Y parlwr odro yw un o’r darnau o offer sy’n cael ei ddefnyddio amlaf ar fferm laeth, ond mae’n gallu cael ei esgeuluso wrth ystyried materion cynnal a chadw.

Gall offer godro sydd heb gael ei gynnal a’i gadw’n effeithiol arwain at odro aneffeithlon neu anghyflawn, ansawdd isel o ran llaeth, niwed i’r tethi a heintiau mastitis. Fodd bynnag, pan fydd yn cael ei ofalu amdano’n effeithiol, gall y parlwr odro gynyddu effeithlonrwydd godro, ansawdd a chynnyrch y llaeth yn ogystal ag iechyd y fuches.

Meddai Ian Ohnstad, o gwmni ymgynghori llaeth arbenigol The Dairy Group: “Mae’r peiriant godro fel unrhyw beiriant arall ar y fferm. Bydd methu â gweithredu amserlen wedi’i gynllunio ar gyfer cynnal a chadw yn arwain at offer yn torri yn fyr rybudd, a gall achosi niwed i feinwe sensitif y deth.”

Gan fod maint buchesi wedi cynyddu a bod parlyrau yn gweithio am gyfnodau hirach, mae’n bosib na fyddai un gwasanaeth cynnal a chadw blynyddol gan beiriannydd llaeth yn ddigonol bellach.

parlour maintenance

“Mae amlder gwasanaeth cynnal a chadw tractor neu gombein fel arfer yn ddibynnol ar nifer yr oriau gwaith ar y cloc,” ychwanegodd Mr Ohnstad. “Po fwyaf o oriau mae’r peiriant yn gweithio, po fyraf fydd y cyfnod rhwng gwasanaethau cynnal a chadw. Dylai’r un egwyddor fod yn wir o ran parlwr odro.”

Fel arfer bydd angen gwasanaeth cynnal a chadw interim wedi 750 awr weithredol, a gwasanaeth mwy sylweddol wedi 1500 awr. Bydd buches o 250 sy’n godro am saith awr y dydd angen gwasanaeth sylweddol bob 215 diwrnod. Dylai hwn gynnwys prawf statig i fonitro’r lefel sugno, pylsadu, grym sugno wrth gefn effeithiol, colledion wrth sugno ac allbwn pwmp gwagio. Bydd y gwasanaeth cynnal a chadw fel arfer yn cynnwys  pecyn gwasanaeth ar gyfer offer pylsadu sy’n costio rhwng £25-£35, mesuryddion llaeth, pympiau llaeth a phympiau gwagio.

Rhwng gwasanaethau, dylai staff fferm wneud ychydig o waith cynnal a chadw sylfaenol. Mae’n hanfodol i fonitro’r lefel sugno gyda mesurydd sugno fferm manwl i sicrhau godro effeithlon, cyflawn ond tyner.

“Fel arfer, dylai parlwr gyda llinellau llaeth ar lefel isel fod â system sugno rhwng 40 – 44.0 KiloPascal, a dylai safle lefel canolig fod yn nes at 44 – 48.0 KPa.”

Bydd pylsadu effeithiol, sy’n galluogi’r leiniwr i agor a chau’n llawn yn ystod cylchred, yn lleddfu effaith sugno ar deth y fuwch. Mae godro anghyflawn neu anghyson yn aml o ganlyniad i fethiant pylsadu.

“Gall fod yn fethiant o’r offer pylsadu cyfan a fydd yn effeithio’r clwstwr cyfan, neu un sianel a fydd yn arwain at odro anghyflawn neu chwarteri penodol,” meddai Mr Ohnstad.

Mae hefyd angen newid leinwyr godro yn rheolaidd. Mae leinwyr yn dirywio wrth iddynt agor a chau ac o ganlyniad i gyswllt rheolaidd gyda braster llaeth a deunydd glanhau cryf.

“Bydd leinwyr hŷn yn godro’n arafach, yn fwy tebygol o lithro ac yn tueddu i adael lefelau uwch o laeth gweddilliol yn y gadair.”

Dylid newid leinwyr rwber ar ôl godro 2,500 o wartheg, ac maent yn costio rhwng £16 a £30 am bedwar, tra bod leinwyr silicon yn gallu godro yn nes at 8,000 o wartheg cyn gorfod cael eu newid, ac yn costio oddeutu £50. Er mwyn cyfrifo pa mor aml y dylid newid leinwyr, rhannwch gyfanswm y gwartheg sy’n cael eu godro bob dydd (gan ystyried amlder godro) gyda nifer y pwyntiau godro. Dyma nifer y gwartheg sy’n cael eu godro gan bob pwynt godro yn ddyddiol. Rhannwch y rhif hwn gyda 2,500 godriad er mwyn cyfrifo pa mor aml dylid newid y leinwyr.

Bydd sefydlu trefn gynnal a chadw rheolaidd yn sicrhau bod systemau godro yn gweithredu’n effeithlon, yn cael y cynnyrch gorau o’r llaeth ac yn gwarchod iechyd y fuches. 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am hylendid parlwr a mastitis ar ein taflen gwybodaeth Heintiau Mastitis - Achosion a Rheolaeth

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr