31 Gorffennaf 2024

Mae grŵp o ffermwyr benywaidd o Ogledd Cymru wedi cael eu hysbrydoli i roi systemau ar waith i leihau costau porthiant da byw, gan gynnwys mabwysiadu egwyddorion pori cylchdro.

Cyfle i ymuno â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio dan arweiniad Rhian Jones oedd y catalydd ar gyfer newid i gynhyrchwyr cig eidion a chig oen o bob rhan o Sir Ddinbych a Chonwy.

Rhoddodd ymweliadau â ffermydd sydd â system bori cylchdro ar waith ar gyfer eu gwartheg a’u defaid, sy’n tyfu cnydau protein uchel, ac yn defnyddio meillion coch sy’n sefydlogi nitrogen i leihau dibyniaeth ar wrtaith synthetig yr hyder i’r naw ffermwraig i roi rhai o’r mesurau hyn ar waith yn eu busnesau eu hunain.

Fe wnaethant ddatblygu eu sgiliau mewn defnyddio glaswelltir a dewis cnydau yn ogystal â rheoli busnes a phennu cyllideb hefyd.

Un o’r ffermwyr sy’n rhoi’r wybodaeth honno ar waith yw Fiona Faire, sy’n ffermio yn fferm Plas Bedw ym Mhentrecelyn, Rhuthun.

Mae Fiona’n cynhyrchu ŵyn o 230 o famogiaid Llŷn ac ŵyn benyw a diadell fach o ddefaid Balwen ac mae’n rhedeg buches o 12 o fuchod sugno Simmental gyda lloi wrth eu traed.

Dywed Fiona , “mae bod yn rhan o’r grŵp Agrisgôp a gweld pori cylchdro yn gweithio’n llwyddiannus ar y ffermydd yr ymwelodd â nhw wedi helpu i lywio fy ngwybodaeth am sut y gallai hyn weithio ar fy fferm”.

“Roedd yn grŵp Agrisgôp ardderchog ,'' meddai.

“Mae ein gwartheg a’n defaid bellach yn pori ar system bori cylchdro gan fod gennym gaeau gweddol fychan, gan roi seibiant i’r caeau ar ôl pori, a chadw llygad ar lefelau glaswelltir, a sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i bob cae.’’

Ychwanegodd Fiona fod y dull hwn wedi gweithio'n “hynod o dda”. “Mae'r stoc yn sicr yn ffynnu ar y system hon,'' meddai.

Ffurfiwyd y grŵp oherwydd bod y merched wedi mynegi diddordeb mewn archwilio opsiynau a allai leihau’r gost o fwydo eu gwartheg a’u defaid.

Roeddent am edrych ar sut y gallai tyfu a rheoli cnydau a phorfeydd amgen eu helpu i gyflawni hynny, yn ogystal â’r manteision y gallai’r rhain eu cael ar gyfer yr amgylchedd a’u hôl troed carbon, a hefyd i ddysgu mwy am sut i ddewis a bridio da byw.

Ymhlith y ffermydd y buont yn ymweld â nhw oedd Llys Dinmael, lle bu’r ffermwr Dafydd Jones yn rhannu ei brofiadau o dyfu cnydau’r gaeaf a’r opsiynau pori sydd ganddo.

“Fe ddysgon nhw hefyd sut, trwy ddefnyddio ffens drydan, y gellir sefydlu fferm ar gyfer pori mwy effeithlon a sut y gall hynny leihau faint o ddwysfwyd a ddefnyddir,” esboniodd Rhian.
Ar fferm Moelogan Fawr, cawsant eu hysbrydoli gan Llion a Sian Jones a’u hagwedd at dyfu gwndwn llysieuol a phorthiant y gaeaf a phori cylchdro a sut roedd hynny wedi arwain at arbedion o ran cost porthiant.

Roedd y defnydd o fridiau a oedd yn cyfateb i'r amgylchedd wedi galluogi'r teulu Jones i gael y gorau o'u stoc tra bod monitro perfformiad bîff a defaid wedi gwella cyfraddau twf a pherfformiad stoc.

Bu iddynt fynychu ymweliadau eraill hefyd, o ddysgu mwy am briodweddau meillion a gwndwn llysieuol yn IBERS, Aberystwyth, i fynychu gweithdy iechyd y pridd.

Bu iddynt weld y manteision yr oedd technegau ffermio adfywiol wedi’u rhoi i fferm arall, gan wella ffrwythlondeb y fferm yn aruthrol a gallu’r fferm i wrthsefyll sychder.

Dysgodd y grŵp oddi wrth ei gilydd hefyd. Soniodd un ffermwr am y profiad cadarnhaol o ddefnyddio cynnyrch sy’n seiliedig ar wymon fel cyflyrydd pridd ar dir pori heb ei wella a sut roedd hi’n bwriadu ei dreialu’n awr ar wndwn llysieuol newydd ei sefydlu.

Gellir defnyddio cyflyrwyr pridd i wella priddoedd heb y perygl o lygru cyrsiau dŵr.

“Roedd y cynnyrch wedi creu argraff ar y grŵp ac roedd rhai aelodau yn awyddus i roi cynnig ar y cyflyrydd pridd,” meddai Rhian.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio