Cynhaliodd Cyswllt Ffermio gyfres o ddigwyddiadau maeth mamogiaid ym mis Chwefror yn canolbwyntio ar fodloni anghenion y famog a sicrhau’r perfformiad gorau gan yr ŵyn, lleihau’r niferoedd o ŵyn a gollir a rheoli mamogiaid pan fydd eu cyflwr yn wahanol.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd ffermwr o Ganolbarth Cymru a ddywedodd ei fod wedi arbed miloedd o bunnoedd ar ei fil porthiant dros y gaeaf trwy borthi protein wedi ei ddiogelu i famogiaid cyfeb.

Ers gweithredu cynllun porthi newydd i famogiaid sy’n cario dau oen yn 2015, mae William Evans o Hendreseifion, Llanwrin, Machynlleth wedi arbed mwy na £6,000 neu £12 am bob mamog ar ei filiau porthi dros y gaeaf.

Mae’r 550 o famogiaid yn cael silwair o safon uchel mewn byrnau, gyda dadansoddiad ar 474g/kg DM, 10.8ME a 11.9% protein craidd – ynghyd â 100g y dydd o soia wedi ei drin â fformaldehyd. Rhoddir 1.3 kg o silwair DM y dydd, gydag anifeiliaid ffit - sgôr cyflwr corff (BCS) o 2.5 ac uwch - ar 14.5MJ/ME/dydd am y mis olaf a’r rhai tenau (Sgôr Cyflwr Corff 2 ac is) ar 17.6MJ y dydd.

Roedd y diet yn y gorffennol yn cynnwys dwysfwyd a blociau mwynau yn costio £16.63 i bob mamog. Ond mae William yn amcangyfrif eleni mai dim ond £4.15 fydd y gost i bob mamog, sy’n cynnwys £1.93 am y soia wedi ei drin, £1.57 am geirch cyflawn (wedi eu porthi ar 300g y dydd i famogiaid tenau yn unig) a 65c am bowdwr mwynau.

Dywedodd William: “Pan ddaethom allan o’r drefn organig ar ddiwedd 2014, nid oeddwn yn teimlo bod y mamogiaid yn perfformio cystal ag y gallen nhw, felly roedd maethiad yn rhywbeth yr oedd yn rhaid ei sortio yn iawn. Fe wnes i gysylltu â John Vipond, yr oeddwn wedi ei glywed yn siarad mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio yn y gorffennol ac fe wnaeth awgrymu porthi Protein Dietegol Aniraddadwy (DUP) ar ffurf soia wedi ei drin. Roedd yn dipyn o fenter, ond roeddwn yn gwybod bod digon o dystiolaeth i'w gefnogi, felly meddyliais y byddwn yn ‘mynd amdani’ ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn i ni.”

Mae’r DUP yn helpu i gywiro’r diffyg rhwng gofynion protein anifail a gallu’r rwmen i gynhyrchu protein microbig. Dim ond 1% o brotein craidd y gall rwmen ei droi yn brotein microbig i bob MJ o ME yn y diet. Mae unrhyw brotein craidd dros ben yn cael ei wastraffu, ond gellir cywiro’r cydbwysedd trwy ddefnyddio DUP. Soia yw un o’r ffynonellau gorau ar gyfer DUP, ond pan fydd yn cael ei borthi gyda phorthiant o safon uchel, mae’n well defnyddio soia wedi ei drin, fel Sopralin, Soypass neu Ultrasoy. Mae William yn porthi Sopralin, sy’n cynnwys tua 48% protein craidd, ac o hwnnw mae 85-90% yn aniraddiadwy.

Yn ogystal â’r manteision o ran costau, mae William yn credu bod y diet newydd wedi bod yn fanteisiol hefyd o ran iechyd y mamogiaid.

“Dwi’n meddwl bod y mamogiaid yn iachach rhywsut ers newid y diet, yn sicr rydym wedi cael llai yn dangos llawes goch,” ychwanegodd.

“Mae gwahaniaeth yn yr ŵyn hefyd. Ymhlith efeilliaid y llynedd roeddem yn cael dau oen gwastad, da, yn lle un ychydig yn gryfach na’r llall. Mae’n rhaid bod gan y mamogiaid ragor o golostrwm ac mae’n ymddangos ei fod o ansawdd gwell oherwydd mae’r efeilliaid yn gwneud mor dda.

“Dwi wedi cael fy synnu gan y tripledi hefyd. Roeddem wedi bod yn tynnu un a’u magu o fwced, ond roedd yn gostus ac yn cymryd amser. Ond ers newid y diet dwi’n gweld bod y mamogiaid yn gallu magu tri yn hollol iawn eu hunain.”

Mae Hendreseifion yn 320 erw gyda 1,000 o fynydd agored ac mae’r defaid wedi eu rhannu yn dri grŵp – mamogiaid Cymreig pur, mamogiaid croes Llŷn a mamogiaid Cymreig drafft.

Mae William hefyd yn porthi 246 o’r mamogiaid drafft sy’n cael eu cadw allan gyda bloc DUP gyda silwair am bythefnos cyn ŵyna a phythefnos wedyn.

Dywed William fod y system newydd yn arbed llawer o amser gan ei fod yn gallu porthi’r mamogiaid bob yn eilddydd ac nid yw’n treulio cymaint o amser yn rhoi llaeth i’r ŵyn nag yn eu mabwysiadu.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth