12 Ebrill 2022

 

Mae cynllun treialu a gynhaliwyd ar ffermydd glaswelltir yng Nghymru wedi dangos y gall gwrteithio trwy’r dail gynyddu effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen o hyd at bedair gwaith mewn cymhariaeth â gwrtaith N confensiynol.

Mae gwrteithio trwy’r dail yn dechneg o roi porthiant i ddail trwy roi gwrtaith hylifol yn uniongyrchol ar y dail.

Dywed yr ymgynghorydd pridd a glaswelltir Nigel Howells, y cynghorydd i’r prosiect Rhaglen Arloesedd Ewrop (EIP) yng Nghymru, fod camargraff yn bodoli na ddylid gwrteithio trwy’r dail ar gaeau pori. Ond fe ellir, ar borfa a thir silwair, dywed.

Wrth i’r diddordeb yn y dull hwn gynyddu’n gyflym yng Nghymru, mae Mr Howells yn cynnig ei awgrymiadau i gael y canlyniadau gorau o borthi dail.

 

1.    Profwch eich pridd 

Yn yr un modd ag unrhyw drefn wrteithio, dylai pH , ffosffad, potash a magnesiwm y pridd fod ar y lefel orau, felly profwch y rhain ac ymdrin ag unrhyw ddiffygion.

 

2.    Chwistrellwch ar y gyfradd gywir 

Er mwyn bod ar ei fwyaf effeithlon, rhaid i wrtaith dail gael ei roi ar y gyfradd gywir.

“Ar gyfer y treial EIP, fe wnaethom ei roi ar borfa ar 9 kgN/hectar (ha), ac ar y tir silwair ar gyfradd o 46 kgN/ha,” esbonia Mr Howells.

 

3.    Chwistrellwch ar y cyfnod priodol yn nhyfiant y glaswellt

Dylai’r gorchudd glaswellt fod ar isafswm o 2200 kg o gynnwys sych (DM)/ha - sy’n cyfateb i uchder o 3-4 modfedd neu 7.5cm.

“Os bydd digon o ddail, bydd yr ymateb yr un fath ag i wrtaith mewn gronynnau, ond gall yr effeithlonrwydd gael ei ddyblu,” dywed Mr Howells.

Mae hyn yn wir am fod planhigion yn amsugno’r elfennau hanfodol trwy eu dail.

 

4.    Peidiwch â chael eich temtio i’w roi yn rhy fuan ar yr hyn sydd weddill ar ôl pori 

Dywed Mr Howells, mewn un treial, pan roddwyd gwrtaith dail yn syth ar ôl i’r buchod bori cae a’r gorchudd ar 2100 kgDM/ha, roedd diffyg sylweddol yn y DM a dyfwyd mewn cymhariaeth â photensial y cae.

Fel canllaw, i borwyr ar gylchdro 21-25 diwrnod, mae’n argymell mai 10 diwrnod ar ôl pori yw’r amser delfrydol i’w roi: “Mae digon o ddail erbyn hynny i gymryd y cynnyrch.’’

Nid yw’n effeithio ar ba mor dderbyniol yw’r borfa gan mai ychydig o wrtaith a roddir, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n gyflym gan y planhigyn oherwydd cyflymder ac effeithlonrwydd porthi dail.

 

5.    Mae’r cyfnod chwistrellu ar gyfer tir silwair yn wahanol i bob fferm

Ar ôl torri, mae Mr Howells yn cynghori chwistrellu dŵr budr neu wrtaith tir confensiynol o fewn diwrnod neu ddau, i gael y glaswellt at y pwynt lle bydd yn amsugno gwrtaith trwy’r dail.

“Mae’n wahanol i bob fferm; mae’n dibynnu a yw’r fferm ar system dorri bedair neu chwe wythnos, a hefyd ar ansawdd y slyri neu’r tail,” meddai.

Ond fel canllaw, mae’n awgrymu 10 diwrnod ar ôl torri.

 

6.    Gwrtaith dail yn cyflawni’n well wrth ei roi yn hwyr y prynhawn 

Mae’r gofynion chwistrellu yn debyg iawn i rai chwynladdwr.

Osgowch ei roi yng nghanol diwrnod o haf - mae yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y prynhawn yn addas, er bod hwyr y prynhawn yn well, oherwydd bydd yn rhoi amser i’r glaswellt amsugno’r maetholion heb i’r gwlybaniaeth anweddu yn yr heulwen.

 

7.    Peidiwch â chwistrellu os oes glaw ar fin dod 

Mae angen ychydig oriau o dywydd sych ar ôl ei chwalu, er mwyn gadael i’r cynnyrch gael amser i sychu a chael ei amsugno gan y planhigyn.

Os bydd yn bwrw, ni fydd budd y cynnyrch yn cael ei golli – yn syml, bydd yn cael ei olchi i’r pridd ac ymddwyn mewn ffordd debyg i wrtaith gronynnol – ond bydd y potensial o ran effeithlonrwydd yn cael ei golli. 

Un o ganfyddiadau astudiaeth yr EIP oedd, mewn tywydd sych ac oer, bod y gwrtaith a roddir trwy’r dail wedi llwyddo i gael gwell ymateb na gwrtaith a roddir trwy ddulliau confensiynol.

“Mae gwreithio trwy’r dail yn ymddangos fel pe bai yn rhoi cynnyrch uwch mewn tywydd drwg, er enghraifft, tywydd oer a/neu sych,” dywed Mr Howells.

“Mae’n debygol bod hyn oherwydd bod cyflwr y pridd yn effeithio llai ar amsugno trwy’r dail mewn cymhariaeth â chymryd maetholion trwy’r gwreiddiau.”

 

8.    Gwnewch eich sỳms a chyfrifo pa ddull gwrteithio sy’n gweithio i chi

Pan redwyd y prosiect EIP, cyfanswm costau chwalu gwrtaith dail ac asid hwmig ar y tir pori oedd £26/ha; ar gyfer gwrtaith confensiynol roedd yn £43/ha.

“Ar brisiau gwrtaith heddiw, a chan gynnwys costau’r cynnyrch a chwistrellu, byddai’n £56/ha ar gyfer gwrtaith a roddir trwy’r dail a £93 ar gyfer gwrtaith confensiynol,” cyfrifodd Mr Howells.

“Mae’r ffigyrau hyn yn ymgorffori’r costau contractwr o £18/ha i chwistrellu’r gwrtaith a roddir trwy’r dail a £10/ha i roi gwrtaith sych.’’ 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn