27 Awst 2024

 

Mae bioamrywiaeth yn ganolog i ddull Peter a Cathryn Richards o ffermio, gan gyfoethogi’r amgylchedd ar gyfer pryfed ac adar tir fferm gyda digonedd o flodau gwyllt a rhywogaethau glaswellt ar eu tir.

Mae’r brawd a’r chwaer wedi bod yn ffermio ar Fferm Wernddu Uchaf, sef fferm 52 erw sy’n cynnwys cymysgedd o dir pori a dolydd yng Nghwm Clydach ers 1992.

Mae’r tir wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth amgylcheddol ers iddynt brynu’r fferm, ond mae ymddeol o’u swyddi – Peter fel deintydd a Cathryn fel fferyllydd – wedi rhoi hwb o’r newydd iddynt i edrych ar sut maen nhw’n rheoli’r tir.

Gan eu bod yn awyddus i ddysgu mwy am ffermio law yn llaw gyda’r amgylchedd, fe wnaethant ymgeisio am gymorth drwy raglen fentora Cyswllt Ffermio, gan ddewis Hywel Morgan, ffermwr defaid o Sir Gâr, fel mentor.

Mae’n ffermwr sy’n rhannu eu meddylfryd. “Fe wnaethom ni ddewis Hywel gan ei fod yn ymddiddori mewn bioamrywiaeth a stiwardiaeth cefn gwlad,” meddai Cathryn. “Mae Hywel mor frwdfrydig. Daeth yma i’r fferm ac fe aethom ni i weld ei fferm ef, ac mae ei wybodaeth wedi bod yn hynod werthfawr i ni.”

Mae’r rhan fwyaf o fferm Wernddu Uchaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori gan ffermwr bîff a defaid lleol, ac mae dau o’r caeau’n cael eu pori gan geffylau. Mae’r teulu Richards hefyd yn cynhyrchu gwair o’r dolydd.

Maen nhw’n awyddus i ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy pan gaiff ei lansio, ac i baratoi ar gyfer hynny, maent wedi bod yn cwblhau cyfres o fodiwlau e-ddysgu Cyswllt Ffermio am ddim, popeth o bontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ddatblygu ffrwythlondeb y pridd a chynllunio rheoli maetholion.

Mae’r cyfresi e-ddysgu achrededig hyn, sydd ar gael i Peter a Cathryn drwy eu cyfrif BOSS ar-lein, wedi’u helpu i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i adeiladu ar yr hyn yr oeddent eisoes yn ei wybod. “Fe wnaethom ni ddysgu llawer iawn,” meddai Cathryn.

Mae hyblygrwydd wedi bod yn bwysig iawn – roedd modd cwblhau’r modiwlau yn eu hamser eu hunain. “Fe wnaethom ni gwblhau modiwl bob gyda’r nos am ryw bythefnos neu dair wythnos, am awr y dydd am 6pm a oedd yn gyfleus i ni,” meddai Peter.

Mae tystiolaeth o’r modiwlau a gwblhawyd ganddynt yn cael ei storio ar adnodd storio data ar-lein Cyswllt Ffermio, sef y ‘Storfa Sgiliau’, sydd ar gael yn eu cyfrif BOSS ar-lein.

Dywed y teulu Richards bod cymorth gan eu swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Dewi Jones, wedi bod o fudd mawr.

“Rydym ni’n gallu codi’r ffôn i siarad gyda Dewi unrhyw bryd. Mae gwybod ei fod wrth law i helpu wedi bod yn hanfodol,” meddai Cathryn.

Gyda chymorth Dewi, derbyniodd Peter a Cathryn gymhorthfa isadeiledd un-i-un pan oeddent yn dechrau ar y broses o gynllunio sied newydd.

“Roedd y cyngor a gawsom ynglŷn â lleoli’r sied o ran materion megis cyflenwad dŵr yn ddefnyddiol iawn,” meddai Peter.

Yn eu swyddi meddygol, roedd datblygiad proffesiynol parhaus yn gyfarwydd iawn i Peter a Cathryn, ac o ganlyniad, maent yn cydnabod pwysigrwydd gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn eu rôl fel ffermwyr hefyd.

Maen nhw’n ddiolchgar i Cyswllt Ffermio am y cyfle.

“Gwyddwn fod angen i ni sicrhau ein bod yn cael gwybodaeth gyfredol am yr holl ddatblygiadau newydd ym myd amaeth a rheoliadau newydd, ac mae gallu gwneud hynny drwy fodiwlau e-ddysgu a gwasanaethau eraill sydd ar gael am ddim yn fuddiol iawn,” meddai Peter.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites