Bwydo glaswellt trwy’r dail

Foliar feed for grassland

Mae’r rhan fwyaf o wrtaith Nitrogen (N) yn cael ei wasgaru mewn systemau glaswelltir ar ffurf pelenni gyda pheiriant gwasgaru. Mae’r maetholion yn cael eu gwasgaru ar y ddaear cyn cael eu golchi i mewn i’r uwchbridd gan y glaw ac yna’n cael eu hamsugno gan system wreiddiau’r planhigion. Gall llu o ffactorau megis cywasgiad pridd, draeniad, bio-weithgarwch, tymheredd y pridd, tywydd sych neu wlyb effeithio ar y maetholion a ryddheir a'r cymeriant gan y glaswellt gyda'r dull hwn.

Mae yna ddull arall, cyflymach, o gael nitrogen yn uniongyrchol i'r glaswellt, sef trwy ddail y planhigyn. Mae gan ddail fandyllau rhwng strwythurau celloedd a all fod yn bwynt mynediad da ar gyfer maetholion. Mae arbrofion blaenorol wedi profi bod bwydo glaswellt (drwy’r dail) gyda gwrtaith yn uniongyrchol yn medru lleihau faint o nitrogen sydd ei angen ac yn lleihau colledion nitrogen trwy ddŵr ffo.

Nod y prosiect hwn, sy’n cynnwys pedair fferm, yw asesu i ba raddau mae defnyddio bwyd dail sy’n seiliedig ar asid wrea a hwmig yn gallu lleihau’r angen am wasgaru gwrtaith N confensiynol ar y borfa. Y nod oedd ymchwilio i effeithiolrwydd defnyddio bwyd dail, a ddefnyddir yn fwy cyffredin mewn systemau garddwriaeth, ar system laswelltir. Er mwyn iddo fod yn llwyddiannus, ni ddylid peryglu ansawdd a maint deunydd sych y glaswellt, yn ogystal â chynnwys y meillion.

Ar bob un o’r pedair fferm, rhannwyd un cae mawr yn dair rhan o faint cyfartal a chymharwyd y triniaethau a ganlyn:

  • Gwrtaith nitrogen, yn unol ag arfer cyfredol/safonol
  • Bwyd dail
  • Dim gwrtaith

Mesurwyd perfformiad pob plot yn nhermau:

  • Cynnyrch mater sych
  • Cynnwys N meinwe glaswellt ffres
  • Costau defnyddio N fesul tunnell o ddeunydd sych
  • Cynnwys meillion i asesu'r effaith ar gyfansoddiad rhywogaethau'r glastir

Canlyniadau'r Prosiect:

  • Mae potensial i gyflawni cnwd tebyg i'r lleiniau confensiynol gan ddefnyddio systemau bwyd dail
  • Dangosodd y prosiect fod systemau sy'n cael eu bwydo trwy’r dail yn sicrhau mwy o gnwd mewn amodau anffafriol, er enghraifft amodau oer a/neu sych.
  • Gallai systemau bwydo trwy’r dail sicrhau manteision sylweddol o ran lleihau costau N fesul litr o laeth a gynhyrchir.