Gan Jamie McCoy- Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio

Gan fod glaswellt wedi parhau i dyfu dros y gaeaf, mae’n bwysig cymryd camau i ddiogelu ansawdd y gwndwn a sicrhau gwell silwair.

Mae’r amodau yn ystod gaeaf 2015 yn gyffredinol wedi bod yn gynnes, er yn wlyb, ac mae hynny wedi arwain at dyfiant glaswellt parhaus. Gyda mwy o orchudd ar badogau wedi’u neilltuo ar gyfer silwair, mae hefyd deunydd marw ar waelod y gwndwn, a ddylai gael ei waredu’n ddelfrydol cyn cynaeafu. 

image preserving sward quality

Bydd y deunydd marw ar waelod y gwndwn yn amharu ar dreuliadwyedd ac yn sgil hynny lefelau egni’r silwair. Gall hefyd gynnal ffwng, llwydni a burum, sy’n goroesi’r broses storio ac yn  effeithio ar sefydlogrwydd aerobig y silwair wrth fwydo.  Yn yr achosion gwaethaf, gall hynny arwain at wenwynau ffwng yn y porthiant a fyddai’n peryglu iechyd a pherfformiad anifeiliaid.

Mae pryder hefyd ynglŷn â’r ffaith na fydd halogiad tail ar y dail yn cyrraedd y pridd ar ôl gwasgaru slyri, ond yn hytrach yn aros ar y glaswellt gan effeithio ar eplesiad gyda pherygl uchel o butyric ac amonia yn y silwair. Bydd perfformiad da byw yn ystod cyfnod bwydo allan y gaeaf olynol yn cael ei aberthu os nad yw ansawdd silwair yn cael ei flaenoriaethu nawr, a bydd unrhyw silweiriau sydd wedi’u halogi yn llai sefydlog yn aerobig unwaith y caiff y clamp ei agor, gan arwain at wastraff pellach.

Gellir cymryd camau i atal y problemau hyn nawr. Dylid pori ardaloedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer silwair cyn gynted â phosib, cyn i’r padogau gael eu cau i ffwrdd. Bydd ei gadael yn rhy hwyr yn arwain at leihad mewn silwair, felly mae gweithredu’n gynnar yn hanfodol. Bydd pori gyda defaid neu wartheg yn cael gwared ar ddail a niweidiwyd yn y gaeaf, a lleihau uchder y gwndwn i alluogi slyri i gyrraedd y pridd yn hytrach nag aros ar y ddeilen.

Ar fferm Gelli Aur, Safle Arloesedd Llaeth Cyswllt Ffermio, y nod yw gwneud silwair o Werth D uchel a lleihau’r angen am ddwysfwyd wedi’i brynu. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i’r glaswellt fod o ansawdd uchel wrth silweirio. Mae’r rheolwr, John Owen yn bwriadu cymryd y cyfle i gael gwared ar y deunydd marw ar y cam hwn drwy ganiatáu i gwartheg o fuches y gwanwyn sy’n lloea’n hwyrach i bori’r tir silwair unwaith fel rhan o’u cylchdroad pori cyntaf.

Bydd hynny’n sicrhau bod y silwair toriad cyntaf yn cynnwys tyfiant gwanwyn cwbl newydd. Er bod y pori cychwynnol hwn yn debygol o leihau cynnyrch y toriad cyntaf a gwthio amseriad cynhaeaf yn ei ôl ychydig, nid yw’n cynrychioli gwastraff gan fod y deunydd sych o’r tyfiant gaeaf ychwanegol eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan y fuches y gwanwyn hwn. Hefyd, byddai cyfanswm gwastraff mewn silwair o ansawdd is yn gymaint mwy ar ffurf colledion yn y seilo ac fel dirywiad aerobig.

Dywed John y bydd pori cychwynnol hefyd yn atal problemau o ran halogiad slyri. Gellir gwasgaru slyri yn syth ar ôl pori, gan ychwanegu gwrtaith cyfansawdd wedi hynny os oes angen.

Ychwanegodd Dave Davies Silage Solutions Ltd mewn cyfnod lle mae pwysau cynyddol ar gost cynhyrchiant o fewn y sector llaeth mae’n hanfodol i ffermwyr ystyried gwerth y silwair fel dwysfwyd o fewn porthiant, a dywedodd fod rheolaeth John yn Gelli Aur yn anelu tuag at gael y gorau o ran egni a phrotein ym mhob kg o silwair a gynhyrchir.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol