26 Chwefror 2019

 

Mae ymgyrch recriwtio Cyswllt Ffermio ar gyfer ymgeiswyr Academi Amaeth 2019 ar agor!

Lansiwyd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, rhaglen Academi Amaeth 2019 yn nigwyddiad frecwast blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, 22 Ionawr.

Mae’r Academi Amaeth, sydd yn agosáu at ei seithfed flwyddyn a gyda 200 o alumni, yn dwyn at ei gilydd rai o’r bobl fwyaf addawol sy’n datblygu eu gyrfa yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw.

Yn cynnwys tair elfen benodol, mae rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth, ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Mae’r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig cyfle datblygu personol a busnes i helpu i wynebu sialensiau ffermio yn y dyfodol, tra Rhaglen yr Ifanc, a redir mewn partneriaeth â CFfI Cymru, wedi ei dargedu ar bobl ifanc 16-19 oed sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau bwyd a ffermio.

Dyma beth oedd gan rhai un alumni i ddweud am eu profiad nhw gyda’r Academi:

 

Branwen Miles, Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig 2017

 

branwen miles 0

Mae Branwen Miles (25) yn gyn aelod o ddosbarth 2017 o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ac yn siaradwr Cymraeg a Ffrangeg rhugl. Cafodd ei phenodi’n ddiweddar fel Swyddog Prosiect gan y Sefydliad Perchnogion Tir Ewropeaidd ym Mrwsel. Fel rhan o’r swydd, bydd angen iddi ymweld ag ardaloedd gwledig ledled Ewrop i hybu ystod o brosiectau yn ymwneud ag amaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd Ewropeaidd.

Magwyd Branwen ar fferm laeth organig 310 erw’r teulu ger Hwlffordd, wedi i’w rhieni, sy’n ffermwyr cenhedlaeth gyntaf, symud o Geredigion ar ddiwedd y 90au. Mae hi wrth ei bodd yn mynd adref, mae’n mwynhau cynnig help llaw gyda buches y teulu o 120 o wartheg, ac mae ganddi ddiddordeb mawr yng nghynllun y teulu i drawsnewid i odro robotig. Roedd ei thad, Dai, yn un o aelodau cyntaf yr Academi Amaeth, ac yn llysgennad brwd pan soniodd Branwen am ymgeisio yn wreiddiol!

Bu Branwen, a fu’n gweithio fel ymgynghorydd polisi gyda CLA Cymru cyn ei swydd bresennol, yn astudio gwleidyddiaeth ryngwladol a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a oedd yn cynnwys blwyddyn yn astudio yn Strasbwrg. Mae gweithio dramor wedi bod yn freuddwyd iddi erioed.   

“Mae’r Academi Amaeth yn rhwydwaith gwych o gefnogaeth, lle mae syniadau a chyngor yn cael eu rhannu’n barod iawn, a lle mae ffrindiau oes yn cael eu gwneud – rydym ni’n dal i ddefnyddio ein grŵp Whatsapp!

“Pan fo eraill yn rhoi ffydd ynddoch chi, rydych chi’n dechrau credu yn eich gallu eich hun a sylweddoli bod angen i chi fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a ddaw, hyd yn oed os mae hynny’n golygu mynegi eich barn yn onest ar brydiau. 

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n awyddus i weithio ym Mrwsel ond gyda Brexit, mae’n bosibl na fyddai’r cyfle hwnnw’n digwydd eto.   Pan ddaeth y cyfle, rwy’n sicr mai’r hyder a gefais drwy’r Academi Amaeth a wnaeth i mi fanteisio arno!”

“Roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i eisiau gyrfa lle’r ydw i’n rhan o’r agwedd polisi amaethyddol yn hytrach na ffermio ar lawr gwlad, ond mae fy nghysylltiadau parhau sy’n Academi Amaeth a’r fferm deuluol yn golygu nad yw’r caeau a’r dom da byth yn rhy bell i ffwrdd!”

 

Jacob Anthony, Rhaglen Busnes ac Arloesedd 2014

 

jacob anthony 0

Mae’r ffermwr pumed genhedlaeth, Jacob Anthony, yn gyn-aelod o Raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn 2014.  Mae Jacob yn ffermio ar y fferm deuluol yng Nghwm Rhisga, Tondu, ger Pen-y-bont, ac fe enillodd deitl Ffermwr Ifanc y Flwyddyn y Farmers Weekly yn 2018.

Yn eu beirniadaeth, dywedodd y beirniaid fod Jacob yn frwdfrydig iawn dros gynnydd, a’i fod wedi cymryd pob cyfle i wella ar ei ddealltwriaeth, diweddaru ei systemau rheolaeth a sefydlogi ei lif arian. Dywed Jacob fod ei brofiad gyda’r Academi Amaeth wedi cyfrannu’n helaeth at ei ddatblygiad personol, ac y byddai’n argymell y rhaglen i unigolion eraill sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.

Wedi iddo gwblhau diploma amaeth dros dair blynedd yng Ngholeg Hartpury, dychwelodd Jacob i Gwm Rhisga, gan dderbyn cyfrifoldeb llawn am y fenter ddefaid.  Mae bellach yn cadw 1,000 o famogiaid magu Lleyn x Texel, ynghyd â 300 o wartheg, gan gynnwys 110 o wartheg sugno Limousin/Charolais croes, a 10 o Wartheg Duon Cymreig Pur.

Ers dychwelyd i’r fferm deuluol, mae wedi cymryd camau i wella effeithlonrwydd a lleihau costau mewnbynnau. Fel aelod brwd o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio, cyflwynodd Jacob system drin defaid newydd yn ddiweddar, sydd wedi cynorthwyo i hwyluso’r gwaith o reoli’r ddiadell. 

“Rwy’n credu’n gryf bod angen parhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth gan mai dyna’r unig ffordd y byddwch yn datblygu eich busnes a sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o bobl cyfle i wella perfformiad.   

“Rhoddodd fy mhrofiad gyda’r Academi Amaeth hyder sylweddol i mi, ynghyd â sgiliau newydd a rhwydwaith newydd o unigolion o’r un meddylfryd a mentoriaid llawn ysbrydoliaeth.

“Byddem yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth i wneud hynny. Mae wedi bod yn brofiad arbennig i nifer ohonom, sydd wedi cynnig buddion personol ac wedi ein cynorthwyo i ddatblygu ein cymhwysedd busnes yn ogystal.”

 

Fflur Roberts, Rhaglen yr Ifanc 2017  

 

fflur roberts 0

Cwblhaodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Caereinion, Fflur Roberts, Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn 2017. Mae Fflur, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ar hyn o bryd ar ei blwyddyn olaf yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 ar gampws Ysgol Amaethyddiaeth NPTC ym Mronlas, Y Drenewydd. 

Magwyd y ffermwr ifanc uchelgeisiol ar y fferm fynydd deuluol yn Llangadfan. Mae Fflur yn benderfynol o gyfuno astudiaethau academaidd gyda phrofiad gwaith ymarferol, a phan nad yw’n mynychu’r coleg, mae hi’n gweithio ar sail ran amser ar fenter laeth, defaid a dofednod lleol, yn ogystal â chynnig help llaw gartref.

Mae Fflur yn rhoi clod i’w phrofiad fel rhan o’r Academi Amaeth am roi’r hyder iddi anelu’n uchel ar gyfer y dyfodol, a dywed ei fod wedi ei gwneud hi’n fwy penderfynol i symud ymlaen i addysg uwch, sy’n rhywbeth nad oedd wedi’i ystyried yn flaenorol.   Dywed fod y rhaglen wedi amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn amaeth, ac mae’n gobeithio y bydd ei hagwedd uchelgeisiol newydd, ynghyd â’i dyfalbarhad a’i gwaith caled, yn helpu i’w harwain at yrfa werth chweil.

Mae Fflur, sy’n 18 mlwydd oed, wedi cyflawni nifer o lwyddiannau hyd yma.  Yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2018, daeth yn ail yng nghystadleuaeth Dysgwr Ifanc y Flwyddyn, Lantra, a derbyniodd ei gwobr gan Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Egni a Materion Gwledig. Yn ogystal, enillodd y wobr gyntaf a’r Uwch Bencampwr yng nghategori Prif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI, yn ogystal â’r ail wobr yn y categori Carcas (Mynydd).

Mae Fflur yn chwaraewr rygbi brwd, ac yn aelod gweithgar o CFfI Llanfair Caereinion, a bu’n cynrychioli’r clwb ar lefel leol a lefel sirol. Dywed Fflur fod yr Academi Amaeth wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.

“Mae’r Academi Amaeth wedi’i gywasgu i dri phenwythnos neu daith astudio, ond fydden i byth wedi credu pa mor ysbrydoledig a gwerthfawr fyddai’r rhaglen, na pha mor werthfawr fyddai’r cysylltiadau a wnes i.

“Cyn ymuno, roedd fy niffyg dealltwriaeth yn cyfyngu ar fy natblygiad, ac roedd fy nyheadau ar gyfer y dyfodol yn gymharol fach, felly byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio i fanteisio ar y cyfle gwych hwn.”

Bwriad Fflur ar gyfer y cam dysgu nesâd yw mynd i’r brifysgol, lle hoffai astudio marchnata bwyd amaeth. Yn ogystal, mae’n awyddus i gwblhau taith astudio i Seland Newydd i roi safbwynt gwahanol iddi o ran cynhyrchu cig coch.

“Fe wna i fanteisio ar unrhyw gyfle a ddaw. Rydw i eisiau magu profiad, ac rwy’n awyddus i ddysgu gan eraill. Mae gen i’r meddylfryd iawn erbyn hyn, diolch i’r Academi Amaeth.”

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2019 yn agor ar 22 Ionawr ac yn cau ar 31 Mawrth. Er mwyn bod yn gymwys rhaid bod yn bartneriaid busnes, aelodau o deulu agos (priod, meibion a merched) a gweithwyr (ar PAYE) busnesau sydd wedi eu cofrestru â Cyswllt Ffermio.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm