6 Tachwedd 2020

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Jeff Wheeler, ffermwr llaeth o’r drydedd
genhedlaeth o Efail Wen yn Sir Benfro wedi cynyddu proffidioldeb a chynaliadwyedd,
gan hefyd leihau ôl troed carbon y fferm yn sylweddol.

“Mae llawer o ffermwyr yn meddwl nad yw’r nodau hyn yn cyd-fynd â’i gilydd, ond mae’r cyfan yn cyd-fynd” dywedodd Jeff. Diolch i gyngor mentora arbenigol a hyfforddiant trwy gymhorthdal gan Cyswllt Ffermio, mae Jeff a’i wraig Sarah, milfeddyg sydd wedi ymddeol, wedi gweld cynnydd sylweddol ar eu daliad 230 erw. Maent yn awr yn cyfrannu at niwtraleiddio allyriadau carbon o’r fferm trwy gyfuniad o reoli coetir yn weithredol, cynllunio iechyd anifeiliaid a strategaeth reoli pori sydd wedi gwella yn sylweddol.

“Mae’n ddull gyda nifer o dargedau sy’n cael canlyniadau gwych gan warchod yr amgylchedd hefyd,”

Mae’r fferm yn cynnwys coetir coed llydanddail 40 erw o dderw, ynn a bedw. Nid oedd y coed wedi eu cyffwrdd ers degawdau, ond mae’r mentor coetir Cyswllt Ffermio, Neil Stoddard wedi helpu Jeff i drawsnewid yr ased hwn oedd yn dirywio yn goetir ffyniannus sy’n awr yn ennill llawer mwy na mae’n ei gostio i’w chynnal, ac mae’r elw yn ddi-dreth. Bydd y gwaith adfer a wnaed yn cynnig buddion tymor hir, yn arbennig ar gyfer y buchod sy’n cerdded ar hyd traciau sydd wedi eu gwella ac yn cael eu cadw mewn trefn, gan leihau’r risg o gloffni a phroblemau eraill sy’n gysylltiedig â stoc yn croesi cynefin gwael.

Mae dros chwe blynedd ers i Jeff a Sarah gyfnewid buches Holstein bedigri’r teulu am 150 o fuchod croesfrid sydd yn awr yn cynhyrchu tua un filiwn litr o laeth o safon uchel y flwyddyn, sy’n cael ei werthu i gynhyrchu caws i First Milk.

“Mae gwartheg croesfrid yn cynhyrchu buchod caletach sy’n dueddol o fod yn llai ac iachach sy’n golygu eu bod allan yn pori am gyfnod hwy; maen nhw’n cynhyrchu llai o dail a methan ac yn gyffredinol mae arnyn nhw angen llai o wrthfiotig na llawer o fridiau eraill.”

Mae Jeff a Sarah hefyd wedi dilyn amryw o gyrsiau hyfforddi gyda chymhorthdal Cyswllt Ffermio gan gynnwys trimio traed, cloffni gwartheg, hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli pori.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter