7 Hydref 2019

 

Mae Steve a Kara Lewis yn gwpl uchelgeisiol a gweithgar sydd â’u holl fryd ar ffermio ar ôl dychwelyd i’w gwreiddiau amaethyddol yn Sir Benfro saith mlynedd yn ôl.  Ers hynny, mae Steve, sydd â gradd mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Harper Adams a Kara, a fu’n astudio Lles ac Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Caer, wedi canolbwyntio ar ddatblygu tyddyn 30 erw, Fferm Wernllwyd, ger Hwlffordd, y maent yn ei rhentu gan Gyngor Sir Penfro.      

Mae eu hymdrechion i greu busnes fferm cynaliadwy a llwyddiannus sy’n glynu wrth y safonau uchaf ar draws pob maes gwaith wedi cael eu cydnabod gan y cyngor ac maent wrthi’n cwblhau eu cynlluniau i symud i fferm gyngor 80 erw gerllaw.

Maent wedi teithio ar draws y Deyrnas Unedig gyda’u gwaith, ond ers symud i Fferm Wernllwyd maent wedi graddol ddatblygu nifer o fentrau llwyddiannus sy’n gysylltiedig â’r fferm.  Yn ogystal â gofalu am ei ddiadell, mae Steve wedi sefydlu ei hun fel contractwr fferm hunangyflogedig ac mae’n darparu gwasanaethau sganio a rhew-frandio.
“Roedden ni’n dau yn benderfynol o ddatblygu pob llif incwm posibl o’r fferm a manteisio ar ficrohinsawdd unigryw Sir Benfro a’r amodau ffafriol ar gyfer tyfu porthiant,” meddai Steve.  
Law yn llaw â datblygu elfennau masnachu allanol y busnes, mae Steve yn canolbwyntio ar fagu a gofalu am ddiadell y fferm o 100 o famogiaid masnachol, sy’n cael eu bwydo ar y borfa yn bennaf ac a werthwyd i gyd tan yn ddiweddar yn fyw yn y martiau lleol.  Mae ganddynt nifer fechan o hyrddod Texel pedigri sy’n cael eu defnyddio ar y ddiadell a chaiff unrhyw rai dros ben eu gwerthu fel hyrddod magu.
Ond fel mae Steve yn barod i gyfaddef, nid oes gan ffermwyr ddim rheolaeth dros brisiau’r farchnad a theimlai fod perygl i hynny roi ei fusnes dan bwysau ariannol aruthrol, yn enwedig yn yr amodau masnachu ansicr a ddisgwylir os bydd Prydain yn gadael yr UE.  

“Dyma lle mae Cyswllt Ffermio ac un o’r darparwyr hyfforddiant cymeradwy a leolir yn Sir Benfro, Really Pro, wedi chwarae rhan hollbwysig.”
“Cefais gymhorthdal o 80% i gael hyfforddiant busnes un i un, a dyna oedd yr ysgogiad yr oeddwn i eisiau i gymryd ychydig oriau’r wythnos oddi wrth y gwaith dydd i ddydd i wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau busnes.”
Ar ôl cwblhau’r cyrsiau hyfforddiant ‘Cynllunio a Datblygu Busnes’ a ‘Marchnata eich busnes’ gyda Really Pro, magodd Steve yr hyder i lansio ei fusnes ar-lein a dosbarthu newydd, Pembrokeshire Lamb, ac mae’n awr yn gwerthu bocsys o’i gig oen, cig hesbyrniaid a chig dafad ‘gât i’r plât’ gorau yn uniongyrchol i’w gwsmeriaid.   

 “Rwyf wedi mynd o fod yn ffermwyr a oedd yn ansicr beth i’w wneud nesaf, i fod â ffocws, gweledigaeth a’r penderfyniad i ychwanegu gwerth i’n cig oen.  

 “Mewn ychydig fisoedd yn unig, mae’r hyfforddiant wedi rhoi cyfeiriad pendant o’r newydd i mi gyda chynllun busnes a chynllun ariannol yr wyf fi’n eu deall, strategaeth cyfryngau cymdeithasol a marchnata, ynghyd â brand unigryw sy’n amlwg yn gredadwy ac yn apelio at brynwyr.” 

Dywedodd Steve fod ei hyfforddiant wedi rhoi iddo’r sgiliau a’r hyder i fynd â’r busnes i gyfeiriad newydd, ac ni fu’n hir yn darbwyllo Kara i fynd ar yr un dau gwrs gyda Really Pro. 

Yn ôl Kelly Monroe, un o hyfforddwyr busnesau fferm arbenigol Really Pro, mae Steve a Kara yn ddysgwyr ymroddedig sydd wedi defnyddio i’r eithaf yr hyfforddiant a oedd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eu gofynion, o ran y cynnwys a’r dull cyflwyno, er mwyn sbarduno’r fenter busnes newydd ymlaen. 

 “Mae gan Steve nawr yr hyder a’r sgiliau busnes strategol y mae arno eu hangen i sefydlu a chynyddu ei fenter cig oen mewn bocsys wrth iddo ef a Kara gael mwy o erwau a bod mewn sefyllfa i gynyddu eu stoc. 

 “Pwynt gwerthu unigryw Pembrokeshire Lamb yw nad yw’n ceisio cystadlu ar raddfa gorfforaethol, fawr ond yn hytrach mae’n canolbwyntio ar gynhyrchu cig oen cynaliadwy, cartref sy’n canolbwyntio ar ansawdd.   

 “Drwy fod â rheolaeth dros ei gynhyrchion o’r dechrau i’r diwedd, o’r anifeiliaid byw drwodd i’r prosesu, y pecynnu a’r dosbarthu, mae Steve yn gallu hyrwyddo cynhyrchion cig oen, hesbinod a defaid ‘gât i’r plât’ o’r ansawdd gorau a fagwyd ac y gofalwyd amdanynt drwy werthoedd ffermio traddodiadol, ac mae hynny’n apelio at ei sylfaen gwsmeriaid sy’n prysur ehangu,” meddai Ms. Monroe. 

Mae strategaeth farchnata Steve a Kara ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu yn y wasg leol.  
 “Diolch i’n hyfforddiant, rydyn ni wedi gwella llawer ar ein presenoldeb ar Facebook ac Instagram; rydyn ni’n edrych yn llawer mwyn proffesiynol yn awr, gyda gwell lluniau a negeseuon sy’n ein helpu i ‘adrodd ein stori’ a chyrraedd rhagor o gwsmeriaid. 
Mae Steve a Kara yn bwriadu datblygu’r brand a’r dewis o gynhyrchion ymhellach wrth iddynt ymchwilio i gyfleoedd marchnata eraill a allai gynnwys hyrwyddo’r toriadau cig oen llai adnabyddus, mynd i farchnadoedd ffermwyr a chanfod prynwyr cyfanwerthu newydd megis bwytai ym mhen uchaf y farchnad. 
 “Rydyn ni eisiau hyrwyddo ein hethos cynaliadwy, sy’n golygu bod arnom angen i gwsmeriaid archebu cynnyrch ffres ymlaen llaw.  Mae hyn yn caniatáu amser inni gyflenwi eu harchebion mewn papur cigydd arbennig wedi’i frandio, yn hytrach na mewn pecynnau gwactod sy’n cael eu cadw ar gyfer y cynnyrch rydym yn ei rewi’n unig.”
Mae Steve a Kara yn llawn gobaith y bydd eu cynlluniau ar gyfer datblygu’r cynhyrchion cig oen arbenigol o fri hyn yn diogelu’r dyfodol ar gyfer teulu Lewis y genhedlaeth nesaf. 
Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu dewis helaeth o gyfleoedd hyfforddiant ar sgiliau personol, busnes ac ymarferol, sy’n amrywio o hyfforddiant un i un i sesiynau dysgu mewn grwpiau, gweithdai rhyngweithiol a modiwlau e-ddysgu.   Mae llawer o’r dewisiadau’n cael eu hariannu’n llawn, tra bod eraill yn denu cymhorthdal o hyd at 80%. Mae angen i’r holl ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru â Cyswllt Ffermio. I ganfod sut gallai hyfforddiant Cyswllt Ffermio fod o fudd i chi a’ch busnes, cliciwch yma, neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites