Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
Ionawr 2024
Mae cneifio cnu defaid yn hanfodol o safbwynt lles yr anifail, ac mae’n helpu i ddiogelu defaid rhag ectoparasitiaid a rhag datblygu straen gwres dros fisoedd yr haf.
Mae gwlân defaid yn gynnyrch defnyddiol sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin o fewn y diwydiannau tecstilau, adeiladu a garddwriaeth. Fodd bynnag, mae’r pris y mae ffermwyr yn ei gael am wlân yn isel iawn. Felly, ceir diddordeb sylweddol mewn cynyddu gwerth y cynnyrch.
Un maes o ddiddordeb yw bridio defaid i gynhyrchu gwlân o ansawdd uwch. Trwy wella ansawdd y gwlân, mae’n bosibl y byddai modd cael mynediad i farchnadoedd premiwm, ac felly i dderbyn gwell elw.
Gydag unrhyw raglen fridio, mae angen bod yn ofalus o ran unrhyw gyfaddawdau posibl a wrth ddethol ar gyfer nodwedd benodol. Er enghraifft, mae’n bwysig nad yw nodwedd benodol yn cael ei dethol ar draul nodweddion eraill neu iechyd a lles yr anifail
Cyflwyniad
Mae cneifio cnu defaid yn hanfodol o safbwynt lles er mwyn eu diogelu rhag ectoparasitiaid (ymosodiad clêr) a straen gwres yn ystod misoedd yr haf. O ganlyniad, mae’r cnu neu’r gwlân yn un o sgil-gynhyrchion cynhyrchu cig neu laeth. Mae gwlân yn gynnyrch amlddefnydd sy’n gallu cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, e.e. gellir defnyddio gwlân yn y diwydiant tecstilau i gynhyrchu carpedi, matiau, llenni, llieiniau, dillad gwely a dillad. Gellir hefyd defnyddio gwlân yn y diwydiant adeiladu ar gyfer inswleiddio adeiladau. Roedd un astudiaeth yn dangos bod dargludedd gwres paneli gwlân gyda dwysedd o 25 / 92.5 kg / m3 yn 0.040 - 0.041 W / mK. Yn ogystal, mae gwlân wedi cael ei ystyried yn addawol yn y diwydiant garddwriaeth lle gellir ei ddefnyddio fel gorchudd neu ar gyfer compostio.
Gwerth gwlân ar hyn o bryd yn y DU
Er bod modd trawsnewid gwlân i greu amrywiaeth o gynhyrchion defnyddiol, mae’r pris y mae ffermwyr y DU yn ei gael am wlân yn isel iawn. Felly, ychydig iawn o elw y gellir ei wneud o werthu gwlân, ac yn aml iawn, mae ffermwyr naill ai’n adennill costau’n unig neu ar eu colled wrth ystyried costau cneifio, er enghraifft, costau talu contractwyr i gneifio, trydan i bweru’r peiriannau cneifio, heb sôn am gostau llafur yn gysylltiedig â chasglu a pharatoi’r anifeiliaid yn barod i gael eu cneifio. I roi hyn yn ei gyd-destun, roedd Bwrdd Gwlân Prydain yn nodi bod cost cneifio gwlân yn 2022 yn 20 ceiniog/kg ar gyfer graddau craidd o wlân Defaid Mynydd Cymreig. Roedd mathau craidd o wlân o ddiadelloedd organig yn cyrraedd 70 ceiniog/kg, a mathau gan ddefaid Mynydd Cymreig yn cael 20 ceiniog/kg. Yn ôl arolwg Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol yn 2023, roedd costau cneifio oddeutu £1.65 fesul mamog a £3.10 fesul hwrdd.
Beth sy’n pennu pris gwlân?
Yn y DU, caiff gwlân ei werthu’n bennaf drwy Fwrdd Gwlân Prydain ar ffurf ocsiwn. Mae’r pris a dderbynnir yn seiliedig ar bwysau’r cnu, glendid a System raddio Bwrdd Gwlân Prydain, lle ceir dros 120 o raddfeydd yn seiliedig yn bennaf ar fath a nodweddion. Mae’r math o wlân yn cael ei bennu’n bennaf yn ôl; hyd yr edefyn, crychiad, manedd, teimlad a llewyrch sydd wedi cael eu mireinio i chwe chategori math (Ffigur 1). O fewn pob math, mae’r gwlân yn cael ei raddio’n seiliedig ar ansawdd sy’n cael ei bennu yn ôl; tarddiad (e.g. gan hesbin neu famog), lliw, cryfder yr edefyn, unffurfedd, carth, ffibrau llwyd, gwlân matiog, a chneifio am y tro cyntaf / ail dro, ac yna caiff y taliad ei bennu. O ganlyniad, mae gan wahanol fridiau wahanol nodweddion a mathau o wlân, felly mae gwahanol daliadau’n gysylltiedig â hynny (Ffigur. 1). Fodd bynnag, yn aml iawn, gwlân gyda diamedr ffibr isel (cyfrif micron isel) sy’n derbyn y prisiau uchaf.
Ffigur 1: a) Gwahanol gategoriau o wlân ac enghreifftiau o fridiau ym Mhrydain sy’n gysylltiedig â nhw b) pob un o 60 o fridiau defaid yn y DU a’i categorïau, lluniau gan Fwrdd Gwlân Prydain.
Sefydlu gwerth gwlân y DU
Ceir diddordeb sylweddol mewn sefydlu gwerth gwlân. Un ffordd o wneud hynny yw bridio defaid ar gyfer gwlân o ansawdd uwch, ac felly i gael defaid amlbwrpas. Mewn geiriau eraill, defaid sy’n cynhyrchu cig a gwlân yn hytrach na chanolbwyntio ar un cynnyrch yn unig. Gallai gwella ansawdd gwlân alluogi ffermwyr i gyrraedd marchnadoedd premiwm ac felly i sicrhau gwell elw. Mae gwaith ymchwil yn y maes hwn yn brin yn y DU, fodd bynnag, cyhoeddwyd prosiect blwyddyn o’r enw Fabulous Fibre yn ddiweddar ym mis Ionawr 2024. Ariennir y prosiect drwy rownd 3 o raglen Gwaith Ymchwil Rhaglen Arloesi Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DEFRA) a ddarperir mewn partneriaeth gydag Innovate UK. Nod y prosiect 12 mis yw ymchwilio i ddichonolrwydd gwella ansawdd cnu a chynyddu gwerth gwlân drwy fridio a geneteg, lle bydd ffocws ar wella ansawdd drwy leihau cyfrif micron gwlân gan fridiau sy’n cynhyrchu gwlân mwy mân yn y DU. Er mwyn deall posibiliadau hyn yn well, mae’n bwysig deall bioleg a datblygiad ffoliglau a ffibrau gwlân.
Datblygiad Ffoliglau a Ffibrau
Mae cnu dafad wedi’i greu o nifer o ffibrau sy’n datblygu o ffoliglau sy’n gysylltiedig â chwarennau sebwm. Caiff bioleg a datblygiad ffoliglau a ffibrau gwlân ei egluro’n seiliedig ar wybodaeth gan Doyle, et al. (2021). Mae datblygiad ffoliglaidd yn digwydd yn ystod datblygiad y ffoetws o gelloedd epidermaidd yn y croen. Mae’r broses hon yn cynnwys sawl ton. Mae’r don gyntaf yn digwydd oddeutu 65-100 diwrnod i mewn i’r beichiogrwydd ac yn cynnwys datblygiad ffoliglau cynradd. Mae’r ail don yn digwydd oddeutu 90-130 diwrnod i mewn i’r beichiogrwydd ac yn cynnwys datblygiad ffoliglau eilaidd, ac mae’r don olaf yn digwydd oddeutu 100-130 diwrnod i mewn i’r beichiogrwydd ac yn cynnwys ymrannu’r ffoliglau eilaidd. Credir fod y boblogaeth o ffoliglau’r croen yn gyflawn erbyn tua phedwar mis ar ôl geni.
Fel y nodwyd uchod, mae ffibrau gwlân yn cael eu cynhyrchu o fewn ffoliglau sy’n gorwedd o fewn yr isgroen a’r uwchgroen. Mae gan y ffoligl dri phrif barth sy’n bwysig ar gyfer datblygiad ffibrau gwlân. Y rhan yw bwlb y ffoligl, parth ceratineiddio a’r parth caledu terfynol (Ffigur 2). Mae celloedd o fewn bwlb y ffoligl yn lluosi ar gyfradd gyflym ac yn mudo’n allanol lle maent yn synthesu ceratin (protein ffibr asid amino sy’n uchel mewn sylffwr) o asidau amino o bibellau gwaed gerllaw. Mae proteinau gwlân wedyn yn ffurfio o ganlyniad i drawsgrifiad genynnau a mecanweithiau trosi. Mae pilen fewnol y gwreiddyn sy’n amgylchynu celloedd ffibrau hefyd yn ffurfio o fewn bwlb y ffoligl, ac mae’n caledu ac yn creu mowld lle mae’r celloedd ffibr yn cael eu siapio. Pan mae’r celloedd ffibr yn cyrraedd diwedd y parth ceratineiddio ffoliglau, mae’r celloedd pilen yn cael eu hadsugno, ac mae’r celloedd ffibr yn sychu a chaledu yn dilyn cynhyrchu’r bondiau deusylffad rhwng atomau sylffwr ar weddillion systëin yn y protein ceratin. Mae’r ffibr gwlân dilynol yn ymddangos gydag amrywiaeth o grychau, o ganlyniad i wahaniaethau yn y broses o galedu’r ffibrau ar un ochr o’i gymharu â’r llall.
Diagram sgematig o ffoligl gwlân a gyflwynwyd gan Yu, et al. (2009).
Beth sy’n pennu ansawdd gwlân, ac a oes modd dethol geneteg ar gyfer hyn?
Pwysau’r cnu
Gellir disgrifio pris gwlân fel pris yr uned fesul cilogram o gynnyrch; felly mae pwysau’r cnu yn effeithio ar y taliad a dderbynnir amdano. Er enghraifft, po drymaf yw’r cnu, y mwyaf yw’r taliad i ryw raddau. Mae papur sy’n trafod ffoliglau gwlân a nodweddion croen defaid Merino, yn disgrifio’r hafaliad isod ar gyfer cyfrifo cyfanswm y gwlân a gynhyrchir gan ddafad fesul blwyddyn, ac felly pwysau’r cnu. O’r hafaliad hwn, gellir gweld bod diamedr y ffibrau, dwysedd ffoliglau a hyd ffibrau oll yn nodweddion pwysig o ran pennu pwysau cnu. At hynny, gall y berthynas rhwng y nodweddion hyn bennu ansawdd y gwlân.
W = (L x N x CSA x S x A) x 365
W = Pwysau
L = Cyfradd twf hyd ffibrau (µm/ d)
N = Dwysedd ffoliglau (ffoliglau / mm2)
CSA = Arwynebedd trawstoriad cymedrig (µm2)
S = Dwysedd cymharol y gwlân
A = Arwynebedd y croen gyda chnu (mm2)
Dwysedd Ffoliglau
Credir mai dwysedd ffoliglau yw un o’r prif nodweddion sy’n dylanwadu ar ansawdd a chyfaint gwlân. Gellir diffinio dwysedd ffoliglau yn ôl cyfanswm nifer y ffoliglau fesul uned arwynebedd o'r croen a chymhareb ffoliglau eilaidd i ffoliglau cynradd. O ganlyniad, mae cyfanswm arwynebedd y croen, sy’n ddibynnol ar faint ac arwynebedd y corff yn dylanwadu ar hyn. Nid yn unig hynny, mae’r graddau y mae’r ffoliglau eilaidd yn ymrannu hefyd yn gallu pennu dwysedd ffoliglau. Hefyd, credir fod ymraniad y ffoliglau eilaidd yn bwysig o ran pennu ansawdd gwlân, gan fod y broses hon yn gallu pennu gwahanol nodweddion, megis cymhareb ffoliglau cynradd i ffoliglau eilaidd, diamedr y ffibrau, hyd y ffibrau a phwysau’r cnu glân.
Gwyddwn fod dwysedd ffoliglau yn amrywio o frid i frid, ac mae’n cael ei reoli gan eneteg. Felly, ceir diddordeb yn y nodwedd hon mewn rhaglenni bridio sydd wedi’u targedu ar gyfer gwella ansawdd gwlân. Gellir gweld enghraifft o hyn mewn rhaglenni bridio blaenorol yn gysylltiedig â defaid Merino. Mae gan ddefaid Merino wlân o ansawdd uchel sy’n cynnwys ffibrau sydd fel arfer oddeutu 15cm o hyd a diamedr isel o oddeutu 20 µm. Yn ogystal, mae dwysedd y ffoliglau yn uchel (hyd at 60 / mm2) gyda chyfanswm poblogaeth o oddeutu 107 - 108 o ffoliglau. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i raglenni bridio dethol. Yn ogystal, mae rhaglenni bridio dethol wedi arwain at lai o wahaniaeth maint rhwng ffoliglau cynradd ac eilaidd sydd wedi ymrannu, ac wedi cynyddu nifer y ffoliglau eilaidd sydd wedi ymrannu. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o gnu defaid Merino yn deillio o ffoliglau eilaidd gan arwain at gnu mân gyda ffibr â diamedr unffurf.
Diamedr ffibrau
Mae diamedr ffibrau gwlân yn fesur allweddol o ran ansawdd gwlân, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd o fewn y diwydiant defaid, lle caiff ei fesur ar ffurf diamedr cymedrig ffibrau gwlân seimllyd mewn micromedrau neu ficronau (µm). Gwyddwn fod diamedr yn effeithio ar drwch ffibrau, mas y ffibrau fesul uned, ac yn dylanwadu ar nodweddion prosesu, faint o glymau sy’n bresennol wrth sgwrio a faint o ffibrau sy’n torri. O ganlyniad, gall diamedr y ffibrau ddylanwadu ar brisiau, lle mae ffibrau micron isel yn dueddol o gael gwell taliadau. At hynny, credir fod diamedr ffibrau gwlân yn gysylltiedig â morffogenesis a datblygiad ffoliglau gwlân mewn croen defaid. Gwelwyd hefyd bod cydberthynas genynnol negyddol rhwng diamedr ffibrau a dwysedd ffoliglau, felly ceir diddordeb mewn lleihau diamedr ffibrau drwy gynyddu dwysedd ffoliglau. Fodd bynnag, mae ffibrau diamedr isel yn aml yn gysylltiedig gyda llai o bwysau yn y cnu glân, ond mae hynny’n amrywio, ac felly’n cynnig cyfle i nodi unigolion gyda ffibrau gyda diamedr isel a phwysau da o ran cnu glân mewn rhaglenni bridio.
Mae defaid Merino yn adnabyddus am ffibrau gyda diamedr isel, ac felly mae gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar y brid hwn yn gyffredinol o ran gwella ansawdd gwlân. Yn ogystal, cafwyd diddordeb mewn gwledydd megis Seland Newydd mewn bridio defaid Merino am wlân mân iawn (13 – 16 µm) er mwyn cyrraedd marchnadoedd premiwm. Awgrymir bod cyfuniad o ffibrau gyda diamedr isel a chnu trymach fel arfer i’w weld ymysg defaid gyda dwysedd ffoliglau gwlân uchel a chymhareb uchel o ffoliglau gwlân eilaidd i ffoliglau cynradd. Nod un astudiaeth ar ddefaid Merino yn Seland Newydd oedd bridio hesbinod gyda ffibrau o ddiamedr cymedrig o <16 µm ac i fridio mamogiaid llawn dwf gyda ffibrau o ddiamedr cymedrig o <17 µm heb effeithio’n negyddol ar bwysau’r cnu, pwysau byw na pherffomiad atgynhyrchu dros gyfnod o wyth mlynedd. Roedd yr arbrawf yn cynnwys proses sgrinio dwys i sefydlu diadell sylfaenol gyda ffibrau â diamedr isel (yn seiliedig ar werth bridio BLUP ar gyfer diamedr ffibrau), ac yna casglu data gan 2000 o epilion dilynol dros bum mlynedd geni yn seiliedig ar grŵp o 70 o hyrddod. Roedd canlyniadau’r arbrawf yn dangos bod detholiad dwys ac yna creu cnewyllyn agored yn ddull addas ar gyfer dethol unigolion ar gyfer ffibrau gyda diamedr cymedrig isel, ac nad oedd yn effeithio’n negyddol ar bwysau byw na phwysau’r cnu.
Hyd y gwlân
Ystyrir bod hyd y gwlân hefyd yn nodwedd bwysig o ran pennu ansawdd gwlân. Ceir tystiolaeth fod y genyn twf ffibroblast ffactor pump (FGF5) yn cyfyngu ar hyd blew mewn ystod o rywogaethau gan gynnwys bodau dynol, llygod, asynnod, cathod a chŵn drwy effeithio ar gylchred y blew. Gwelodd astudiaeth a fu’n defnyddio chwistrelliad micro cyn-gnewyllol CRISPR/CAS9 i addasu’r genyn FGF5 mewn defaid Dorper bod y defaid yn cael anawsterau gyda’r genyn FGF5 ac felly eu bod yn tyfu gwlân hirach. Mewn astudiaeth pellach, gwelwyd bod defaid Dorper a oedd yn cael anawsterau gyda’r genyn FGF5 yn tyfu mwy o wlân mân a bod ganddynt fwy o ffoliglau dwys gweithredol. O ganlyniad, gallai’r genyn hwn fod o ddiddordeb mewn rhaglenni bridio.
Mae cneifio yn broses hanfodol o safbwynt lles i ddiogelu defaid rhag ectoparasitiaid a straen gwres. Sgil-gynnyrch cneifio yw gwlân, sy’n gynnyrch defnyddiol sy’n gallu cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Fodd bynnag, mae’r prisiau y mae ffermwyr y DU yn eu cael am eu gwlân yn isel. O ganlyniad, ceir diddordeb mewn cynyddu gwerth gwlân, ac un o’r ffyrdd o wneud hynny yw gwella ansawdd y gwlân er mwyn iddo gyrraedd marchnadoedd premiwm ac felly i sicrhau mwy o elw. Felly, ceir diddordeb mewn cynhyrchu defaid amlbwrbas, sef defaid sy’n cynhyrchu cig a gwlân o ansawdd uchel. Mae hyn, yn ei dro, yn cynnwys bridio defaid ar gyfer gwlân gyda ffibrau â diamedr isel a phwysau uchel o ran cnu glân, sy’n cael eu dylanwadu’n sylweddol gan ddwysedd ffoliglau a chymhareb ffoliglau eilaidd i ffoliglau cynradd sy’n datblygu gyda’r ffoetws. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio mai rhan fechan yn unig y mae geneteg yn ei chwarae, a bod ffactorau allanol megis yr amgylchedd a statws maeth hefyd yn gallu effeithio ar ansawdd gwlân. Yn yr un modd, fel gydag unrhyw raglen fridio, mae’n bwysig nad yw nodweddion penodol yn cael eu dethol ar draul nodweddion eraill o bwys economaidd, neu ar draul iechyd a lles yr anifail.