25 Ionawr 2023

 

“Nid yw’r buddsoddiad o ran arian parod ac ymrwymiad ar gyfer menter dwristiaeth newydd ar gyfer y gwangalon, ond pan fyddwch chi’n darllen eich adolygiadau disglair a’r archebion yn parhau i ddod, rydych chi’n gwybod y bydd y cyfan yn werth chweil!”

Dyma eiriau Angharad Jones sydd, ynghyd â’i gŵr Gethin, yn ffermio fferm bîff a defaid ucheldir 200 erw, yn edrych dros ardal ysblennydd Bryniau Clwyd ger Rhuthun.

“Rydym bob amser wedi manteisio ar wasanaethau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio i gael y wybodaeth ddiweddaraf a gwella perfformiad ein tir a’n da byw.

“Yr hyn nad oeddem wedi sylweddoli oedd y gallem gael mynediad at lefel debyg o arbenigedd a chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio pan ddaeth hi’n amser sefydlu busnes twristiaeth arallgyfeirio newydd – arweiniad yr oedd mawr ei angen arnom.”

Ers iddynt brynu eu fferm yn 2001, mae'r cwpl wedi bod yn cynyddu eu buches yn raddol o tua 30 o wartheg sugno bîff a 600 o famogiaid Aberfield a Chymreig. Yn 2019, yn awyddus i ddod o hyd i ffrwd ychwanegol o incwm, dechreuon nhw ystyried sefydlu menter dwristiaeth newydd.

Mynychodd Angharad glinig arallgyfeirio Cyswllt Ffermio yn hydref 2019. Wedi’i gyflwyno ar-lein gan un o arbenigwyr busnes cymeradwy Cyswllt Ffermio, Jeremy Bowen Rees o Landsker Business Solutions, roedd y seminar grŵp dwy awr o hyd yn rhoi cyngor pwysig ar bob agwedd ar sefydlu menter twristiaeth fferm arallgyfeiriedig newydd.

“Mae cymaint i feddwl amdano cyn i chi hyd yn oed adnabod y tir fferm neu’r gofodau rydych chi am eu datblygu, heb sôn am wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Gyda'u gwybodaeth newydd, penderfynodd y cwpl gomisiynu cynllun busnes trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

“Fe wnaethon ni ddewis Mr Bowen Rees, a diolch i’r hyn roedden ni wedi’i ddysgu yn ei gymhorthfa arallgyfeirio. Roedd ein cynllun busnes yn amhrisiadwy, oherwydd heb hynny, ni fyddem wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect gan ein banc”

“Fe ymwelodd â’r fferm a rhoddodd lawer o arweiniad gwerthfawr i ni, gan sylwi hefyd ar botensial ein hen gerbyd rheilffordd segur – sydd, diolch i’w gyngor, bellach wedi’i dwtio i fod yn ganolbwynt i ymwelwyr, gyda pheiriant golchi dillad a rhewgell, yn ogystal â mapiau a gwybodaeth am yr ardal leol.”

Tua’r un amser, wedi’i hannog gan ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol Elen Williams, ymgymerodd Angharad â hyfforddiant ar gyfer sefydlu gwefan newydd, a chafodd wahoddiad hefyd i ymuno â grŵp ‘twristiaeth’ Agrisgôp sector-benodol, a hwyluswyd gan yr arweinydd Gwen Davies.

“Roedd Gwen yn anhygoel, fe wnaeth hi gael pawb yn y grŵp i siarad yn onest ac yn agored – roedd rhai, fel ni, newydd ddechrau ac yn paratoi i wneud cais am gynllunio – tra bod eraill eisoes ar eu 'taith', ac yn gallu rhannu cyngor ac awgrymiadau gyda'r rhai ohonom oedd heb unrhyw brofiad.”

Cyn gynted ag y cymeradwywyd y cynllunio, gosododd y cwpl archeb ar gyfer tri phod wedi'u cynhyrchu'n lleol, pob un yn addas ar gyfer dau oedolyn, a hefyd archebwyd tri thwb poeth â choed tân, y gwyddent y byddent yn atyniad deniadol i ymwelwyr. Mae'r rhain yn cael eu cynnal gan goed tân y mae Gethin yn dod o hyd iddynt o gwmpas y fferm.

“Mae gan ein hymwelwyr olygfa o Foel Famau ac awyr dywyll hudolus y nos. Mae’r pethau yma yn ychwanegu at yr awyrgylch o aros mewn encil gwledig moethus unrhyw adeg o’r flwyddyn, a thrwy brynu’n ‘lleol’, rydym hefyd yn ticio rhai blychau amgylcheddol pwysig, hefyd.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau a chymorth Cyswllt Ffermio, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o