21 Medi 2021

 

Pan ddechreuodd y ffermwyr ifanc, Dan a Cath Price, gynllunio ar gyfer eu menter ddofednod graddfa fawr eu hunain ar fferm y teulu yn Llaithddu, ger y Drenewydd, fe wnaethon nhw droi at Cyswllt Ffermio am y gefnogaeth a’r wybodaeth arbenigol yr oedden nhw’n gwybod y byddai eu hangen arnynt.   

Mae’r pâr ifanc yn ffermio daliad bîff, defaid a dofednod 1,000 erw sydd wedi bod yn y teulu ers tair cenhedlaeth,  ar y cyd â rhieni a brawd Dan. Gyda theulu ifanc eu hunain, penderfynodd Dan a Cath, y ddau ohonynt yn gyfarwydd iawn â chadw dofednod, sefydlu eu menter ddofednod eu hunain, gyda chefnogaeth rhieni Dan. 

Roedd Dan (31) a’i wraig Cath (28) oedd wedi graddio o Harper Adams, yn ymwybodol y byddai angen arweiniad arnynt wrth sefydlu eu menter newydd gyntaf gyda’i gilydd, a buddsoddi mewn sied newydd sbon ar gyfer 32,000 o ieir dodwy ar y fferm.   

“Roedden ni wedi gwneud ein gwaith ymchwil ac yn hyderus y byddai ein buddsoddiad yn talu ffordd yn ystod y blynyddoedd nesaf gan roi llif incwm ychwanegol, cynaliadwy i ni o wneud popeth yn iawn a chydymffurfio â’r rheolau perthnasol a’r rheoliadau sy’n ymwneud â chymaint o wahanol feysydd ym myd amaeth,” meddai Dan.

Dywed y ddau fod cael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau gwahanol drwy gyfrwng Cyswllt Ffermio ar hyd bob cam o’r daith wedi bod yn hynod werthfawr. 

Maent yn ddiolchgar iawn i’w mentor ‘diogelwch fferm’, Brian Rees, arbenigwr cymwys ym maes diogelwch fferm gyda phrofiad eang o safbwynt cadw dofednod yn fasnachol, am eu cadw ar y trywydd iawn o ran y gyfraith a sicrhau bod eu llyfr damweiniau’n ‘cadw’n wag’ drwy gydol y cyfnod adeiladu. 

Darparodd Brian 15 awr o gefnogaeth wedi’i ariannu’n llawn, drwy gyfres o alwadau ffôn ac ymweliadau â’r fferm, o adeg dewis y safle ar fferm Ddulley Bank a dewis opsiynau hyd at reoli’r holl gontractwyr adeiladu a oedd yn rhan o’r prosiect.  

“Roedd angen arweiniad arnom ni ynglŷn â rheolau ‘Adeiladu (Cynllunio a Rheoli) (CDM) sy’n berthnasol i bob adeilad fferm newydd yng Nghymru.  

“Fel ‘cleient’, roedd llawer o gyfrifoldeb yn disgyn ar ein hysgwyddau ni, a gan mai hwn oedd ein prosiect cyntaf, roedden ni’n croesawu’r gefnogaeth gan Brian fel mentor.  

“Roedden ni’n benderfynol o beidio â chyflogi contractwyr nad oedd yn ddigon cymwys, a allai fod yn rhatach ond a oedd weithiau’n dod â risg uchel o dorri rheoliadau CDM a pheidio â chydymffurfio â’r argymhellion hanfodol gweithio’n ddiogel,”  meddai Dan.

Cadarnhaodd Brian mai nhw fel perchnogion y busnes oedd yn gyfrifol yn y pen draw yn ôl y gyfraith am bob mater yn ymwneud â’r gwaith adeiladu. Dechreuodd Cath gasglu’r holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer ffeil newydd ‘Iechyd a Diogelwch Llaithddu’ a fyddai’n cynnwys log dyddiol o’r holl waith a gyflawnwyd ar y safle gan yr amrywiol gontractwyr a chofnodion o’u holl gyfarfodydd. 

Mae cadw cofnodion cywir yn ffeil Iechyd a Diogelwch y fferm yn elfen hanfodol o safbwynt cydymffurfio â rheoliadau CDM, gan ei bod yn darparu tystiolaeth fanwl er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cydymffurfio â phob agwedd o arferion gweithio diogel drwy gydol y gwaith adeiladu. 

Helpodd Brian y ddau hefyd i gynnal awdit fferm gyfan o’r ardaloedd yr oedd angen iddynt eu hystyried o safbwynt yr adeilad newydd yn ogystal â materion cyffredinol eraill yn ymwneud â diogelwch ar y fferm. 

“Roedd cael rhestr wirio gyfredol yn gysur adeg ein cyfarfodydd anffurfiol cyson gydag ef neu’r contractwyr. 

“Mae ein llyfr ‘Damweiniau Fferm’ gwag yn dweud y cyfan ac rydym ni’n gwybod ein bod ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb oedd yn ymwneud â’r prosiect mor ddiogel â phosibl, nid yn unig yn ystod y broses adeiladu ond yn y tymor hir hefyd,” meddai Cath, a fanteisiodd hefyd ar hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, rheoli llif arian a chyrsiau dofednod Cyswllt Ffermio.

Pwysleisiodd Brian Rees yr angen i bob teulu amaethyddol gymryd cyfrifoldeb dros leihau’r risgiau o fewn eu busnesau eu hunain. 

“Mae nifer y damweiniau angheuol neu ddamweiniau newid bywyd ar ffermydd yn y DU yn dal i fod yn drasig o uchel, gyda 41 marwolaeth ar ffermydd yn y DU y llynedd, sy’n tanlinellu’r angen i bawb o fewn y diwydiant flaenoriaethu anghenion diogelwch ar y fferm. 

“O roi ychydig oriau o’ch amser, gall rhaglen fentora Cyswllt Ffermio sydd wedi’i hariannu’n llawn ac yn gwbl gyfrinachol arbed eich bywyd neu fywyd rhywun agos atoch! 

“Bydd sgwrs anffurfiol gyda mentor diogelwch fferm yn fodd i’ch helpu i ystyried yr ardaloedd hynny a allai fod yn risg, ac o wneud hynny dros y ffôn, yn anffurfiol o gylch y bwrdd teuluol, neu wrth gerdded o gwmpas y fferm, gallwch fod yn siŵr eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau fod eich fferm yn fwy diogel fel gweithle.” 

Dechreuodd cynllun uchelgeisiol Dan a Cath i sefydlu eu menter gyntaf ar y fferm deuluol yn 2017, drwy gysylltu â Cyswllt Ffermio am gyngor ynglŷn â rheoli’r busnes ac ariannu’r prosiect. Llwyddwyd i sicrhau caniatâd cynllunio bron i dair blynedd yn ddiweddarach. Wedi sicrhau’r cyllid, erbyn mis Gorffennaf 2020, roedden nhw wedi dewis cwmni adeiladau fferm parchus a phrofiadol i godi’r strwythur dur eang, y to a’r ochrau a’r holl offer codi hanfodol a’r gweithdrefnau diogelwch oedd yn gysylltiedig â hynny. 

Cafodd yr adeilad newydd 30,000 metr sgwâr ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2020, yn barod ar gyfer 32,000 o ieir dodwy buarth ‘Dekalb White’ sy’n cynhyrchu tua 30,000 o wyau bob dydd.  Caiff yr wyau eu casglu ddwywaith yr wythnos gan baciwr wyau graddfa fawr o Swydd Wiltshire, cyn cael eu gwerthu drwy nifer o fanwerthwyr mawr yn y DU.  

Yn ogystal â datblygu’r prosiect adeiladu, aeth y ddau ati i geisio cyngor technegol drwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Argymhellodd yr ymgynghorydd gwledig, Marc Jones o Adas, a oedd wedi cynghori’r teulu ers blynyddoedd lawer, eu bod yn canolbwyntio ar gynllunio rheolaeth nitradau a ffosffad, gan wneud argymhellion o safbwynt rheolaeth gyffredinol y tir a sefydlu system ffermio dofednod gynaliadwy na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd.

“Trefnodd Marc i gymryd sampl pridd ar draws y fferm gyfan yn ystod hydref y llynedd ac ar sail y canlyniadau, lluniodd gynllun rheoli gwrtaith a ffosffad ar ein cyfer sy’n nodi ble y dylai gwrtaith gael ei daenu neu beidio er mwyn cydymffurfio â rheoliadau NVZ yn y tymor hir.”  

Nododd y sampl fynegeion ffosffad is, sy’n golygu y gall y tail dofednod gael ei ddefnyddio fel gwrtaith ar y fferm, gan olygu na fyddai angen ei symud o’r safle a lleihau’r angen i brynu gwrtaith, sy’n cadw’r costau’n isel ac yn helpu i leihau ôl troed garbon y fferm 

Ceisiodd y ddau gyngor hefyd oddi wrth arbenigwr ar ynni adnewyddadwy drwy gyfrwng un o glinigau un-i-un Cyswllt Ffermio.

“Fe ddysgon ni gryn dipyn yn ystod yr awr honno o ymgynghoriad, a chan fod gennym fwy o wybodaeth, dyma ni’n gofyn wedyn i gwmnïoedd gynnig tendr ar gyfer uwchraddio i gyflenwad trydan tair gwifren a gosod paneli solar ar do sied y dofednod, sydd eisoes yn talu am gostau’r goleuni a rheoli tymheredd. 

Darperir rhaglen Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  

Am wybodaeth bellach am holl wasanaethau Cyswllt Ffermio, digwyddiadau a hyfforddiant, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter