Mae gorchuddio tomen o dail buarth a’i droi’n rheolaidd wedi arwain at ddyblu ei werth o ran potash ac yn cynyddu lefelau ffosfforws yn sylweddol fel rhan o arbrawf Cyswllt Ffermio ar fferm organig yn Sir Benfro.

Mae’r teulu Miles – Gerald ac Ann a’u mab, Cazz – yn defnyddio tail wedi’i gompostio a ddaw o’u buches o wartheg duon Cymreig i dyfu cnydau grawn a llysiau ar fferm Caerhys, ger Tŷ Ddewi.

Hyd yn ddiweddar, buont yn storio tail heb orchudd, ac nid oedd unrhyw ymyrraeth nes iddo gael ei wasgaru ar y tir.

Roedd y teulu yn awyddus i weld a fyddai modd cynyddu gwerth maethol pe byddai’r tail yn cael ei drin yn  wahanol ac aethant ati i gymryd rhan mewn arbrawf fel rhan o’u gwaith fel Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio.

Gyda chyngor gan arbenigwr garddwriaeth ADAS, Chris Creed, rhoddwyd gorchudd plastig dros y tail a chafodd y domen ei droi unwaith bob mis; cadwyd ail domen fel sampl rheolaeth.

Mae gorchuddio tail yn atal trwytholchi maetholion gwerthfawr ac yn lleihau colledion nitrogen o ammonia nwyol. Mae troi tomen yn ei achosi i gynhesu i dymheredd uwch a mwy cyson drwyddi draw.

Mae cyflwyno ocsigen yn cynyddu gweithgaredd microbaidd sy’n lleihau maint gronynnau’r tail, gan wneud maetholion yn fwy hygyrch yn y pridd.

Y tymheredd delfrydol yw 60 gradd C gan y bydd yn lladd chwyn a mwyafrif y pathogenau.

 

cae rhys composting

Roedd canlyniadau’r arbrawf, a gyflwynwyd i ffermwyr yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar fferm Caerhys, yn dangos bod gwerth potash yn y domen dan orchudd ddwywaith cymaint â’r domen rheolaeth – 5.99kg/tunnell/pwysau ffres o’i gymharu â 2.73kg – ond yn ogystal, roedd y lefel ffosfforws yn llawer uwch hefyd, yn 3.71kg o’i gymharu â 2.8kg.

Roedd lefel y magnesiwm hefyd yn uwch, yn 1.9kg/tunnell/pwysau ffres o’i gymharu â 1.49kg.

Mae cynyddu gwerth maetholion mewn tail o fudd i bob ffermwr, waeth beth fo’u system , meddai Mr Creed.

“Mae’n golygu bod mwy o faetholion ar gael ym mhob tunnell o dail, felly gellir defnyddio llai ar ardal ehangach. Mae hyn yn cael effaith benodol ar ffermydd mewn Parthau Perygl Nitradau sy’n cyfyngu ar faint o dail y gallant ei ychwanegu i’w tir.”

Mae maetholion hefyd ar gael ynghynt i’r cnydau. “Y nod yw cynhyrchu hwmws brau sy’n darparu manteision ychwanegol i’r pridd wrth ei wasgaru,” meddai Mr Creed.

Trwy ddadansoddi’r compost, gall ffermwyr ei wasgaru ar y gyfradd addas ar gyfer y cnwd a dyfir.

“Mae ffermwyr bob amser yn gwasgaru tail ar gyfradd o 10 tunnell yr erw ac yna’n darganfod nad oes ganddynt ddim ar ôl,” meddai Gerald Miles. “Trwy gymryd pwyll a rhoi ychydig o ymdrech i reoli’r tail, gallwn gynhyrchu tail da a fydd yn gorchuddio ardal llawer ehangach ar y fferm.

“Credaf mai tail wedi’i gompostio yw’r sgil-gynnyrch mwyaf gwerthfawr mewn amaethyddiaeth ac mae’n ased y dylem ei reoli’n well er mwyn gwrteithio ein tiroedd.”

Ar fferm Caerhys, mae’r tail yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaethau grawn traddodiadol a llysiau a dyfir ar gyfer cynllun bocs llysiau CSA (Community Supported Agriculture).

Mae’r CSA yn galluogi pobl i gael mynediad uniongyrchol at gynnyrch ffres o ansawdd uchel a dyfir yn lleol gan ffermwyr.

Rhoddodd Cynllun Rheoli Maetholion Cyswllt Ffermio ddadansoddiad o’r ardaloedd tyfu a’r twneli plastig ar fferm Caerhys, a gwelwyd bod mynegai potash a ffosfforws o 3 mewn rhai mannau, sy’n gyfwerth â’r gwerthoedd a gysylltir fel arfer â systemau mewnbwn uchel.                                                                          

“Mae’n wych gweld lefelau o’r fath ar fferm organig, ac mae’n dangos yr hyn sy’n bosibl mewn system hunangynhaliol,” meddai Mr Creed.

Hwyluswyd y diwrnod agored ar fferm Caerhys gan Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Âr a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Dr Davies bod y prosiect wedi dangos bod sylw at fanylder wrth ymdrin â chynnyrch gwastraff sydd ar gael yn eang ar fferm yn gallu sicrhau adnodd gwerthfawr iawn a fydd yn hybu hunangynhaliaeth ar sawl daliad.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter