19 Mai 2021

 

Mae grŵp o ffermwyr o Gymru yn dechrau cynnal archwiliadau carbon i ddeall lefel y nwyon tŷ gwydr (NTG) y maent yn eu cynhyrchu ac i helpu i lunio cynllun gweithredu i leihau allyriadau os bydd angen. 

Mae’r holl ffermwyr yn aelodau o un o grwpiau trafod Cyswllt Ffermio ym Meirionnydd.

Maent yn defnyddio adnodd cyfrifo carbon i graffu ar bopeth, o’u defnydd o danwydd, trydan, gwrtaith a chwistrellu i ffrwythlondeb da byw a thyfu cnydau.

Deall yr ôl troed carbon yw cam cyntaf fferm ar ei thaith i gynhyrchu bwyd gydag arferion carbon niwtral neu garbon isel, meddai Eryl Roberts, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Meirionnydd.

“Gall dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ôl troed carbon helpu ffermwyr i lunio cynllun gweithredu ar gyfer ei leihau,’’ meddai Mr Roberts, sy’n arwain y prosiect.

Un o’r ffermydd sy’n cymryd rhan yw Dolau Gwyn, Bryncrug, ble mae Hugh a Jessica Williams yn ffermio gyda rhieni Hugh, Edward a Marian.

Maent yn cynhyrchu bîff a chig oen o fuches o wartheg Duon Cymreig a defaid Llŷn pedigri a mamogiaid Mynydd Cymreig ar 550 erw o ucheldir mynyddig a 200 erw o iseldir.

Maent yn tybio y bydd ôl troed carbon y fferm yn isel am fod arferion amaethyddol carbon isel ar y fferm, yn cynnwys cyfradd uchel o efeilliaid yn cael eu geni i famogiaid, sy’n golygu bod allyriadau’r fferm yn cael eu dosbarthu dros nifer fwy o gilogramau o gig oen wedi’i werthu.

Caiff maetholion eu rhoi yn fanwl gywir hefyd, am eu bod eisoes wedi canfod gofynion eu pridd o ran maethynnau ar ôl gwneud cynllun rheoli maetholion drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a arweiniodd at ostyngiad yn y gwrtaith a ddefnyddir.

Mae gan y teulu Williams bolisïau da mewn lle ar gyfer rheoli glaswelltir hefyd.

Yn y dyfodol, bydd deall data carbon y fferm yn caniatáu iddynt gyflwyno newidiadau realistig i’w harferion ffermio, os bydd angen.

Gyda mwy o gwsmeriaid yn chwilio am ffynonellau bwyd cynaliadwy a llywodraethau’n cynnig cymelliadau ariannol i fusnesau mwy gwyrdd, gall archwiliadau carbon ar ffermydd eu gwneud yn fwy proffidiol.

I’r teulu Williams, roedd lansio cynllun bocs cig yn rheswm arall i gymryd rhan yn y prosiect cyfrifo carbon.

“Rydw i eisiau gallu rhoi’r atebion os bydd pobl yn gofyn am ôl troed carbon y cig maen nhw’n ei brynu,’’ meddai Jessica.

Gall adnoddau cyfrifo carbon fel yr un maen nhw’n ei ddefnyddio nodi ffynonellau allyriadau, meincnodi allyriadau yn erbyn busnesau tebyg a rhoi gwaelodlin ar gyfer monitro’r cynnydd tuag at arferion ffermio carbon isel.

Mae cyngor ar garbon ar gael drwy’r Gwasanaeth Cynghori i fusnesau cymwys sydd wedi’u cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Gallai cyngor cyfrinachol un-i-un, wedi’i ariannu hyd at 80% i unigolion ac yn llawn i grwpiau, helpu eich busnes chi i asesu ei asedau naturiol, ystyried newidiadau i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol a rhoi arferion cost-effeithiol ac effeithlon ar waith. 

Mae cwrs hyfforddiant newydd wedi’i achredu ar leihau nwyon tŷ gwydr mewn systemau da byw hefyd ar gael i wneud cais amdano yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf am sgiliau, sydd ar agor nawr tan 25 Mehefin 2021. 

I’r rhai a hoffai ddysgu mwy am y pwnc ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw, mae modiwl e-ddysgu ar lygredd aer amaethyddol ar gael i’w gwblhau unrhyw adeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu trwy gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o