18 Ionawr 2021

 

Dilyn yn ôl troed ei dad a’i fam!  Mae'r ffermwr ifanc Gwion Jenkins (20) yn benderfynol o adeiladu ar y traddodiad hir o ddatblygu'r fferm deuluol, Rhosfach yng Nghlunderwen.  Ac fel ei fam a dad, mae'n manteisio ar yr hyfforddiant, y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i helpu! 

Mae rhieni Gwion bellach yn cadw buches odro o 150 o wartheg Holstein Friesian pedigri – buches Beca - ar y fferm y prynodd ei dad Iwan a'i fam Meinir ym 1994 pan fentrodd Iwan  ar ei ben ei hun am y tro cyntaf. Gan ddechrau gyda dim ond 40 o wartheg godro y rhoddwyd Iwan gan ei rieni mewn daliad 86 erw newydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r teulu Jenkins, gan gynnwys Gwion a'i frawd Guto sy'n gweithio oddi ar y fferm ond sy'n helpu pan mae’n gallu, wedi cynyddu’r fuches yn raddol. Maent yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd a pharhau i gynyddu nifer y stoc yn Rhosfach, sydd heddiw'n cynnwys mwy na 270 erw sy'n gyfuniad o dir sy’n eiddo iddynt ac yn dir rhent. 

Dychwelodd Gwion i'r fferm yn llawn amser ar ôl ennill ei brentisiaeth Lefel 3 mewn amaethyddiaeth ar gampws Gelli Aur - Coleg Sir Gâr. Cawsant eu heffeithio’n arw gan y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd ar y pryd yn lleihau nifer y gwartheg y gallent eu prynu, a hynny, maes o law’n arwain at ostyngiad sylweddol yn y llaeth yr oeddent yn ei gynhyrchu, ond bellach mae’r teulu Jenkins yn bridio eu holl stoc ifanc eu hunain.  Erbyn heddiw maent yn cadw tua 290 o wartheg, gyda 150 o'r rheini’n cynhyrchu tua7,600 litr y flwyddyn a werthir i Dairy Partners, Castell Newydd Emlyn.

Er mai godro yw prif ffynhonnell incwm y teulu, mae Gwion wedi datblygu diddordeb brwd yn niadell y fferm o 140 o famogiaid Miwl Cymreig croes Cheviot. Ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu pesgi ar y fferm cyn i'r ŵyn gwryw gael eu gwerthu i ladd-dy trwy ganolfan gasglu leol. Mae Gwion yn cadw'r holl famogiaid ar gyfer bridio ac yn raddol mae'n ceisio gwella ansawdd a chynyddu maint y ddiadell. Mae'n benderfynol o ddefnyddio hyfforddiant Cyswllt Ffermio i ddysgu popeth am iechyd a pherfformiad defaid.

“Dros y blynyddoedd, mae fy rhieni a minnau wedi elwa cymaint o gymryd rhan yn rhaglenni Cyswllt Ffermio, ac rwyf eisiau dysgu popeth o fewn fy ngallu i ennill sgiliau newydd neu ychwanegu at yr hyn dw i’n ei wybod eisoes."

Mae hyn wedi amrywio o fynychu digwyddiadau a diwrnodau agored i amrywiaeth eang o hyfforddiant yn seiliedig ar bynciau ymarferol gan gynnwys hwsmonaeth anifeiliaid, tocio traed a thrin plaladdwyr, ynghyd â hyfforddiant busnes a TGCh ar ffurflenni TAW a gwblhawyd gan ei fam.

Yn ddiweddar, bu Gwion ar gwrs sylfaenol cneifio defaid am ddeuddydd, gyda chyllid o 80% drwy Cyswllt Ffermio. Gyda’i gais eisoes wedi’i dderbyn, mae bellach yn aros yn amyneddgar i gyfyngiadau Covid 19 ddod i ben fel y gall fynychu'r cwrs uwch cyn gynted ag y bydd ar gael.  

"Dysgodd ein grŵp gymaint yn ystod yr hyfforddiant cneifio sylfaenol, a dysgon ni i gyd sut i drin y defaid yn llawer mwy hyderus ac i gneifio'n gyflymach ac yn fwy effeithlon."

 "Roedd hyfforddwr Gwlân Prydain yn brofiadol ac yn wybodus iawn, felly trawsnewidiodd y cwrs fy sgiliau gan olygu fy mod wedi gwneud llawer iawn o’r gwaith cneifio gartref y llynedd yn ogystal â gallu helpu rhai cymdogion hefyd." meddai Gwion.

Mae Gwion hefyd yn edrych ymlaen at gael ei cv newydd wedi ei diweddaru drwy ddefnyddio Storfa Sgiliau, adnodd storio data ar-lein Cyswllt Ffermio, gan y bydd pob cwrs hyfforddi y mae'n ei ddilyn drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei uwchlwytho ar ei ran.

"Bydd Storfa Sgiliau yn fy helpu i nodi unrhyw fylchau yn fy ngwybodaeth lle bydda i’n elwa o gael mwy o hyfforddiant.” 

Mae cyllid o hyd at 80% ar gael i ffermwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gyda chyllid llawn ar gyfer hyfforddiant ar weithdai TGCh ac iechyd anifeiliaid.  Bydd y cyfnod ymgeisio sgiliau presennol ar agor o 9:00 ddydd Llun, 11 Ionawr tan 17:00, dydd Gwener, 26 Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth am fwy na 70 o gyrsiau hyfforddi byr fydd ar gael unwaith y bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailddechrau, modiwlau e-ddysgu ac opsiynau ar-lein eraill, gan gynnwys hyfforddiant TGCh a gweithdai iechyd anifeiliaid, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter