29 Ebrill 2024
Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn helpu’r fam, Dianna Spary a’i mab Iestyn, i wella eu menter ffermio da byw yn barhaus ac adeiladu busnes sy’n ariannol gynaliadwy a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.
Nid yw’r ddau’n brin o arbenigedd technegol a synnwyr busnes da ers iddynt ddechrau ymgymryd â nifer trawiadol o weithdai Cyswllt Ffermio, yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid.
“Mae wedi bod yn gyfle anhygoel; rydym ni wedi dysgu cymaint y gallwn ni ei gymhwyso wrth redeg ein fferm a’n buches o ddydd i ddydd, a gallwn ni dynnu ar y wybodaeth honno wrth i ni edrych ar ddatblygu mentrau a chynlluniau arallgyfeirio newydd,” meddai Dianna.
Hi yw’r bumed genhedlaeth yn ei theulu i ffermio ar Fferm Goetre yn New Church West, Cas-gwent, ac Iestyn yw’r chweched.
Maent yn ffermio 110 hectar gyda’i gilydd, yn rhedeg buches sugno bîff croes Henffordd a hefyd yn magu gwartheg bîff a brynwyd fel lloi bach, gan gynnwys gwartheg British Blue yn fwy diweddar, gan fynd â'r rhain drwodd i'w lladd.
Er eu bod wedi eu trwytho mewn amaethyddiaeth ar hyd eu hoes, maent yn cydnabod ei fod yn ddiwydiant sy’n newid yn barhaus wrth i ymchwil a syniadau newydd gael eu cyflwyno a’u cymhwyso.
Dyma lle mae gweithdai Cyswllt Ffermio wedi bod yn arbennig o werthfawr, meddai Dianna.
“Nid ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu; mae pethau’n newid drwy’r amser. Pe na fydden ni wedi cymryd rhan yn y gweithdai, fydden ni byth wedi gwybod am rai o’r ffyrdd newydd hynny o wneud pethau.’’
O ddysgu sut i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno a diogelu iechyd stoc ifanc i ddeall clefydau fel clefyd Johne’s a TB mewn gwartheg, mae’r gweithdai hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid wedi bod yn “hynod werthfawr”, ychwanega.
Mae’r pâr wedi manteisio ar gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio yn ymdrin â meysydd megis iechyd, lloches a rheoli lloi, asesiadau sgôr cyflwr corff a defnyddio meddyginiaethau milfeddygol mewn modd diogel.
“Enwch chi gwrs – rydyn ni wedi’i wneud e,” meddai Dianna.
Cyhoeddwyd mai nhw oedd enillwyr Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio 2023 yng Ngwobrau Lantra Cymru ym mis Ionawr.
Mae’r wybodaeth a gawsant trwy weithdai Cyswllt Ffermio wedi helpu i lywio newidiadau yn y busnes.
“Erbyn hyn, rydym ni bellach yn monitro pwysau gwartheg yn agosach, ac rydym ni wedi cyflwyno ffyrdd gwahanol o fwydo,” esbonia Dianna.
“Hefyd, rydym ni wedi bod wrthi’n ailwampio siediau’r gwartheg i gyd, ac mae gennym gwpl o rai newydd a fydd yn cael eu hadeiladu.
“Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi mewn siacedi ar gyfer lloi, ac os oes unrhyw ostyngiadau mewn pwysau, rydym ni’n fwy ymatebol gyda chymeriant y porthiant, a phethau bach felly.’’
Mae Iestyn hefyd wedi cael budd o nifer o bynciau’n ymwneud â defaid a gynigiwyd trwy’r gweithdai iechyd anifeiliaid.
Trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, maent wedi cael cyngor milfeddygol arbenigol ar eu Cynllun Iechyd y Fuches gyda ffocws ar stoc sy’n dod i mewn a bioddiogelwch. Maent hefyd wedi cael arweiniad ar iechyd y pridd trwy'r clinig pridd.
Mae’r teulu Spary yn defnyddio dulliau ffermio traddodiadol yn bennaf yn Fferm Goetre, lle mae ganddynt nifer o ddolydd gwair.
Mae’r holl borthiant yn cael ei gynhyrchu ar y fferm. “Trwy wneud popeth yn fewnol, rydym ni’n gwybod yn union beth rydym ni’n ei fwydo ac mae hynny’n bwysig i ni,’’ meddai Dianna.
Mae’r gwahanolrwydd hwnnw, sy’n eu gosod ar wahân i rai o’r systemau ffermio mwy prif ffrwd, wedi rhoi’r hyder iddynt ystyried sefydlu menter arallgyfeirio i werthu bocsys cig, yr hyn y mae Dianna yn ei ddisgrifio fel dull ‘o’r fferm i’r fforc’.
Gan weithio gyda chigydd lleol sydd â thrwydded lladd-dy, maent yn gobeithio gwneud popeth ar y safle, o ladd hyd at hongian y carcas am 28 diwrnod, ac yna gwerthu darnau o gig yn uniongyrchol i'r cwsmer.
“Rydym ni hefyd wedi siarad â chogydd sy’n mynd i gynhyrchu cardiau ryseitiau i ni eu cynnwys yn y bocsys ynghyd ag ychydig o hanes o le mae’r cig wedi dod,’’ meddai Dianna.
Gallai trosi ysguboriau cerrig ar fuarth y fferm yn llety gwyliau fod yn brosiect arall yn y dyfodol.
Er mwyn helpu i ganolbwyntio eu meddyliau ar eu cynlluniau, bydd y teulu Spary yn cael arweiniad mewn cymhorthfa arallgyfeirio Cyswllt Ffermio; maent hefyd wedi cofrestru ar gyfer cwrs hyfforddiant ‘cynllunio ar gyfer arallgyfeirio’ a byddant yn mynd i ddigwyddiad ‘Pethau y dylid eu gwneud a phethau na ddylid eu gwneud wrth arallgyfeirio’ yn yr wythnosau nesaf.
I Iestyn, mae math arall o arallgyfeirio, sef i gontractio amaethyddol, wedi darparu ffrwd incwm eilaidd.
Ffermydd gydag erwau llai gyda chnydau y mae angen eu cynaeafu neu eu chwistrellu yw ei sylfaen cwsmeriaid yn bennaf.
Mae Cyswllt Ffermio wedi helpu gyda’r broses hon hefyd, gan fod Iestyn wedi ennill ei Ddyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Chwistrellu Bŵm wedi’i osod ar Gerbyd (PA2).
Mae hefyd yn cynnig gwaith cynnal a chadw a ffensio caeau ac yn gweithio ar fferm gyfagos yn ystod y tymor wyna.
Dyma lle mae Cyswllt Ffermio wedi helpu eto; drwy’r gweithdai iechyd anifeiliaid, mae wedi ymdrin â modiwlau sy’n rhoi cyngor ar atal colledion wyna a chloffni, gwella perfformiad ŵyn ar ôl diddyfnu a rheoli parasitiaid.
Dywed Dianna fod y cyfleoedd sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio wedi bod o gymorth mawr i fwrw ymlaen â’r busnes ffermio teuluol.
“Mae gennym ni berthynas dda gyda’n swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Lisa Powell; mae hi wedi bod yn wych yn rhoi cyngor i ni ar ba gyrsiau a gweithdai sy’n iawn i ni a’n cofrestru ni ar gyfer y rheini,’’ meddai.
Mae eich holl gyflawniadau, hyfforddiant a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn cael eu cadw o fewn eich cyfrif Storfa Sgiliau personol, ar-lein, yr offeryn datblygiad proffesiynol ar-lein unigryw, sydd ar gael i chi ei weld a’i lawr lwytho unrhyw bryd o’ch cyfrif BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein).