5 Ionawr 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae bwydo planhigion trwy’r dail yn ddull cyffredin o roi hwb i rai maetholion ond nid ar gyfer nitrogen, y prif faetholyn cyfyngol, mewn cnydau a phorfeydd
  • Mae bwydo nitrogen i gnydau trwy’r dail wedi arwain at rai canlyniadau da, yn bennaf wrth leihau faint o nitrogen a ddefnyddir yn gyffredinol, ond mae hyn yn gofyn am waith cynllunio cymhleth ac amrywioldeb
  • Er nad oes llawer o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd ar gyfer bwydo N trwy’r dail ar borfeydd yn benodol, yn hytrach na rhoi N ar y pridd, fel dewis arall sy’n isel o ran mewnbwn a’i effaith ar yr amgylchedd, gallai hyn newid yn sgil ymchwil parhaus i wrteithiau nanoronynnau

 

Beth yw bwydo trwy’r dail

Un pryder cyffredin ynglŷn â dulliau amaethu modern yw ein dibyniaeth barhaus a chynyddol ar wrteithiau artiffisial, yn enwedig nitrogen (N) sef prif faetholyn cyfyngol planhigion. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf  mae pris llawer o wrteithiau wedi cynyddu 100% gan olygu bod lleihau’r defnydd ohonynt hyd yn oed yn fwy perthnasol o safbwynt economaidd. Er gwaethaf y cynnydd yn y prisiau, mae’r galw am wrteithiau yn parhau i dyfu er mwyn sicrhau rhagor o gynnyrch neu borfeydd ar gyfer y gadwyn gyflenwi bwyd fyd-eang. Mae cynhyrchu a defnyddio gwrteithiau yn cyfrif am gyfran sylweddol o fewnbwn ynni fferm gnydau, da byw neu gymysg draddodiadol yn ogystal â chyfran sylweddol iawn o’r costau bob blwyddyn. Mae’n cael ei gydnabod bod defnydd dwys ac isoptimaidd o wrtaith artiffisial yn gysylltiedig ag effeithiau andwyol ar lefelau maetholion dŵr daear a thrwytholchiad y system ddŵr, a all gael sgil-effeithiau ar allyriadau amgylcheddol a’r ecosystem. Mae defnyddio gwrteithiau ar ddail yn ddull amgen sy’n golygu bod maetholion o’r gwrteithiau yn cael eu rhoi’n uniongyrchol ar ddail planhigion, yn wahanol i’r rhan fwyaf o wrteithiau solet neu belenni sy’n cael eu hymgorffori yn y pridd drwy wreiddiau’r planhigion. Yr awgrym yw y gall strategaeth wrtaith o’r fath fod yn is o ran mewnbwn gan fod modd targedu’r defnydd o wrtaith yn well, gan leihau’r defnydd ohono a’r costau. Mae triniaethau, maetholion a sylweddau eraill gan gynnwys amsugno dŵr trwy ei chwistrellu ar y dail yn llawer mwy cyffredin mewn systemau garddwriaeth na systemau ffermio âr ond mae’n cael ei ddefnyddio i wasgaru rhai  maetholion. Mae defnyddio’r dull deiliol o ychwanegu maetholion fel boron, calsiwm, sylffadau, haearn ac elfennau eraill lle gall diffygion effeithio ar iechyd a thwf, yn fwy cyffredin mewn cnydau nag ychwanegu nitrogen yn uniongyrchol. Mae’n bwysig iawn bod y cyfrifiadau ar gyfer defnyddio maetholion ar y dail yn cynnwys profion ar hap ar feinweoedd planhigion (gofodol a thymhorol) yn hytrach na phrofion pridd a gynghorir ar gyfer cyfrifiadau gwrteithiau solet a phelenni. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil yn gysylltiedig â bwydo gwrtaith i laswelltiroedd trwy’r dail ei wneud dros 30 o flynyddoedd yn ôl, ac roedd y canlyniadau yn niwtral neu’n negyddol yn bennaf.

