9 Rhagfyr 2022

 

“Ni waeth pa mor hyderus ydych chi yn eich gallu eich hun, weithiau, bydd dulliau gwell neu wahanol o wneud pethau.”

Dyma eiriau William Williams, sy’n cadw tua 500 o famogiaid Easy Care ar y fferm 200 erw ger Bangor lle mae ei deulu'n denantiaid ers cenedlaethau lawer. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth William droi at raglen mentora Cyswllt Ffermio ar ôl sylweddoli nad ei system ‘stocio sefydlog’ draddodiadol oedd y dull mwyaf effeithlon na phroffidiol o redeg y fferm. Dewisodd Keith Williams, ffermwr bîff a defaid adnabyddus o ganolbarth Cymru, i fod yn fentor iddo. Mae Keith yn un o ysgolorion Nuffield a bu’n Ffermwr Defaid y Flwyddyn Farmers Weekly ar un adeg, ac mae cael ei fentora ganddo wedi helpu William i weddnewid busnes ei fferm.

MENTORA – SUT MAE’N GWEITHIO

Fe wnaeth William a Keith ymweld â ffermydd y naill a’r llall, a phan wnaeth y pandemig gyfyngu ar gyfarfodydd wyneb yn wyneb, fe wnaeth eu deialog barhau ar-lein a dros y ffôn.

Cafodd William ei fentora gan Keith ynghylch y canlynol:

  • Rheoli tir glas a mesur glaswellt
  • Gwella perfformiad y ddiadell, oedd yn cael ei rheoli’n flaenorol gan ddefnyddio system stocio sefydlog, nad oedd yn cyflawni’r lefelau uchaf o ran perfformiad
  • Lleihau costau gwrtaith

Roedd argymhellion Keith fel mentor yn cynnwys:

  • Sicrhau y caiff y tir orffwys yn hir yn y gaeaf; fe wnaeth hynny leihau sathru trwy ddod â’r ddiadell gyfan i mewn
  • Buddsoddi mewn ffensys trydan a chynllunio i rannu caeau yn gelloedd at ddibenion pori cylchdro dwys
  • Cynghori ynghylch lleiniau tir i sicrhau patrymau pori gwastad
  • Targedu’r defnydd o wrtaith i leihau amser a chostau chwalu

Y canlyniadau i William:

“Rydym yn isrannu’r tir, ar sail awgrymiadau Keith, er mwyn i siapiau’r lleiniau tir sicrhau patrymau pori gwastad, ac rydym wedi osgoi gwneud camgymeriadau costus.

“Mae’r system celloedd wedi arwain at arbedion enfawr ar gostau gwrtaith. Bellach, rydym yn chwalu tua hanner y cyfanswm blaenorol.

“Pan oedd y mamogiaid yn barod i wˆ yna allan ym mis Ebrill, roedd y glaswellt mewn cyflwr gwych.

“Roedd hi’n fuddiol iawn cael cyfle i sgwrsio’n uniongyrchol â ffermwr defaid profiadol sydd wedi gwneud y gorau o’i dir ei hun trwy weithredu system pori cylchdro dwys debyg.

“Mae cael Keith yn fentor wedi dangos y gallwn ni ddysgu mwy bob amser, ni waeth pa mor hyderus ydym ni yn ein galluoedd ein hunain.
 

Gair i gloi gan Keith:

“Er bod William wedi defnyddio ei oriau mentora, mae ganddo lasbrint ar gyfer y dyfodol erbyn hyn.

“Rwyf wrth fy modd yn mentora, ac mae William yn gwybod y byddaf ar gael bob amser i ateb y ffôn ac yn fodlon ei gynorthwyo pan fydd arno angen cymorth gennyf.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
 

 

Bellach, mae dros 100 o fentoriaid Cyswllt Ffermio ar gael ledled Cymru. Maent yn cynnig gwasanaeth mentora ynghylch ystod helaeth o sectorau ac arbenigeddau. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth â TGCh
(sy’n gallu cynnwys cynorthwyo ffermwyr i ymdrin yn ddigidol â’u trethi, cadw cofnodion a llenwi ffurflenni ar-lein, a rheoli busnesau ac arian), cyfryngau cymdeithasol a marchnata.

Mae pynciau megis prosesu bwyd a bwtsiera, rhedeg cwˆ n defaid, cneifio, ffermio atgynhyrchiol, bioleg y pridd a dylunio mewnol ar gyfer prosiectau arallgyfeirio newydd ym maes twristiaeth yn ychydig o’r meysydd mentora llai ‘nodweddiadol’ sydd ar gael, ynghyd â phynciau yn ymwneud â rheoli iechyd anifeiliaid, pridd, tir glas a choetiroedd.

Mae’r gwasanaeth yn darparu hyd at 15 awr o gymorth un ac un sy’n cael ei ariannu’n llawn, ac mae ar gael i
bob unigolyn sydd wedi’i gofrestru â Cyswllt Ffermio. I weld y cyfeiriadur mentoriaid ar-lein ac ymgeisio,cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter