad i gymryd rhan yn y cyfarfodydd grŵp wedi bod yr un mor bwysig i mi a’m hastudiaethau yn y coleg,” meddai Annie, sy’n arwain y fenter peiriant gwerthu llaeth ar y fferm organig deuluol ger Hwlffordd. 

“Fe roddodd mam y gorau i’w swydd ran amser er mwyn gallu ymdopi gyda’r cwsmeriaid, ac mae hi hefyd yn gofalu am agweddau rheoli a marchnata’r busnes.

“Rwy’n treulio pob munud sbâr pan nad wyf yn y coleg neu’n astudio yn helpu fy nhad i reoli’r fuches a phrosesu’r llaeth, ac rydw i hefyd yn gyfrifol am yr holl farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol,” meddai Annie.

Dywed Ms Joynson ei fod wedi bod yn braf iawn gweld y cynnydd a wnaed gan chwech o’r teuluoedd a fu’n cymryd rhan (gyda phob un ohonynt wedi’u lleoli naill ai yn Sir Benfro neu Geredigion), ac mae pob un ohonynt yn disgwyl gweld eu buddsoddiad cyfalaf cychwynnol yn trosi’n elw clir o fewn y blynyddoedd nesaf. 

“Mae nifer cynyddol o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi prynu’n lleol a chefnogi cynhyrchwyr lleol, sy’n newyddion gwych i’n ffermwyr ac mae’n ein cynorthwyo i leihau ein hôl troed carbon ar y cyd,” meddai Ms Joynson.

Os oes gennych chi syniad arallgyfeirio neu fusnes yr hoffech chi ei ddatblygu gyda chymorth Agrisgôp, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Darperir Rhaglen Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o