 

Effaith ar gynhyrchu

Dangosodd astudiaethau blaenorol ar ddefnyddio N ar ddail glaswelltiroedd nad yw’r effaith yn arwyddocaol iawn, ac mae astudiaethau mwy diweddar  wedi ategu’r casgliad hwn o’i gymharu â defnyddio N yn y pridd. Dangosodd astudiaeth o’r defnydd o N ar ddail yn rhanbarthau isdrofannol Awstralia fod cyfraddau twf porfeydd yn debyg i rai lle defnyddiwyd dulliau traddodiadaol o fwydo’r pridd ar gnydau rhygwellt cylchdro-byr, gyda 40% yn llai o N yn cael ei ddefnyddiol fesul ardal. Fodd bynnag, nodwyd bod y nitrogen a oedd ar gael i’r pridd wedi gostwng yn ddramatig mewn lleiniau lle cafodd dail y glaswellt eu chwistrellu a gallai hyn gael goblygiadau i gynhyrchu cynaliadwy yn y tymor hir. At hyn, er bod y defnydd o nitrogen yr un mor effeithlon ar gyfer gwrteithiau solet a hylif roedd ychydig yn uwch yn achos triniaethau gwrtaith solet. Er nad yw defnyddio gwrteithiau hylif N ar ddail yn gwella cynnyrch cnydau i’r un graddau â’r gwrteithiau solet a roddir ar y pridd, un o’r manteision yw y gall fod yn ddewis rhatach wrth ddefnyddio cynnyrch hydawdd, fel wrea. Er y gall wrea fod yn ddewis rhatach i’w chwistrella oherwydd y crynodiadau is a ddefnyddir, mae cafeatau yn gysylltiedig â chwistrellu dros y tymor hir gan fod biwret tocsig yn cronnu mewn gwreithiau wrea rhatach, gan olygu ei fod yn gweithio’n well ar gyfer systemau cylchdro blynyddol byrrach. Er bod hyn yn llai o broblem mewn hinsoddau tymherus fel y DU, mae astudiaethau wedi dangos bod angen cynnwys cyfrwng gwlychu mewn rhai hinsoddau er mwyn i’r N sy’n cael ei roi ar y dail gael ei amsugno’n effeithiol. At hyn, mae tymheredd yn effeithio ar allu maetholyn i hydoddi gan fod tymereddau oerach yn gorfodi’r hydoddion allan o’r hydoddiant yn gynt; mae hyn yn amlygu’r anawsterau posibl ar gyfer defnyddio strategaeth wrtaith o’r fath yn fyd-eang.

Er bod astudiaethau sydd wedi canolbwyntio’n benodol ar laswelltiroedd yn cynnig canlyniadau amrywiol ac yn llai cyffredin nag astudiaethau ar gnydau, mae sawl astudiaeth yn seiliedig ar gnydau wedi cael canlyniadau mwy cadarnhaol yn gysylltiedig â bwydo N trwy’r dail. Mewn un astudiaeth sydd wedi edrych ar ffrwythloni codlysiau trwy’r dail yn ystod camau critigol yn nhyfiant y cnwd ochr yn ochr â gwrteithiau pridd, gwelwyd bod chwistrellu’r dail yn arwain at gynnydd o rhwng 15 – 25% yn y cynnyrch na phan defnyddiwyd gwrteithiau pridd yn unig. Er bod hyn yn ymddangos yn gadarnhaol, nid oedd yn cyfrifo effeithlonrwydd y defnydd o ddwy ffynhonnell nitrogen felly gallai strategaeth o’r fath gael effaith fawr ar yr amgylchedd. Dangosodd astudiaethau diweddar ar ddulliau cynhyrchu grawn ar briddoedd ffrwythlon yr Eidal y gellid rhoi’r gorau i roi N ar y pridd yn gyfan gwbl drwy chwistrellu llai o N ar y dail heb effeithio ar gynnyrch y cnwd grawn. Rhagfynegwyd hefyd y gallai hyn olygu gostyngiad o rhwng 25 a 40% yn y llwyth nitrogen ar gaeau. Mae astudiaethau eraill wedi dangos pwysigrwydd amseru’r defnydd o N ar ddail yn ystod cylchred tyfu cnydau a sut gall hyn arwain at effeithiau gwahanol ar briodweddau planhigion (nifer yr hadau, cynnwys maethol a chynnyrch). Mae angen ystyriaeth benodol a chymhleth cyn mynd ati i roi N ar ddail cnydau, oherwydd mewn rhai achosion gwelwyd nad yw wedi cael unrhyw effaith fuddiol o gwbl. Ymhellach, nodwyd y gall rhoi N a maetholion eraill yn uniongyrchol ar ddail cnydau achosi problemau yn ymwneud â llosg dail oherwydd ffototocsigedd y maetholion ar lefelau uchel os cânt eu cyfrifo yn anghywir.

 

Ymchwil diweddar a dewisiadau amgen

Dangosodd un astudiaeth a edrychodd ar effaith targedu’r defnydd o wrtaith N ar ddail porfeydd rhygwellt meillion gwyn croesryw fod bwydo trwy’r dail yn cael effaith fuddiol dros ddau gylchred tyfu o ran costau defnyddio’r gwrtaith a hefyd y cynnyrch deunydd sych, a oedd cystal os nad ychydig yn well o’i gymharu â dewisiadau confensiynol. Nodwyd bod angen rhoi ystyriaeth arbennig i amodau tywydd wrth ddefnyddio’r gwrtaith ynghyd â gofynion maethol y planhigion yn y cyfnod aildyfu. Dangosodd astudiaeth ymchwil arall a oedd yn targedu’r defnydd o wrtaith trwy’r dail yn ystod cyfnodau tyfu penodol planhigion (yn enwedig pan gafodd hyn ei ategu gan boron oherwydd ei fod yn annog tiwbiau paill planhigion i dyfu), y gall hyn gael effeithiau buddiol ar wella cynnyrch hadau yn achos glaswellt porfeydd olynol. Mae hyn yn awgrymu y gall gyfrannu at reoli gweithgareddau hunan-hadu porfeydd. Dangosodd astudiaeth o wahanol strategaethau defnyddio gwrtaith fod yr effaith yn fwy arwyddocaol (mewn potiau llysieuol/systemau platiau arbrofol heb fod mewn caeau) ar gynhyrchu deunydd gwyrdd a deunydd sych mewn rhygwellt lluosflwydd, os cânt eu cyfuno â gwrteithiau sy’n cael eu rhyddhau dan reolaeth naill ai ar eu pen eu hunain neu drwy eu cyfuno â gwrteithiau deiliol. Ar hyn o bryd, mae prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru yn edrych ar asesu cymariaethau uniongyrchol o strategaethau bwydo trwy’r dail yn erbyn gwrteithiau N safonol a rheolyddion ar draws pedair fferm. Mae gwerthusiad o’r cynnyrch, y N sy’n weddill yn y systemau, costau ac effeithiau ar amrywiaeth rhywogaethau, oll yn cael eu casglu i ddeall effaith strategaethau o’r fath ar gynhyrchedd glaswelltiroedd. Hyd yma, mae’r prosiect wedi dangos er bod cynnyrch yn is o’i gymharu â’r defnydd o wrtaith traddodiadol, mae cyfanswm y N a gyflenwir i’r system, ac felly effeithlonrwydd cymharol y defnydd o N, yn llawer gwell wrth ddefnyddio dulliau bwydo trwy’r dail na strategaethau gwrtaith traddodiadol. Gall hyn awgrymu y gellid defnyddio’r dechneg hon i liniaru rhywfaint ar effaith amgylcheddol rheoli glaswelltiroedd, yn enwedig mewn amgylchiadau penodol.

 

Gan fod bwydo maetholion trwy’r dail yn golygu bod yn rhaid iddynt gael eu hamsugno i mewn i’r ddeilen, mae systemau newydd sy’n defnyddio nanoronynnau yn edrych yn addawol gan eu bod yn gallu goresgyn y rhwystr hon yn haws. Mae gwaith ymchwil i gnydau yn dangos bod llawer o nanoronynnau mwynau hanfodol eisoes yn cael eu gwasgaru trwy’r dail ac maent wedi dangos effeithiau diddorol, gan gynnwys cynyddu cynnyrch, gwella’r rheolaeth o blâu pryfaid, gwella proffiliau maeth cnydau a lleihau straen ocsidiol yn ystod sychder. Nodir, fodd bynnag, nad oes llawer o waith wedi’i wneud i werthuso’r defnydd o nanoronynnau N, P (ffosfforws) a K (potasiwm) hyd yma, ond gallai ymchwil i nanoronynnau’r elfennau allweddol hyn arwain at ddefnyddio maetholion sy’n rhyddhau eu cynnwys yn barhaus neu dargedu dewisol yn y dyfodol. Petai hyn yn cael ei optimeiddio, gallai olygu bod modd defnyddio maetholion mewn ffyrdd penodol ar borfeydd sy’n anodd eu cyrraedd (fel ucheldiroedd) drwy gynnwys chwistrellu yn seiliedig ar dronau petai’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn newid yn y DU. Mae un astudiaeth ddiweddar iawn wedi edrych ar N mewn nanoronynnau sy’n gysylltiedig â defnyddio calsiwn ar wenith caled (durum). Cafodd y nanorynnau hyn eu ‘amhureddu’ ag wrea a gwelwyd ei fod yn cael ei amsugno yn fwyaf effeithlon drwy’r gwreiddiau yn hytrach na thrwy’r dail, felly gallai’r defnydd o’r rhain arwain at ostyngiad o 40% yn y dognau nitrogen gan ddarparu cynnyrch ac ansawdd tebyg i’w rheolyddion N uwch. Gall hyn awgrymu bod ymchwil i nanoronynnau y tu hwnt i faes penodol bwydo trwy’r dail fod hyd yn oed yn fwy addawol yn y dyfodol.

 

Effaith ar yr hinsawdd

Dylai gwasgaru maetholion yn optimaidd trwy’r dail olygu bod llai o N yn cael ei ddefnyddio, gan leihau’r perygl o ddŵr ffo a llygredd dŵr yn ogystal ag arwain at ostyngiadau cyffredinol yn yr ynni sydd ei angen i gynhyrchu’r maetholion a ddefnyddir. Eto i gyd, oherwydd diffyg astudiaethau gwyddonol penodol yn y maes hwn yng nghyd-destun glaswelltiroedd, mae’n anodd cadarnhau’r canlyniadau hyn ond mae’n bosibl y bydd hyn yn faes diddorol i’w astudio yn y dyfodol os daw manteision bwydo trwy’r dail yn amlwg. Mae gwasgaru N ar ddail  wedi cael ei drafod yn fwy helaeth mewn perthynas â pherllannoedd lle gall hyn leihau faint o N sydd ar gael i drwytholchi i’r pridd. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r llwyddiant gorau o ran cynnyrch, mae dewisiadau o’r fath yn aml yn gofyn am ddefnyddio mwy o N yn gyffredinol na dulliau traddodiadaol gan eu bod yn dibynnu ar gyfuniad o chwistrellu N ar ddail a gwasgaru N ar y pridd. Un pryder arall o ran yr amgylchedd yw effaith cemegion yn cael eu cario yn y gwynt wrth eu chwistrellu, mae astudiaethau blaenorol wedi dangos y gall chwistrellu arwain at leoleiddio i ffwrdd o’r targed a halogi amgylcheddau dyfrol yn uniongyrchol, mwy o ddŵr ffo a hyd yn oed pobl yn dod i gysylltiad  â chemegion mewn rhai achosion.

 

Crynodeb

Gall bwydo planhigion trwy’r dail wneud cyfraniad allweddol i unioni rhai diffygion mewn systemau sy’n seiliedig ar gnydau ac mae’n bosibl y bydd hyn yn gwella yn y dyfodol ar y cyd ag ymchwil ym maes nanoronynnau. Fodd bynnag, prin iawn yw’r astudiaethau sydd wedi edrych ar fwydo systemau glaswelltir trwy’r dail. Gallai’r effeithiau a’r arbedion effeithlonrwydd sy’n gysylltiedig â systemau cnydau eraill gynnig rhai mewnwelediadau defnyddiol y gellid eu trosglwyddo. Fodd bynnag, un maes lle gwelwyd gwaith ymchwil llawer mwy manwl, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol uniongyrchol o safbwynt defnydd masnachol, yw’r defnydd o fapio maetholion porfeydd yn fanwl gywir, ynghyd â gwasgaru gwrtaith yn fanwl gywir gan ddefnyddio’r mapiau hyn. Yn y pen draw, mae hyn yn cyflawni’r un nodau o wella effeithlonrwydd y defnydd o N gan leihau llygredd N ac mae’n debygol mai hyn sydd i gyfrif am y ffaith bod gwybodaeth gyfredol am ddefnyddio N ar ddail glaswelltiroedd mor gyfyngedig. Er bod ymchwil diweddar yng Nghymru yn awgrymu bod rhai manteision i chwistrellu ar ddail mewn systemau glaswelltir, o ran defnyddio llai o N a defnydd mwy effeithlon o N o’i gymharu â rheolyddion, gallai fod yn fwy defnyddiol i gymharu canlyniadau uniongyrchol bwydo N trwy’r dail â thecholegau manwl gywir ar gyfer mapio cyfraddau amrywiol (VRT) wrth ddefnyddio gwrtaith N, gan y gall hyn ddangos bod defnyddio N ar ddail yn llai effeithiol. Fodd bynnag, hyd yn oed os dangoswyd bod strategaeth o fwydo N trwy’r dail yn llai effeithiol na defnyddio systemau manwl gywir, gallai wneud cyfraniad o hyd i wella rheolaeth amgylcheddol (drwy leihau’r defnydd o N) ar laswelltiroedd a chnydau y mae’n anodd defnyddio technolegau VRT arnynt oherwydd problemau mynediad neu dopograffeg, ac ati, yn enwedig os defnyddir technoleg dronau.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr