Wrth i famogiaid nesu at amser ŵyna, dylai eu hanghenion o ran maeth gael eu bodloni trwy ddognau wedi eu haddasu ar sail porthiant sydd wedi ei ddadansoddi.

feeding silage
Er mwyn sicrhau bod y dognau yn cael eu targedu yn benodol at famogiaid tua diwedd eu cyfnod cyfeb, mae ffermwyr yn cael eu hannog i ddadansoddi eu porthiant, yn arbennig felly silwair mewn byrnau. Mae dadansoddi silwair yn allweddol i helpu i gael y perfformiad gorau gan ddefaid ac o ansawdd y porthiant sydd ar gael, dywedodd yr ymgynghorydd defaid Lesley Stubbings.

Dywedodd: “Mae dadansoddi silwair yn hollol allweddol oherwydd os ewch chi i mewn yn ddall fyddwch chi ddim yn gwybod faint o faeth sydd ym mhob cegaid, neu hyd yn oed pa sawl cegaid sydd yna mewn gwirionedd, achos gorau yn y byd yw’r silwair, mwyaf yn y byd y bydd y mamogiaid am ei fwyta.”

Unwaith y bydd manyleb y porthiant yn hysbys, gall dognau gael eu creu yn ôl y protein a’r egni. Mae ar famogiaid yn hwyr yn eu beichiogrwydd angen silwair glaswellt gydag ME (Egni y gellir ei fetaboleiddio), ar 11MJ ac uwch, a phrotein craidd o rhwng 15 ag 17%.

Wrth gyfrifo faint o fwyd, dylai ffermwyr roi sylw i’r dadansoddiad ac addasu unrhyw ategion i gyfateb i’r silwair. Yn hwyr yn y beichiogrwydd, dylai’r gyfran o sylwedd sych a fwyteir gyfateb i 2% o bwysau’r famog.

Dywed Lesley ei bod yn bwysig, wrth greu dognau, i silwair gael ei ddefnyddio fel y brif elfen ac na ddylid ychwanegu dim ond y swm lleiaf posibl o ddwysfwyd.

Ychwanegodd: “Rydym am gael cymaint ag y gallwn ni allan o’r porthiant. Rydym yn gwybod beth yw gofynion y famog felly pan fyddwn yn gwybod beth yw ansawdd y silwair, yna gallwn addasu’r dognau gyda’r swm lleiaf posibl o’r ategion cywir. Mae llawer o bobl yn gwneud hyn y ffordd arall, ond cilgnöwyr yw defaid a byddant yn perfformio yn well os byddwch yn rhoi mwy o flaenoriaeth i’r porthiant a gadael i’r rwmen wneud ei waith.”

Yn ogystal â lleihau costau bwyd ychwanegol trwy dorri i lawr ar y dwysfwyd a ddefnyddir, bydd cynyddu’r porthiant yn y dogn yn cynnig manteision o ran iechyd, fel llai o achosion o asidosis. Ers iddyn nhw ddechrau dadansoddi eu silwair ddwy flynedd yn ôl, mae Ben Anthony a Diana Fairclough, o Fferm Frowen, Login, Hendy-gwyn ar Daf, yn dweud eu bod wedi gweld nifer o fanteision o ran iechyd.

Dywedodd Ben: “Ychydig iawn o broblemau bwrw llestr fyddwn ni’n eu cael yn awr o’u cymharu â’r hyn yr oeddem yn ei gael. Mae gan y mamogiaid ddigonedd o laeth hefyd ac mae ansawdd y colostrwm yn well. Roeddem yn arfer rhoi brechiad i atal salwch y cymalau wrth eu geni, ond mae’r broblem wedi cael ei dileu trwy ansawdd y colostrwm.”

Mae Ben a Diana hefyd wedi gwneud arbedion sylweddol o ran prynu bwydydd i mewn.

“Ers i ni ddechrau dadansoddi’r silwair, fe wnaethom newid i ddwysfwyd o well ansawdd a dim ond tua hanner yr hyn yr oeddem yn arfer ei ddefnyddio yr ydym yn ei ddefnyddio yn awr,” ychwanegodd Ben. “Felly er ein bod yn talu mwy y dunnell am y dwysfwyd, rydym yn arbed arian oherwydd ein bod yn defnyddio llai o dunelli.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym mis Chwefror gan ganolbwyntio ar faethiad mamogiaid. Bydd y pynciau yn cynnwys canolbwyntio ar fodloni anghenion y famog a sicrhau’r perfformiad gorau gan yr ŵyn, lleihau’r niferoedd o ŵyn a gollir a rheoli mamogiaid pan fydd eu cyflwr yn amrywiol. Trafodir strategaethau i ymdopi â chaeau llawn dŵr a chynllunio pori’r gwanwyn hefyd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol Cyswllt Ffermio.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr