11 Tachwedd 2022

 

Mae sefydlu busnes newydd i dyfu, cyflenwi a dosbarthu bocsys o gynnyrch lleol ffres wedi bod yn fenter ble roedd llawer i’w ddysgu’n gyflym, ond yn un gwerth chweil i Sarah Evans. Mae Sarah yn berchennog balch ar Watery Lane Produce, meithrinfa blanhigion fechan a busnes dosbarthu llysiau mewn bocs wedi’i leoli ar fferm âr a bîff teuluol 500 erw yn Eyton, lle mae’n byw gyda’i gŵr Will a’u pedair merch oed ysgol. Mae Sarah yn canmol cyngor arallgyfeirio, mentora un-i-un, hyfforddiant a chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio i helpu i gael cychwyn gwych i’w menter busnes yn gynharach eleni.

“Rwy’n teimlo fy mod o’r diwedd wedi dod o hyd i’r swydd ddelfrydol oherwydd nid yn unig yr wyf yn buddsoddi amser mewn rhywbeth rwy’n ei fwynhau ac yn teimlo’n angerddol amdano, ond mae gweithio gartref wedi rhoi’r hyblygrwydd i mi dreulio mwy o amser gyda fy nheulu.”

Mae Sarah, sydd wedi graddio mewn seicoleg, ac sydd hefyd â gradd meistr mewn gweinyddu busnes, yn cyfaddef nad oedd ganddi ‘ddiddordeb o gwbl mewn garddio’ tan gyfyngiadau’r cyfnod clo.

“Rhwng sesiynau dysgu gartref, yn sydyn cefais foddhad mawr yn gofalu am ardd y fferm, a oedd wedi cael ei hanwybyddu i raddau helaeth pan oedd y plant yn iau, a lle sylweddolais yn sydyn fy mod yn hoff iawn o arddio a thyfu pethau!”

Cafodd yr hadau ar gyfer ei menter bocsys llysiau newydd eu hau gyntaf pan gafodd Sarah ei hysbrydoli gan raglen deledu am y nifer cynyddol o dyfwyr garddwriaethol ar raddfa fach sy’n manteisio ar ofynion prynwyr sy’n awyddus i brynu cynnyrch ffres, wedi’i dyfu’n lleol, yn hytrach na chefnogi archfarchnadoedd ar raddfa fawr.

“Fe wnaeth y pandemig a’i gyfyngiadau newid y ffordd mae llawer o bobl yn byw eu bywydau, ac i lawer, roedd hynny’n cynnwys y ffordd maen nhw’n siopa.

“Mae fy sylfaen cwsmeriaid, sy’n cynnwys tri busnes manwerthu bach, i gyd yn cefnogi’r cysyniad o archebu ar-lein ar gyfer danfoniadau wythnosol o gynnyrch organig lleol, oherwydd nid yn unig y mae’n blasu’n well, mae’n ffactor mor bwysig o ran lleihau ein hôl troed carbon,” meddai Sarah.

Cyn i Sarah a Will hyd yn oed ddod o hyd i lain dyfu addas i ddechrau ei menter newydd – penderfynodd ddefnyddio traean erw o dir gwastad yn agos at y ffermdy – dechreuodd ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer sefydlu menter newydd. Ei blaenoriaethau oedd tyfu cymaint ag y gallai hi ei hun gan ddefnyddio cymysgedd o systemau confensiynol a ‘dim trin, ond hefyd ehangu’r ystod o gynnyrch y gallai ei rhoi mewn bocsys a’u cyflenwi trwy gysylltu â chynhyrchwyr organig lleol eraill.

“Fe wnes i droi at Cyswllt Ffermio cyn i mi blannu fy rhes gyntaf, felly rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi gallu cael cyngor arbenigol cyn i mi wneud gormod o gamgymeriadau costus sy’n cymryd gormod o amser.”

Daeth cefnogaeth Sarah yn gyntaf trwy fynychu cymhorthfa farchnata ac arallgyfeirio Cyswllt Ffermio.

“Fe’i trefnwyd ar-lein oherwydd cyfyngiadau’r pandemi,g ac roedd yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau gan arbenigwr arallgyfeirio gwledig.

“Fe ddes i oddi yno gyda rhestr wirio o’r holl faterion yr oedd angen i mi eu hystyried, o ba gostau cychwynnol y dylwn eu disgwyl – ychydig, yn rhyfeddol, ar y dechrau – a sut oeddwn i’n mynd i dargedu cwsmeriaid newydd ac adeiladu gwefan a phresenoldeb ar-lein, i faint y fenter y gallwn anelu ati.”

Yn fuan wedyn, gwahoddwyd Sarah i ymuno â grŵp ‘garddwriaeth’ Agrisgôp Cyswllt Ffermio, a hwyluswyd gan yr arweinydd Gwen Davies, a oedd wedi dod â grŵp o ddarpar dyfwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd. Gyda’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein, dywed Sarah fod cefnogaeth aelodau eraill, yn ogystal â’r llu o arbenigwyr a chynhyrchwyr a gyflwynodd Gwen i’r grŵp, o fudd aruthrol.

“Gwnes i gysylltiadau gwerthfawr iawn trwy grŵp Gwen, ac mae llawer ohonom sydd bellach yn rhedeg mentrau garddwriaeth amrywiol llwyddiannus yn dal mewn cysylltiad rheolaidd.

“Roedd yn help mawr i rannu profiadau a chyngor, a hefyd ymweld ag unigolion o’r un anian sydd eisiau sefydlu neu ehangu mentrau cynnyrch cartref.

“Daeth Gwen â siaradwyr i mewn a oedd yn sôn am feysydd fel sefydlu sianeli cyfryngau cymdeithasol ac archebu ar-lein. Roedd digon o gyngor ar ble i brynu fy nhwnnel polythen cyntaf a dod o hyd i’r caban symudol bach ail-law rydw i’n ei ddefnyddio nawr ar gyfer pwyso a phacio.”

Nesaf i ddarparu cefnogaeth oedd Philip Handley, un o fentoriaid cymeradwy Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu’n llawn, garddwriaethwr profiadol sy’n rhedeg gardd gegin fasnachol yng Ngogledd Cymru, sydd hefyd yn safle ffocws Cyswllt Ffermio. Gydag arweiniad Philip, mae Sarah yn canolbwyntio ar lysiau gwyrdd deiliog tymhorol, cynnyrch elfennol yr haf fel tomatos, ciwcymbrau a chourgettes yn ogystal â phys, ffa ac ystod fach o wreiddlysiau, gan brynu unrhyw eitemau nad yw hi'n eu cynhyrchu ei hun gan dyfwyr lleol eraill i ehangu ei hystod.

“Mae Philip yn hynod wybodus ac roedd mor gefnogol, gan fy ngwahodd i ymweld â’i ardd a fy nghynghori ar yr hyn y gallwn anelu ato, a sut i oresgyn problemau tywydd (fel gwyntoedd y gwanwyn a allai fod wedi dinistrio fy nhwnnel polythen newydd yn hawdd ac yna’r gwres eithafol yr haf diwethaf).

“Gyda chanllawiau mentora Philip, rydw i wedi sicrhau nad ydw i’n dibynnu ar becynnau plastig, bod gennyf gyn lleied â phosibl o wastraff, ac rwy’n ailgylchu popeth o fewn fy ngallu.
“Rwyf wedi cymryd ei gyngor ar ddyfrhau, ac wedi plannu yn ôl y galw tymhorol, gyda strwythur prisio sy’n fy nghadw’n gystadleuol gyda chynnyrch organig sydd ar gael mewn archfarchnadoedd.”

Er bod bywyd mwy neu lai yn ôl i’r arferol ar ôl y pandemig erbyn hyn, dywed Sarah nad yw ei sylfaen cwsmeriaid cynyddol yn dangos unrhyw arwyddion o roi'r gorau i'w cyflenwadau wythnosol o gynnyrch ffres wedi'i dyfu'n organig.

“Rwyf wedi dod o hyd i swydd rwy’n teimlo’n angerddol amdani, rwy’n gwneud fy rhan dros yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd, ac rwyf hefyd yn addysgu fy mhedwar plentyn ar yr holl faterion pwysig hyn!”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter
Ffermwr yn cael y gorau o’i gnydau gyda chymorth cwrs agronomeg wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio
29 Awst 2024 Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio
Modiwlau e-ddysgu am ddim yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar fferm deuluol
27 Awst 2024 Mae bioamrywiaeth yn ganolog i ddull Peter a Cathryn