4 Chwefror 2021

 

Mae Jonathan Scott yn rhedeg buches o 270 o wartheg godro ar ei fferm 440 erw ger Wrecsam, y mae'n ei ddal fel tenant. Yn 2016, roedd TB Buchol wedi cael effaith andwyol ar fferm Jonathan, gan leihau maint ei fuches yn sylweddol i 180 o wartheg croesfrid, felly cysylltodd â Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

Flwyddyn yn ddiweddarach, diolch i gynllun busnes pum mlynedd a ddarparwyd gan Neil Blackburn o gwmni Kite Consulting, un o gynghorwyr cymeradwy Cyswllt Ffermio, mae Jonathan wedi trawsnewid effeithlonrwydd a phroffidioldeb y busnes.

Yn 2008, ymgymerodd Jonathan â thenantiaeth Fferm Hanmer Mill, Wrecsam oddi wrth ei dad, er bod ei dad sy'n weithgar o hyd yn cymryd cryn ddiddordeb ac yn llwyr gefnogol o'r newidiadau y mae ei fab yn eu gwneud o flwyddyn i flwyddyn. Ar ôl cael ei fagu ar y fferm, roedd Jonathan, sydd wedi graddio o Goleg Rease Heath ar ôl astudio diploma cenedlaethol mewn amaethyddiaeth, eisoes yn gyfarwydd â phob agwedd ar y patrwm dyddiol ar uned laeth fawr. Ar ôl gorffen yn y brifysgol, bu'n gweithio fel technegydd bridio i gwmni geneteg anifeiliaid rhyngwladol. Ond ar ôl treulio 10 mlynedd yn byw ac yn gweithio i ffwrdd, roedd yn barod i ddychwelyd gartref i'r fferm deuluol yn llawn amser.

“Roedd fy swydd wedi cynnig dirnadaeth i mi o nifer o wahanol fusnesau fferm, yr oedd ganddynt oll ffyrdd gwahanol iawn o weithredu ac o gael eu rheoli.

“Roeddwn yn awyddus i ddarganfod a fyddai modd cael ffyrdd mwy effeithlon a mwy proffidiol o ffermio llaeth, heb ddefnyddio cymaint o lafur.

“Roeddwn eisoes wedi perswadio fy nhad i symud i ffwrdd o'i fuches draddodiadol a oedd yn cynnwys dros 110 o wartheg Holstein, yr oedd wedi bod yn ei rhedeg ar sail bloc lloia trwy gydol y flwyddyn yn flaenorol, oherwydd yr oeddwn yn siŵr y byddai brid mwy cydnerth yn fwy addas i'n system ffermio ni, gan ddibynnu llai ar lafurlu.

“Roeddwn yn argyhoeddedig y byddai buches o wartheg croesfrid da yn dwyn nifer o fanteision, gan gynnig cymarebau ffrwythlondeb gwell, iechyd traed gwell, a fyddai'n lleihau problemau cloffni, a gallem sicrhau protein braster uwch yn y llaeth, sy'n bwysig, ac roeddwn yn gwybod y byddai hyn yn apelio i'n prynwr, Arla.”

Wrth i'r fuches newydd gynnig canlyniadau cadarnhaol iawn yn barod, a'i dad yn gefnogol, roedd Jonathan yn teimlo ei fod yn gwneud cynnydd da ac yn gwneud penderfyniad busnes doeth.

“Roeddwn yn gwybod fy mod i wedi gwneud cychwyn da, ond nid oedd gennyf weledigaeth glir o hyd am y newidiadau pellach y gallem eu gwneud i fanteisio i'r eithaf ar bob adnodd sydd ar gael ar y fferm.”

Yn 2019, cysylltodd â Cyswllt Ffermio, ymgeisiodd am y Gwasanaeth Cynghori, a chyn bo hir, roedd yn cydweithio'n agos gyda Neil Blackburn, cynghorydd fferm profiadol i Kite Consulting, un o gwmnïau ymgynghori busnes cymeradwy y rhaglen.

“Mae arbenigedd a chymorth Neil wedi bod yn hollbwysig i'r newidiadau yr ydym yn eu cynllunio ar gyfer y cyfnod twf a datblygu nesaf nawr.

“Cerddom o gwmpas y fferm gyfan gyda'n gilydd, gan feithrin perthynas waith gref yn gyflym, a gydag arbenigedd ac arweiniad Neil, mae gennyf yr hyder i barhau ar y daith hon nawr, gan wneud y newidiadau ychwanegol a gyflwynodd yn ein cynllun busnes pum mlynedd newydd.

“Cawsom ein cynghori gan Neil i barhau gyda'r croesfridiau ond hefyd, i weithredu system lloia bloc newydd yn yr hydref a strategaeth pori mewn cylchdro newydd,” dywedodd Jonathan.

Mae hyn yn golygu y gellir symud y gwartheg y tu allan yn gynnar yn y gwanwyn, yn hytrach na'u cadw dan do, ac arweiniodd hyn yn gyflym at ostyngiad sylweddol mewn costau porthiant, llafur a pheiriannau.

“Roedd y system newydd yn golygu y gallem gynyddu maint y fuches i 270, ac yn ei dro, roedd hyn wedi caniatáu i ni wneud defnydd gwell o seilwaith presennol y fferm, gan fanteisio i'r eithaf ar allbwn ein platfform pori,” dywedodd Jonathan.

Gyda chymorth gwaith modelu ariannol Neil a thrwy feincnodi gydag unedau llaeth llwyddiannus eraill, roedd hi'n amlwg bod y cyfanswm y llaeth a gynhyrchwyd gan y gwartheg croesfrid yn cymharu'n ffafriol yn erbyn buchesau Holstein sy'n sicrhau perfformiad uchel. Yr hyn nad oedd yn perfformio cystal oedd cadw'r holl wartheg eidion. Cynghorwyd Jonathan gan Neil i stopio magu gwartheg bîff, gan ryddhau arian, adeiladau, tir ac amser, gan ganolbwyntio ar gynyddu niferoedd y gwartheg yn lle hynny.

Arferai pob buwch Holstein gynhyrchu tua 10,000 litr o laeth y flwyddyn, gyda tua 4.0% braster menyn a 3.3% protein, ond roedd cyfradd gadw uchel a chostau bwydo uchel er mwyn sicrhau hyn, ond gall y gwartheg croesfrid gynhyrchu hyd at 8,500 litr y flwyddyn, gyda tua 4.2% braster menyn a 3.5% protein.

Mae'n amlwg bod y fuwch mwy cadarn yn addas i system Fferm Hanmer Mil, ac mae Arla wedi bod yn falch gyda'r cynnwys llaeth gwell. Ar ôl gweithredu'r newidiadau a argymhellwyd, ceir 270 o wartheg croesfrid Holstein x Norwegian Red x Fleckvieh neu Montbeliard, a brynwyd i mewn o'r Iseldiroedd yn wreiddiol, ond y maent yn cael eu magu yma erbyn hyn, yn y fuches.

Yn ogystal, cynghorwyd Jonathan gan Neil i newid ei system borthiant, a oedd wedi bod yn seiliedig ar silwair porfa i raddau helaeth yn flaenorol, gydag oddeutu 20 erw o indrawn yn cael ei dyfu a 70 erw pellach o gnwd cyfan a betys porthiant yn cael ei brynu i mewn. Trwy gynyddu nifer yr erwau tyfu indrawn i 127 erw, a lleihau nifer yr erwau tyfu cnwd cyfan ar gyfer ffenestr diwedd yr haf yn unig, mae hyn wedi arwain at gyfundrefn fwydo mwy cost-effeithiol, gan gynyddu solidau/cynhyrchiant llaeth.

Cynghorwyd Jonathan gan Neil i ymuno â grŵp prynu lleol hefyd, a oedd yn golygu y gallai brynu dwysfwyd i mewn am brisiau mwy cystadleuol.

“Trwy brynu'r dwysfwyd am bris is a sicrhau porthiant cyfun ac o fath unigol am bris mwy cystadleuol, rydw i wedi gallu arbed 2 geiniog y litr ar borthiant a brynir mewn cyfnod o 12 mis, sy'n cyfateb ag arbed tua £34,000 y flwyddyn,” dywedodd Jonathan. 

Mae'r newid o ran dull yn golygu bod y fferm yn cynhyrchu 3,800 litr o laeth o borthiant erbyn hyn, i fyny o'r 3,200 litr a gynhyrchwyd cyn y gwelwyd effaith y cyfundrefnau bwydo a'r strategaeth bori newydd. Bellach, mae'n debygol o sicrhau 10,000 litr o laeth y flwyddyn fesul buwch erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Jonathan yw'r cyntaf i ddweud bod cyngor Neil wedi trawsnewid effeithlonrwydd a phroffidioldeb y fferm.

“Roedd y cynllun busnes wedi rhoi nodau clir i ni weithio tuag atynt, rydym yn gwybod ble'r ydym yn sefyll, a ble y mae angen i ni fod ymhen pum mlynedd.

“Mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo o hyd, ond diolch i'r cynllun busnes y llwyddom i'w sicrhau trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a chymorth parhaus Neil, rydym mewn sefyllfa llawer cryfach i wynebu'r dyfodol yn obeithiol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o