Gosodwch nod uchel, gwnewch eich ymchwil a cheisiwch ddarganfod bwlch yn y farchnad, dyna’r cyngor gan un teulu ffermio o Bwllheli sydd wedi gwneud hynny!

Mae Alan Jones, y drydedd genhedlaeth o’r teulu i ffermio, ei wraig Bethan a’i ddau fab, Osian a Morgan yn ffermio ar ddaliad 230 erw yn Chwilog. Yn ddiweddar sefydlodd y teulu ail fenter yn cynhyrchu llaeth defaid ar gyfer cawsiau sy’n cael eu gwneud â llaw o’u diadell gymysg o 20 o ddefaid Friesland ac 8 o ddefaid Lleyn. 

Dywed y teulu na fydden nhw wedi mentro heb gymorth gan raglen Cyswllt Ffermio.

 

geraint hughes with alan and bethan

Yn gynharach eleni ymunodd Alan ac Osian â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio dan arweiniad Geraint Hughes. Mae Agrisgôp yn rhaglen dysgu gweithredol sy’n cynnig cymorth i unigolion o’r un anian i ddatblygu syniadau ar gyfer mentrau newydd. Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Roedd Geraint yn ymwybodol fod nifer o gynhyrchwyr defaid lleol yn ei ardal eisoes yn ymchwilio i ffyrdd o ychwanegu gwerth ar eu mentrau defaid mewn cyfnod ansicr wrth i ffermwyr wynebu her economaidd. 

“O fewn amgylchedd caeedig grŵp Agrisgôp, mae ffermwyr o’r un anian yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad gyda’i gilydd yn onest, trafod heriau a materion a meithrin ymddiriedaeth ffermwyr eraill drwy ddatblygu perthnasoedd gwaith a chyfeillgarwch personol,” meddai Geraint.

Trwy ymuno â grŵp Geraint, cafodd Alan ac Osian gefnogaeth ac arweiniad gan gynhyrchwyr defaid eraill ac roedd hyn yn allweddol i roi’r hyder iddynt ymchwilio ymhellach i’r farchnad ac arallgyfeirio i gynhyrchu llaeth defaid. Dysgodd y daith astudio i weld cwmni Halen Môn ei bod yn bwysig ychwanegu gwerth at gynnyrch craidd a chreu brand.

Mae Alan yn cofio’r dyddiau cynnar hynny pan ddeuai’r ffermwyr at ei gilydd yn y cyfarfodydd cyntaf.

“Er bod rhai ohonom ar y cychwyn yn amharod i rannu syniadau ac ymddiried yn ein gilydd, dysgom yn fuan faint o wybodaeth oedd gennym o fewn y grŵp, ac roedd yn glir bod cyfle i ni gefnogi ein gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd heb gyfyngu ar ein cyfleoedd unigol i lwyddo.

“Mae gweithio o fewn grŵp Agrisgôp yn rhoi’r dewrder i chi gymryd y camau anodd a heriol cyntaf hynny y mae'n rhaid eu cymryd i sefydlu menter newydd, ar adeg y mae nifer o ffermwyr yn teimlo’n unig ac yn agored i risg”, meddai Alan.

Un o aelodau’r grŵp oedd y gwneuthurwr caws llwyddiannus Carrie Rimes a sefydlodd ei llaethdy defaid ei hun ym Methesda ddwy flynedd yn ôl. Aelod arall oedd y milfeddyg lleol Eilidh Hawkins, sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn defaid, oedd yn golygu ei bod yn aelod gwerthfawr o’r grŵp.

Dysgodd Carrie sut i wneud caws drwy weithio yn ‘fromageries’ Ffrainc cyn dychwelyd adref i Ogledd Cymru i ddechrau gweithredu ei chynlluniau uchelgeisiol i sefydlu llaethdy caws newydd yn defnyddio llaeth defaid yn unig. Yn ôl y ferch fferm, sy’n siarad Cymraeg er yn dod yn wreiddiol o Ddyfnaint, gyda phris llaeth buchod yn dal yn gymharol isel, dangosodd Alan ddiddordeb mewn newid i gynnyrch sy’n gallu cael ei werthu am ddwy neu dair gwaith yn fwy na llaeth buchod.

“Rwyf eisoes yn gweithio gyda chynhyrchydd llaeth defaid o Swydd Gaerhirfryn, ond rwyf hefyd yn awyddus i gael llaeth defaid o Gymru.

“Bellach mae galw cynyddol am laeth defaid, nid yn unig yng Nghymru ond drwy’r Deyrnas Unedig. Rwy’n obeithiol y bydd hyn yn annog proseswyr newydd i fentro, ac y bydd hynny yn ei dro’n arwain at farchnadoedd newydd ar gyfer caws wedi’i bastwreiddio a heb ei bastwreiddio yn ogystal ag iogwrt, hufen iâ a menyn”, meddai Carrie. 

Mae Alan ac Osian wedi adeiladu parlwr godro un ochrog ar raddfa fach ond mae'n bosibl y bydd angen ei ymestyn wrth iddynt gynllunio i ddyblu maint eu diadell y flwyddyn nesaf.

“Ac os bydd digon o alw, rydym yn anelu at gadw diadell o tua 400 i 500 o ddefaid Lleyn pedigri erbyn 2020,” meddai Alan.

Mae defaid Lleyn yn cynhyrchu llai o laeth na defaid eraill ond mae’r gymhareb o 6% o fraster menyn i 5% o brotein yn ei wneud yn gyfoethog ac mae hynny’n gwella blas y caws.

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod safon yr holl laeth gan ein defaid yn gyson uchel ac wrth i’r fenter ddatblygu, rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda gwahanol bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi gan ddilyn rhaglen dwf gyson wedi’i chynllunio,” meddai Alan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm