31 Gorffennaf 2019

 

Y Dr Peter Wootton-Beard RNutr: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae rheolaeth effeithiol ar faetholion yn broses weithredol sy’n fwyfwy pwysig, sef proses y mae ei hangen am resymau economaidd ac amgylcheddol.
  • Mae angen cynllun cynhwysfawr, a hwnnw’n rhoi sylw agos i fanylion er mwyn delio â ffactorau cymhleth a rhyngweithiol. Gall newidiadau bach, graddol greu mwy o effaith yn gyffredinol.
  • Mae cynllun rheoli maetholion effeithiol a chynaliadwy yn dibynnu ar gadw cofnodion manwl gywir, adolygu arferion yn rheolaidd a’u mireinio’n barhaus.

Mae yna bethau sy’n anochel pan fyddwch yn tyfu cnydau; mae'n fater o werthu maetholion. Bob tro y caiff rhywbeth ei gynhyrchu a’i symud o’r cae, mae'n cymryd ystod gyfan o faetholion gydag ef ar ffurf dail, ffrwythau etc. Mae hynny o fudd mawr i bwy bynnag sy’n ei fwyta nesaf, ond mae'n gadael diffyg y mae’n rhaid i’r cynhyrchydd ei gywiro. Yn y pen draw, gall llwyddiant neu fethiant busnes fferm ddibynnu ar ba mor effeithlon yw’r cynhyrchydd wrth droi maetholion (yn y pridd/gwrtaith) yn faetholion gwahanol a all gael eu gwerthu. Dyna'r realiti syml sy'n diffinio'r broses o reoli maetholion. O ran theori, byddai’r cynllun mwyaf effeithiol yn adnewyddu’r union swm o faetholion sy'n gadael y busnes fel cynnyrch. Ond mae hyn yn anodd ei fesur, a hyd yn oed pe bai’n haws, mae deinameg defnyddio maetholion, colli maetholion, a chylchu maetholion yn golygu bod yr hafaliad syml hwn yn llawer mwy cymhleth. Ar gyfartaledd, bydd busnes fferm yn gwneud yn dda os bydd yn cyflawni effeithlonrwydd o 50% o ran y mewnbwn maetholion.

Nod yr erthygl hon felly yw edrych ar fanylion y cynllun rheoli maetholion a rhoi canllawiau ar y ffactorau ymarferol sy'n cynnig y cyfle gorau i leihau colled maetholion o'r system, gwella effeithlonrwydd a hybu proffidioldeb busnesau fferm. Mae angen taro cydbwysedd gofalus sy'n cynnwys pridd, hinsawdd, cnydau, amseriad a lleoliad, ac er mwyn sicrhau llwyddiant mae angen rhoi sylw i’r manylion.

Mae rheoli maetholion wedi dod i’r amlwg yn sgil newidiadau mewn deddfwriaeth fel cyfarwyddeb y CE ar nitradau (91/676/EEC) a roddwyd ar waith yng Nghymru drwy egwyddorion fel parthau perygl nitradau (NVZs). Mae cost gwrteithiau (yn ariannol ac yn amgylcheddol) yn codi hefyd o ganlyniad i fwy o alw ledled y byd, sy’n golygu bod cynhyrchwyr yn anelu at yr effeithlonrwydd mwyaf (sef y gyfran o’r maetholion a ddefnyddir ar draws yr holl fewnbynnau a gaiff ei hadennill yng nghynhyrchion y fferm), a dulliau sy’n debycach i ddolen gaeedig. Mae gweithgareddau amaethyddol wedi arwain at newid mawr yn y cylchoedd nitrogen a ffosfforws, gydag effaith yn benodol ar lygredd mewn dŵr ac yn yr aer. Gan hynny, mae yna dair elfen ganolog yn y systemau cynhyrchu gorau sy’n gwneud y defnydd gorau o'r maetholion sydd ar gael. Y tair elfen hyn yw: sicrhau’r pwysau a’r ansawdd mwyaf posibl yn y cnwd, cyllidebu maetholion a lleihau colledion i'r amgylchedd.

 

Y prif ffactor sy’n cyfyngu twf (PFLG) / Deddf isafswm Liebig

Cyn dechrau cynllunio rheolaeth maetholion, mae yna gysyniad pwysig i’w gadw mewn cof – y prif ffactor sy’n cyfyngu twf (PFLG). Mae hyn yn cael ai adnabod weithiau fel Deddf isafswm Liebig, neu Gasgen Liebig (gweler y ddelwedd isod). Er bod yna lawer o ffactorau sy'n hanfodol ar gyfer twf planhigion, mae hyn yn disgrifio’r ffactor lleiaf toreithiog fel y PFLG. Dyma gysyniad allweddol, oherwydd hyd nes y caiff y PFLG ei gywiro, does dim ots faint sydd yna o ffactor arall, fydd y twf ddim yn cynyddu. Er enghraifft, os magnesiwm yw’r PFLG, yna does dim ots faint o nitrogen sy’n cael ei wasgaru, fydd y cynnyrch ddim yn gwella nes i’r diffyg magnesiwm gael ei gywiro. Felly, mae cynllun rheoli maetholion effeithiol yn dibynnu ar adnabod y PFLG, a bod hwnnw o fewn rheolaeth y rheolwr tir. Mae'n bosibl i’r PFLG fod yn ffisegol (h.y. tywydd/strwythur pridd/golau/dŵr etc) yn ogystal â biolegol (maetholion ac ati.).

 

ta nm

 

 

Casgen Liebig: Darluniad o’r prif ffactor sy’n cyfyngu twf (PFLG). Y maetholyn lleiaf toreithiog sy’n cyfyngu twf (yn atal y gasgen rhag cael ei llenwi’n llwyr). Yn yr enghraifft hon, Nitrogen yw’r PFLG.

 

 

 

 

 

 

 

Adnabod eich pridd (neu’ch cyfrwng tyfu)

Gwraidd unrhyw strategaeth at fanteisio i'r eithaf ar ddefnydd effeithlon o faetholion yw dealltwriaeth gynhwysfawr o'r pridd (neu’r cyfrwng tyfu). Yr unig ffordd i feddyg wybod a yw claf yn gwella ai peidio yw os oes mesur ar gael o ba mor sâl oedd y claf yn y lle cyntaf er mwyn cymharu. Meddyliwch felly am ddadansoddiad pridd fel curiad y galon (pan fo’n gorffwys) a phwysedd gwaed y busnes cynhyrchu cnydau.

Mae’r ddealltwriaeth hon o’r pridd yn dod yn bennaf o brofion rheolaidd, sef yr unig ddull asesu effeithiol. Mater goddrychol iawn yw dibynnu ar giwiau gweledol neu ar gynhyrchiant, ac yn aml gall y rhain fod yn gamarweiniol. Mwyaf i gyd o wybodaeth sy’n cael ei chasglu am briddoedd y busnes fferm arbennig, mwyaf i gyd yw’r cyfle i gymhwyso egwyddorion amaethyddiaeth fanwl. I fod yn fwyaf effeithiol, rhaid i’r profion pridd fod yn gynrychioliadol o'r amrywiad gofodol mewn mathau o bridd, dyfnderoedd, safleoedd etc, yn ogystal â newidiadau sy'n digwydd dros gyfnod o amser o dan amodau tywydd gwahanol a chyfnodau gwahanol yn nhwf y cnydau. Oherwydd hyn mae angen datblygu protocol cadarn ar gyfer samplu a phrofi’r pridd a hwnnw’n brotocol a all gael ei atgynhyrchu. Gan ddibynnu ar y gwasanaeth samplu pridd a ddefnyddir, gall y dull hwn fod wedi’i bennu ymlaen llaw, ond yn gyffredinol mae’n debyg o fod yn fath o samplu ar hap, lle mae'r tir wedi'i rannu'n ardaloedd penodol, a bod samplau’n cael eu cymryd wedyn ar hap o fewn pob ardal. Gallai hyn olygu nifer fawr o ‘ardaloedd’ gwahanol, yn arbennig wrth ddatblygu dealltwriaeth well o'r amrywiad ym mharamedrau’r pridd o fewn busnes fferm. Yn y pen draw efallai y byddai'n bosibl llunio map manwl o amrywiadau dros amser, a allai arwain, ar y cyd ag uwch-beiriannau gwasgaru maetholion, at y gallu i roi swm o faetholion sy'n benodol i bob ardal a nodir.

Wrth geisio defnyddio mewnbynnau maeth yn ddarbodus, allwch chi ddim gwybod gormod am eich pridd. Mae bron yn bosibl cymryd macrofaetholion (Nitrogen, Ffosfforws a Photasiwm) yn ganiataol, ond bydd lefelau mwynau, deunydd organig, a’r pH hefyd yn effeithio ar botensial y pridd. Gallai unrhyw un o'r ffactorau hyn fod yn PFLG, ac felly, yn yr ystyr hon, mae yna rym mewn gwybodaeth. Mae argaeledd y maetholion, hyd yn oed pan fydd y rheiny’n bresennol, yn cael ei effeithio wedyn gan ffactorau ychwanegol fel gallu’r pridd i ddal dŵr/draenio, iechyd y pridd (o ran bioamrywiaeth) a chywasgu.

 

Gwella rheolaeth pridd

Gan gymryd na fyddai’n rhy ddrud gwneud hynny, un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon i sicrhau enillion o safbwynt effeithlonrwydd maetholion yw manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau presennol. Pan fyddwch chi wedi dod i adnabod y pridd (neu’r cyfrwng tyfu), y cam nesaf yw delio ag unrhyw ddiffygion. Y dybiaeth gyntaf o bosibl fyddai ychwanegu mwy o beth bynnag sy’n brin, ond drwy wneud hynny fe allech fod yn bychanu'r manteision sy’n dod drwy fanteisio i'r eithaf yn gyntaf ar yr hyn sydd yno eisoes.

Mae argaeledd maetholion, a gallu'r planhigyn i’w cyrchu, yn gysylltiedig yn y bôn ag iechyd y pridd. Yn ogystal â lle i’r planhigyn ei angori ei hun, mae amgylchedd y pridd yn gartref cymhleth i gydadweithiau cemegol a biolegol, sy’n sensitif iawn i newid. Er bod amryw o gostau ynglŷn â chywiro amodau pridd sydd heb fod cystal â phosibl, mae'r manteision yn aml yn codi ar unwaith ac yn barhaol, sy’n eu gwneud yn fwy cost-effeithiol (heb sôn am fod yn well i'r amgylchedd). Y nod yw ehangu poblogaeth yr organebau yn y pridd, o fwydod neu bryfed genwair drwodd i facteria a ffyngau meicrosgopig, a hynny drwy sicrhau na fydd deunydd organig yn cael ei golli o’r pridd, trin y tir yn llai, defnyddio cnydau gorchudd a chylchdroi’r cnydau (ac felly gweddillion y cnydau sy’n cael eu dychwelyd i’r pridd), osgoi/lleihau cywasgu, a defnyddio llai ar blaleiddiaid a gwrteithiau anorganig.   

 

Meddwl am leoliad, daearyddiaeth a thopoleg (ac unrhyw beth anghyffredin)

Does dim protocolau safonol yn hyn o beth, ac mae gwybodaeth rheolwr y tir yn llawer mwy pwysig na dim y gall gwyddoniaeth ei gynnig. Dyma’r adeg pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sut i ddefnyddio’r arferion gorau yn y busnes amaethyddol penodol, ac mae’n hanfodol bwysig ystyried pob un ar sail ei ragoriaethau. Yn ymarferol, ac ar lefel sylfaenol, mae'n debyg y bydd hyn yn edrych fel map o’r caeau sy'n cynnwys manylebau ar gyfer pob ardal dyfu fel defnydd tir, maint, math o bridd etc. Er hynny, o gyplysu’r wybodaeth hon â chofnodion hanesyddol ynglŷn â phob ardal, mae’n cael ei gweddnewid. Daw’n gronfa ddata o wybodaeth, y gall penderfyniadau gael eu seilio arni. Efallai mai’r wybodaeth fwyaf hanfodol i’w chynnwys yw 'pethau sy’n anghyffredin'. Os cymerwn 'cyffredin' i olygu tir gwastad, sydd ar ei orau ym mhob ystyr bosibl, y pethau pwysig i'w hystyried yw unrhyw beth mewn man penodol sy'n wahanol i hynny, ac yn hanfodol ddigon, sut mae’n wahanol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth megis tir ar oleddf, gwynt, agosrwydd at gyrsiau dŵr (neu NVZs), presenoldeb coed, newidiadau mewn uchder, newidiadau mewn amodau pridd etc. Mae angen cyplysu’r darnau hyn o wybodaeth â ffactorau megis ffrwythlondeb y pridd, pwysau’r cnwd a dilyniant y cnydau er mwyn caniatáu i batrymau ddod i'r amlwg. Bydd hyn yn dweud wrth y rheolwr tir sut mae’r ffactorau anghyffredin hyn yn effeithio ar y cnwd, a pha addasiadau y gall fod angen eu gwneud. Yn fwyfwy mae’r broses hon yn cael ei hategu drwy ddatblygiad technolegau synhwyro o bell megis mapio geo-ofodol.  

 

                       

nm

Gallai’r dirwedd (uchod) godi ffactorau sy’n anghyffredin o’u cymharu ag eraill (isod) a allai arwain at addasiadau yn y gyfundrefn faetholion neu yn ym mhwysau’r cnwd a ragwelir.

                       

nm 2

 

Gwella’r dilyniant cnydau i’r eithaf

Nid yw’r angen i gylchdroi cnydau yn debygol o beri syndod. Allwn ni mo’i gyfrif yn wyddor 'flaengar' ychwaith. Eto i gyd, mae yna haenau o fanylion a all helpu rheolwyr tir i ddatblygu dilyniant cnydau sydd â sawl mantais. Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn yw; sawl blwyddyn o ddilyniant cnydau sy’n hysbys? Mae’r wybodaeth hon yn bwysig, am mai dyma’r cofnod cywiraf o fewnbynnau a cholledion maetholion yn y system. Fel y trafodwyd, maetholion sy’n ymadael â’r cae yw cynnyrch gwerthadwy. Er hynny, mae biomas o blanhigion sy'n amhosibl ei werthu, ar ffurf gweddillion cnydau, yn faetholion a all gael eu hadennill. Drwy ystyried y colledion a’r enillion hyn dros amser, cewch ddirnadaeth sy’n caniatáu cynllunio manylach ar gyfer y dilyniant cnydau. Gallai gwybodaeth o'r dilyniant cnydau dros gyfnod o 5-10 mlynedd greu’r posibilrwydd y gallai pob cnwd dilynol adfer ac ailgydbwyso’r diffygion maeth drwy gyfrwng y gweddillion y byddai’n eu gadael ar ôl. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw cnwd sy’n farus am nitrogen i ddilyn cnwd sy’n cloi nitrogen, ond drwy ddeall cyfansoddiad maethol gweddillion cnydau (e.e. drwy brofion ar goesyn y cnwd), a gofynion maethol cnydau gwahanol, gall y patrymau ddod yn fwyfwy soffistigedig. Gellir ychwanegu'r rhain at fanteision eraill cylchdroi cnydau, megis llai o blâu a chlefydau, gan leihau’r ddibyniaeth ar fewnbynnau allanol costus yn y pen draw.

Bydd ymgorffori gweddillion cnydau yn y pridd yn rhyngweithio â threfn trin y tir, ac efallai y bydd angen dadansoddiad o gostau a buddion dulliau gwahanol er mwyn osgoi niwed i iechyd y pridd a allai wrthbwyso’r buddion. Mae cylchdroi’r cnwd yn feddylgar a rheoli’r gweddillion hefyd yn sicrhau bod ystod amrywiol o fater organig yn cael ei ychwanegu at y pridd dros amser, sy’n debygol o gynyddu bioamrywiaeth pridd. Mae busnesau sy’n cynhyrchu ystod gyfyngedig o gnydau yn debygol o weld y broses hon yn anos i’w mireinio’n fanwl, ond hyd yn oed yn yr achosion hyn, gallwch ystyried dilyniannu cnydau mewn blociau o amser, lle byddwch yn manteisio i’r eithaf ar ailgipio maetholion.

 

Gwella cywirdeb rhagolygon pwysau’r cnwd

Mae’r wybodaeth yn yr adrannau blaenorol i gyd yn helpu i bennu'r maeth sylfaenol posibl. Ar ôl canfod hynny, yna y rhagolwg cywiraf o bwysau'r cnwd yw’r rhan olaf o’r hafaliad maetholion. Yn hyn o beth, mae rhagfynegi pwysau’r cnwd yn ymwneud â deall y bwlch rhwng y maetholion sylfaenol sydd ar gael a'r gofynion maethol a fydd yn creu’r pwysau a ddisgwylir. Mae gwybod y swm hwn yn caniatáu i faetholion o ffynonellau eraill gael eu defnyddio’n gywirach. Mae'n gyfuniad o eneteg (dewis yr amrywogaeth), amodau ac arferion rheoli.

Mae ystod eang o ffactorau yn effeithio ar ragfynegi pwysau’r cnwd, ond mae gwella cywirdeb yn dod â sgil-effeithiau ar gyfer effeithlonrwydd rheoli maetholion. Ar raddfa fyd-eang/genedlaethol, bydd pwysau cnydau yn cael eu darogan drwy ddefnyddio modelau ystadegol sy'n cynnwys patrymau bras mewn ffactorau allweddol, megis yr hinsawdd. Er hynny, mae’r modelau hyn yn rhy fras i'w defnyddio ar raddfa’r fferm. Felly, mae angen i bob rheolwr tir ddatblygu ei 'fodel rhagfynegi' ei hun ar sail y ffactorau sydd bwysicaf iddo. Mae llwyddiant y dull yn cael ei seilio ar gasglu data, ond mae’n dibynnu ar sylw i’r manylion a chadw cofnodion cywir. Mae'n cyfuno’r holl wybodaeth sy'n bodoli eisoes, i wneud addasiadau i’r uchafswm sy’n bosibl o ran theori, a ddarperir gan gyflenwr yr hadau.

Gall data gael ei gasglu o amryw o ffynonellau, a bydd pob cofnod yn helpu i greu darlun cliriach o’r tebygolrwydd cyffredinol y bydd y pwysau penodedig yn cael eu cynhyrchu. Mae cofnodion hanesyddol gywir ar gyfer pob amrywogaeth ym mhob ardal hefyd yn hanfodol i helpu i ragfynegi, a gallant hefyd roi syniad o gyfartaledd yr enillion/colledion sy'n gysylltiedig ag amodau tywydd, plâu a chlefydau, neu newidiadau mewn arferion rheoli. Mae'r cofnodion hyn yn cymryd amser i’w cronni i lefel ddefnyddiol, gan na fydd unrhyw ddwy flwyddyn yr un fath a’i gilydd, ond ymhen amser, mae’r manteision sydd ar gael yn talu ar eu canfed. Gall pwysau’r cnwd gael eu hamcangyfrif hefyd drwy ddefnyddio plotiau treialu bach (o leiaf 1m × 1m), lle mae hadau’n cael eu hau a phwysau’r cnwd yn cael eu mesur yn fanwl. Dylid defnyddio’r cyfartaledd o 5 o blotiau o leiaf, ac mae angen i'r broses gael ei hailadrodd ar gyfer pob math gwahanol o ardal/pridd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer asesu potensial amrywogaethau newydd/gwahanol er mwyn cael gwell pwysau yn sgil eu gallu i wrthsefyll yr amodau ar safle penodol yn well.

Bydd y gallu i gasglu data manwl gywir yn y dyfodol yn cael ei ategu gan ddatblygiad cyflym technolegau synwyryddion a synhwyro o bell. Bydd synwyryddion ar gael ar beiriannau fferm, yn y pridd, a hyd yn oed mewn 'tatŵs' ar y planhigion eu hunain, gan ddychwelyd data cywir iawn, mewn amser real am y sefyllfa mewn unrhyw leoliad penodol. Bydd y data hwn yn cael ei gyfuno â’r trothwyon gorau posibl yn y labordy i roi rhagfynegiad cywir iawn o bwysau’r cnwd a ddisgwylir. Mae yna nifer o gynhyrchion synhwyro o bell eisoes sy’n defnyddio technegau sydd wedi’u seilio ar ddelweddau (gan ddefnyddio delweddau o loeren/drôn) ac sy'n gallu canfod twf gwael a achosir gan straen sy’n gysylltiedig a dŵr, maetholion, clefyd neu bryfed. Mae’r rhain yn defnyddio ffactorau fel amrywiadau cynnil yn lliw’r dail, nad ydyn nhw’n amlwg o bosibl wrth edrych â’r llygaid. Mae'r data hwn i gyd yn cael ei fwydo i systemau cyfrifiadur sy'n creu mapiau/graffiau hawdd eu defnyddio, sy’n gosod offer penderfynu pwerus ar flaenau bysedd rheolwr y busnes amaethyddol. Mae’n anochel y bydd y technolegau hyn yn gostus, ond gall yr arbedion effeithlonrwydd sy’n dod yn eu sgil fod yn gost-effeithiol o’u defnyddio ar y raddfa gynhyrchu gywir.

 

                            

nm 3

Mae casglu a dadansoddi data yn gwella’r gallu i fireinio cynlluniau rheoli maetholion

 

Taenu maetholion

Ar ôl adnabod y bwlch rhwng y waelodlin bosibl a'r swm y mae ei angen er mwyn sicrhau’r pwysau sydd wedi’u rhagfynegi’n gywir, rydym yn troi’n sylw at ffynhonnell y maetholion a’r math o faetholion sy’n cael eu taenu er mwyn 'cau’r bwlch'.

 

Ffynonellau a mathau

Mae defnyddio maetholion mewn ffordd effeithlon bob amser yn gwestiwn o gost o’i chymharu â budd, ond yn gyffredinol, mae maetholion a all gael eu hadennill drwy weithrediadau ar y fferm yn well na 'phrynu i mewn'. Gall hyn fod ar ffurf tail, defnyddio cnydau sy’n cloi maetholion (e.e. codlysiau), dychwelyd gweddillion cnydau i’r pridd, neu gyfuniad o'r rhain. Yr her yw deall gwerth y ffynonellau maetholion hyn, a faint y byddant yn ei gyfrannu – ac a fydd hyn yn gyson drwy gydol y tymhorau ai peidio, ac o’r naill flwyddyn i’r llall. O ran tail, bydd hyn yn dibynnu ar effeithiolrwydd yr arferion rheoli tail megis profion ffrwythlondeb, storio a gwasgaru. Mae’r gyfradd cloi nitrogen mewn cnydau codlysiau yn amrywio yn ôl y cnwd, amodau’r pridd a’r bacteria sy’n gysylltiedig â nhw, ond gallwch amcangyfrif y rhain drwy samplu’r pridd cyn, yn ystod ac ar ôl eu tyfu. Gall gweddillion cnydau gael eu hasesu ar gyfer maetholion, neu gellir asesu eu gwerth drwy ailadrodd gwaith samplu pridd ar ôl eu hymgorffori. Er eu bod yn amrywiol iawn, maen nhw’n adnodd maeth arwyddocaol.

 

Cyfradd

Mae’r maetholion sydd ar gael, a’r ddealltwriaeth glir ynglŷn â'u buddion wedi arwain, mewn llawer o achosion, at eu gorddefnyddio. Yn Ewrop er enghraifft, mae effeithlonrwydd defnyddio nitrogen ar gyfartaledd yn llai na 50% (ac yn waeth mewn systemau da byw). Er gwaethaf hyn, Ewrop mewn gwirionedd yw un o'r cyfandiroedd mwyaf effeithlon.

O ran y gyfradd daenu, y ffactorau pwysicaf sy'n gysylltiedig â lleihau colledion yw: cyfrifo'r gyfradd orau ar sail rhagfynegiadau cywir o bwysau’r cnwd, gan addasu ar gyfer newidiadau yn y gofynion drwy gyfnodau twf y cnydau, a mireinio’r cyfraddau taenu ar sail y pridd, y tywydd a’r arferion rheoli eraill (e.e. cyfundrefn trin y tir, ymgorffori gweddillion etc.). Mae argymhellion ar gael yn y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng RB209.

 

Amseru

Mae amser pryd i wasgaru maetholion (yn achos tail a gwrtaith) yn holl-bwysig. Mae argymhellion ynglŷn ag amseru ar gael i’r holl gynhyrchion masnachol, ond dylech roi ystyriaeth hefyd i ffactorau fel tymheredd y pridd (sy’n effeithio ar gyflymder dadelfeniad), arferion troi’r tir (pa mor gyflym y caiff y tail neu’r gwrtaith ei ymgorffori yn y pridd) a lleoliad storfeydd tail (o ran pa mor agos ydyn nhw at y man lle defnyddir y tail). Mae patrymau glawiad hefyd yn creu effaith bwysig ar amseriad gwasgaru tail, gan gyfrannu’n sylweddol at golledion drwy gyfrwng dŵr ffo, a all arwain at lygredd damweiniol. Mae hyn yn waeth ar safleoedd ar oleddf. Gall amseru ddibynnu hefyd ar y llafur a’r offer sydd ar gael a’r amserlen. Argymhellir osgoi gwasgaru’n ddiangen yn y gwanwyn a’r hydref pan nad yw’r cnydau’n tyfu mor gryf. Bydd amseru gwrtaith i’w daenu yn ystod cyfnodau twf cyflym yn golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. 

 

Dull

Mae yna ddewis cyffredinol i’w wneud rhwng manwl ac anfanwl – sef gwasgaru ar yr wyneb, a chwistrellu. Er y gall fod yn fwy costus defnyddio technegau manwl gywir, gall y perygl o golledion yn sgil tywydd gwael, yn arbennig ar safleoedd ar oleddf, newid yr economeg o blaid hynny. Mae calibro lledaenwyr, a defnyddio’r trwynau etc cywir hefyd yn cyfrannu yn sylweddol at sicrhau effeithlonrwydd. Bydd yna gydadwaith hefyd rhwng defnyddio maetholion a dyfrhau, ac o ran egwyddor gyffredinol, dylid defnyddio cyn lleied â phosibl o ddŵr yn union ar ôl defnyddio gwrteithiau.

 

Cadw cofnodion, gwerthuso a mireinio

Gwybodaeth yw’r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, a bydd yn lleihau colledion maetholion. Gan hynny, cadw cofnodion (neu gasglu data arall) yw hanfod effeithlonrwydd. Mae'n bwysig bod cofnodion nid yn unig yn adlewyrchu’r hyn a gynlluniwyd, ond hefyd unrhyw wyriadau oddi wrth hynny. Mae’n hanfodol cofnodi y penderfyniadau gwirioneddol a wneir a'r rhesymau drostyn nhw, ynghyd â chofnodion o ffactorau anarferol fel tywydd eithafol, achosion o glefydau a phlâu neu berfformiad amrywogaeth benodol. Mae cymryd amser i werthuso prosesau’n fanwl gywir, adolygu arferion ac ystyried unrhyw faetholion a allai gael eu cario drosodd i'r tymor canlynol, arwain at fanteision o ran cost, effeithlonrwydd ac amgylchedd o’u cronni dros nifer o flynyddoedd.

 

Crynodeb

Hanfod rheoli maetholion yn effeithiol yw defnyddio’r maetholion cywir yn y symiau cywir, ar yr adegau cywir, ac mae enillion sylweddol i'w cael drwy lynu at yr egwyddorion hyn. Ond, er mwyn rheoli maetholion mewn ffordd wirioneddol fanwl gywir, mae angen rhoi sylw i’r manylion. Mae hyn yn dechrau gyda dealltwriaeth glir o gyd-destun penodol y fferm, mae’n cael ei wella drwy gasglu gwybodaeth, ac fe fydd ar ei orau drwy ddefnyddio adnoddau maeth y fferm i’r eithaf. Mae pob un o'r elfennau hyn yn cau’r bwlch rhwng y gofynion maeth a’r adnoddau, yn lleihau'r angen i brynu cynhyrchion maeth ychwanegol, ond hefyd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth