11 Tachwedd 2020
Mae fferm laeth yng Nghymru yn sicrhau 4,100 litr o laeth o borthiant ers iddi wella ei threfniadau rheoli glaswelltir.
Mae Fferm Bryn yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, yn cael ei ffermio gan dair cenhedlaeth - Ivor Hughes, ei fab Dilwyn, a'i ŵyr Aled Potts.
Ymunodd Aled â'r busnes ar ôl astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Llysfasi yn y lle cyntaf, ac yn nes ymlaen, astudiodd rheoli fferm laeth yng Ngholeg Reaseheath, ac roedd yn awyddus i ddefnyddio rhywfaint o'r wybodaeth a ddysgodd.
Mae'r busnes yn mynd trwy'r broses o newid ei phroffil cynhyrchu llaeth o un lle y mae'n lloia trwy gydol y flwyddyn i loia mewn bloc yn yr hydref, a gweithredwyd systemau er mwyn sicrhau mwy o werth o'r borfa a dyfir ar y daliad 81 hectar (200 erw).
Er mwyn cyfrannu at ei benderfyniadau ynghylch rheoli porfa, llwyddodd Aled i sicrhau lle ar raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ar ddechrau 2020; bellach, mae'n aelod o'r Grŵp Llaeth Uwch.
“Roeddem yn dymuno sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o'r borfa yn niet y gwartheg,” dywedodd Aled, sy'n 27 oed.
Yn flaenorol, porwyd y gwartheg ar sail system pori stribedi, ond gyda chymorth Precision Grazing, hwyluswyr rhaglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio 2020, crëwyd 23 o badogau; mae rhai ohonynt yn 1 hectar ar gyfer pori 24 awr ac mae eraill yn rhai 0.5 hectar ar gyfer 12 awr.
“Rydym yn targedu 100 o wartheg, felly hwn oedd y rhif oedd yn fy meddwl i pan aethom ati i greu'r padogau,” dywedodd Aled.
Ar hyn o bryd, mae'n cadw 80 o wartheg Freisian, felly tynnwyd rhai o'r padogau hyn allan o'r cylchdro ar gyfer silwair yn ystod tymor pori 2020.
Ar hyn o bryd, mae'r fuches yn cynhyrchu 7,200 litr o laeth fesul buwch/blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.4% braster menyn a 3.56% protein, a chynhyrchir 4,100 litr yn seiliedig ar borthiant.
Mae'r fferm yn cadw diadell o famogiaid croes-Texel hefyd, a hanerwyd y niferoedd i 200 gan bod nifer y gwartheg yn cynyddu.
Mae hanner y ddiadell yn ŵyna cyn y Nadolig ac mae'r gweddill yn ŵyna yng nghanol mis Ionawr, er mwyn sicrhau bod digon o borfa ar gael i'r gwartheg pan fydd hi'n bryd eu troi allan.
Mae Aled yn mesur y borfa bob wythnos gan ddefnyddio mesurydd plât yn ystod y tymor pori, er mwyn cyfrannu at ei benderfyniadau.
"Nid oeddem yn arfer rheoli'r borfa gystal ag yr ydym yn ei wneud nawr, roeddem ni’n arfer ransio'r caeau, gan ddyfalu ble y byddent yn pori nesaf,” dywedodd.
“Bellach, rydym yn gwybod pa badog y byddwn yn ei bori ymhen saith diwrnod ac os bydd gennym ormod o borfa, rydym yn gwybod bod angen i ni dynnu padogau allan o'r cylchdro.”
Mae Aled yn gwneud defnydd da o'r cymorth parhaus y mae'n ei gael trwy raglen Rhagori ar Bori. “Rydw i wedi dod i sylweddoli nad oes y fath beth â chwestiwn twp, mae hi wastad yn well gofyn a chael y cyngor cywir, a'r unig beth y mae angen i mi ei wneud yw codi'r ffôn a chael sgwrs gyda'r ymgynghorydd.”
Mae'n dweud bod y rhaglen wedi peri iddo fod yn fwy dewr wrth wneud penderfyniadau.
“Heb os, byddwn yn ei hargymell i eraill, rydym yn cael llawer mwy o'n porfa ac mae hynny'n beth da i'n cost cynhyrchu,” dywedodd.
Cynhelir cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer Rhagori ar Bori rhwng 26 Hydref a 26 Tachwedd 2020. I fod yn gymwys i ymgeisio, rhaid bod gan ymgeiswyr Gynllun Rheoli Maetholion a luniwyd yn ddiweddar ac os bydd angen cymorth arnynt gyda hwn, fe'u cynghorir i gysylltu â'u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.