1 Medi 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae llawer o adar, drudwyod yn arbennig, yn bwyta Dognau Cymysg Cyflawn (TMR) a phorthiant caled arall, gan arwain at golledion economaidd sylweddol i’r ffermwr a cholledion o ran maeth i’r da byw.
  • Mae cyfrifiadau'n awgrymu bod y colledion hyn, ar gyfartaledd, yn cyfateb i £9.60 y dydd, fesul buwch laeth.
  • Gall atal adar trwy ddefnyddio bwydydd gyda phelenni mawr a newid y drefn fwydo i’r prynhawn fod yn effeithiol er mwyn atal colledion.
  • Mae strategaethau eraill yn cynnwys recordiadau sain, ataliadau gweledol ac adar ysglyfaethus, ac er eu bod yn effeithiol yn y tymor byr, maent yn gostus ac mae’r adar yn ymgyfarwyddo â nhw.
  • Un o'r dulliau lliniaru mwyaf effeithiol yw gosod rhwystrau ffisegol megis rhwydi o amgylch storfeydd bwyd, ac er bod y costau cychwynnol yn gallu bod yn uchel, os byddant yn cael eu cynnal a’u cadw, bydd y dulliau hyn yn parhau i fod yn effeithiol ac yn ateb da yn yr hirdymor.

 

Mae’r broblem o adar yn bwyta dognau cymysg cyflawn (TMR), ac unrhyw borthiant caled mewn gwirionedd, wedi effeithio ar ffermwyr ers canrifoedd. Mae’n her sydd i’w gweld o amgylch y byd, lle bynnag y bydd hadau neu borthiant yn cael ei storio mewn sypiau mawr, bydd adar megis drudwyod Ewropeaidd, adar to a cholomennod yn debygol o ddilyn. Mae llawer o wahanol dechnegau wedi cael eu defnyddio i fesur colledion porthiant a chostau i’r ffermwr megis cloriannau, synwyryddion symud, camerâu a modelau ystadegol. Mae amrywiaeth eang o strategaethau lliniaru yn bodoli, o berson yn dychryn yr adar i recordiadau sain o alwadau gofidus. Mae’r dull mwyaf priodol ac effeithiol o liniaru’n dibynnu’n gyfan gwbl ar y fferm dan sylw, er mae cyfuno technegau gwahardd gyda dulliau eraill wedi profi’n un o’r dulliau mwyaf effeithiol.

Mae drudwyod yn adnabyddus am eu hoffter o Ddogn Cymysg Cyflawn (TMR). Mae'r adar hyn yn gymysgedd o adar mudol ac adar brodorol y DU, pob un ohonynt wedi'u diogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981). Mae heriau’n codi pan fo heidiau enfawr o adar sy’n mudo o Ogledd a Dwyrain Ewrop yn ymuno â phoblogaethau’r DU dros fisoedd y gaeaf, ac yn cael eu denu i ffermydd lle mae digonedd o fwyd maethlon ar gael. Yn yr haf, mae'r heidiau mawr yma’n dychwelyd i'w gwlad frodorol ac mae drudwyod domestig yn gwasgaru i dir uwch i fridio. Yn ogystal â'r ffaith bod da byw yn llai tebygol o gael eu bwydo â TMR yn yr haf, mae'r broblem yn tawelu unwaith eto.

Nid yw drudwyod yn clwydo ac yn fforio yn yr un lle, a byddant yn symud rhwng nifer o safleoedd bwyd, gan eu gwneud yn fectorau delfrydol ar gyfer lledaenu pathogenau. Cadarnhawyd yn UDA fod drudwy Ewropeaidd yn gallu trosglwyddo E. coli , Salmonella , Campylobacter a Mycobacterium avium is rywogaeth paratubercwlosis (organeb sy’n achosi clefyd Johne) i wartheg. Daeth astudiaeth i’r casgliad bod cydberthynas bositif rhwng dwysedd drudwyod a phresenoldeb E. coli mewn ysgarthion, a gefnogwyd ymhellach trwy gynnal profion genynnol ar samplau gwartheg a drudwyod a oedd yn cadarnhau’r ddamcaniaeth fod drudwyod yn gallu lledaenu E. coli mewn gwartheg.

 

Gall newidiadau i batrymau mudo drudwyod hefyd fod yn broblem. Gwelwyd cyfnod mudo hwy yn ystod gaeaf 2012-13 lle bu rhai adar yn aros yn y DU am fwy na mis yn fwy nag arfer o ganlyniad i wanwyn annhymhorol o oer. Arweiniodd hyn at gyfnod hwy lle’r oedd drudwyod yn gallu bwyta porthiant gwartheg, gan arwain at golledion ychwanegol i’r ffermwr.

 

Amcangyfrif costau a cholledion

Mae adroddiad gan Kingshay (2012) yn amlygu er bod niferoedd drudwyod wedi lleihau ar draws y DU, mae lefelau poblogaeth uchel yn cael eu harsylwi gan ffermwyr bîff a llaeth dros fisoedd y gaeaf wrth i heidiau enfawr fudo o Orllewin Ewrop, y Baltig a Sgandinafia. Daw'r adroddiad i'r casgliad y gall colledion amrywio o £35 i £153 y dydd i bob 100 o wartheg, gyda cholled o £96 ar gyfartaledd. Ni roddwyd ystyriaeth i iechyd anifeiliaid yn yr achos hwn, a allai ychwanegu’n sylweddol at effaith ariannol plâu ar y fferm. Mae Tabl 1 yn addasiad o’r adroddiad gan Shipton et al ., (2012) ac mae'n cynnig enghraifft o'r dulliau a ddefnyddir i amcangyfrif colledion llaeth oherwydd adar yn bwyta porthiant ar fferm laeth gyda 100 o wartheg.

 

Cyfartaledd

Lleiafswm

Uchafswm

Colledion llaeth o ganlyniad i ddirwyiad yn ansawdd y porthiant

 

 

 

Colledion ME (fesul kg DM)

0.7

0.3

1.1

Colledion llaeth posibl (L fesul buwch o’r TMR)

2.64

1.13

4.15

Colledion llaeth (£/buwch/dydd)

0.74

0.32

1.16

Cost y dydd

£73.96

£31.70

£116.23

Cost fesul gaeaf

£6,657

£2,853

£10,460

 

 

 

 

Cyfaint y colledion porthiant

 

 

 

Colledion pwysau porthiant (%)

6

1

10

Colledion porthiant (kg DM/Buwch/Dydd)

1.2

0.2

2

Colledion porthiant y dydd kg DM

120

20

200

Cost y dydd

£22

£4

£37

Cost fesul gaeaf

£1,987

£331

£3,312

 

 

 

 

Cyfanswm y costau fesul diwrnod

£96.04

£35.38

£153.03

Cyfanswm y costau fesul gaeaf

£8,644

£3,184

£13,772

Tabl 1: Amcangyfrif o gost drudwyod yn bwyta dognau cymysg cyflawn gwartheg ar gyfer 100 o wartheg godro ar wahanol lefelau, wedi’i ail-agraffu o adroddiad Kingshay, 2012. TMR: Dogn cymysg cyflawn; DMI: Cymeriant deunydd sych; ME: Egni Metaboladwy (Shipton et al., 2012).

 

Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi ansawdd maethol silwair indrawn cyn ac ar ôl iddo gael ei effeithio gan ddrudwyod yn bwyta, ac mae’n dangos lleihad yng nghanran starts, starts dargyfeiriol ac olew, gyda’r rhain oll yn awgrymu bod indrawn yn cael ei ddethol a’i dynnu o’r silwair. Mae indrawn yn cynnwys dros 70% o starts, sy’n cynrychioli cyfran sylweddol o’r egni sydd ar gael. Canfuwyd bod colledion porthiant yn gysylltiedig yn uniongyrchol â gweithgarwch adar, gyda haid o tua 20,000 o adar yn achosi hyd at 12% o golledion porthiant, sy'n cyfateb i £0.37/buwch/dydd.

 

Strategaethau lliniaru

Mae amrywiaeth eang o ddulliau posibl er mwyn atal neu leihau adar yn bwyta porthiant:

  • Newid y bwyd a’r arferion bwydo (h.y. ddwywaith o’i gymharu ag unwaith y dydd)
  • Galwadau gofidus sy’n benodol i’r rhywogaeth
  • Gynnau nwy/pyrotechneg
  • Adar ysglyfaethus
  • Arddangosfeydd gweledol — e.e. barcutiaid, bwgan brain, tylluanod denu ayb
  • Dulliau gwahardd ac atal (rhwydi, gorchuddion, bynceri storio ac ati)
  • Rheoli gwastraff

Nid yw pob techneg yn briodol ar gyfer pob fferm ac yn aml efallai na fydd newidiadau mewn rheoli porthiant yn strategaeth ymarferol o safbwynt economaidd. Ystyrir mai cyfuniad o strategaethau sydd fwyaf effeithiol a gellir eu defnyddio ar yr un pryd neu un ar ôl y llall, ond mae’n well pan fyddant yn cael eu defnyddio cyn i’r broblem ddechrau hyd yn oed.

Mae gwaith ymchwil wedi darganfod y mwyaf yw diamedr y pelenni porthiant, y lleiaf tebygol y bydd y drudwy’n gallu ei fwyta. Roedd wydo pelenni gwartheg 1.27 cm o ddiamedr neu fwy yn effeithiol o ran atal drudwyod rhag eu bwyta ar fferm yn Kansas, UDA. Roedd faint o borthiant a fwytawyd gan yr adar yn is wrth ddefnyddio pelenni mwy - roedd pelenni 1.27 - 2.22cm yn arwain at fwyta 4% yn unig o’r dogn a  gynigiwyd, ac roedd 50-54% o’r pelenni 0.39-0.55cm yn cael eu bwyta. Mae'r astudiaeth yn awgrymu mai 0.95cm o ddiametr a llai yw’r maint delfrydol ar gyfer gronynnau, gan fod drudwyod yn gallu bwyta 11% yn unig o’r porthiant a gynigiwyd, gyda’r swm a fwytawyd yn lleihau gyda maint y pelenni. Gall atal yr adar rhag bwyta hyd yn oed annog drudwyod i adael y fferm yn gyfan gwbl i chwilio am leoedd eraill i fwydo, gan gynnig ateb fwy hirdymor. Mae newid amseroedd bwydo yn ddull syml ond effeithiol arall, gan fod drudwyod yn gyffredinol yn bwydo ddwywaith y dydd (brecwast a swper). Mae bwydo yn y prynhawn ar ôl i’r drudwy fwyta yn y bore yn darparu dogn gyflawn heb ei halogi i’r gwartheg. Gall bwydo ddwywaith y dydd hefyd leihau faint sy’n cael ei fwyta a halogiad drwy ysgarthion am yr un rhesymau.

Ar ôl edrych ar wahanol ddulliau atal, mae astudiaethau wedi dangos mai ataliad ffisegol yw’r strategaeth fwyaf effeithiol, er enghraifft, gosod rhwydi neu orchudd dros ardaloedd storio porthiant, yn enwedig pan fydd y rhain yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Y bwlch lleiaf y gall drudwy cyfartalog fynd drwyddo yw oddeutu 2.8cm, fell mae’n rhaid i ddulliau atal fod yn gryf ac o’r maint cywir er mwyn bod yn effeithiol. Gall deunyddiau rhwystro fod yn gostus, a gall rhwydi a gorchuddion amharu ar fynediad ar gyfer cynnal a chadw. Mae'r llun isod yn dangos un math o rwydi y gellir ei ddefnyddio, gyda thyllau yn ddigon bach i atal aderyn y to.

 

Gwelwyd fod technegau clywedol yn gymharol effeithiol ond roedd perygl y byddai’r adar yn dechrau ymgyfarwyddo. Atgymhellir felly bod symud lleoliad dyfeisiau a synau yn aml yn hanfodol. Canfuwyd mai’r dull clywedol mwyaf effeithiol  oedd larymau a galwadau gofidus yn benodol i rywogaethau; fodd bynnag, gallai’r systemau hyn annog cwynion pan fo ffermydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl. Yn yr un modd, mae'r defnydd o ynnau nwy a saethu i godi ofn yn aml yn arwain at gwynion ynglŷn â sŵn mewn ardaloedd preswyl. Gall gynnau a dulliau pyrotechneg eraill fod yn gostus i’w defnyddio a’u cynnal a’u cadw, ac er bod y dulliau hyn yn eithaf effeithiol, gwelwyd fod yr adar yn ymgyfarwyddo yn y tymor hir. Dylid nodi bod dulliau pyrotechneg yn addas ar gyfer caeau cnydau’n unig gan fod y sŵn yn gallu achosi straen i dda byw.

Mae technegau gweledol hefyd yn amrywio o ran effeithiolrwydd ond maent fwyaf effeithiol wrth eu defnyddio ar y cyd â dulliau clywedol. Mae adar yn ymgyfarwyddo gyda gwrthrychau denu (e.e. cerfluniau o adar neu fwganod brain er enghraifft) yn sydyn iawn. Ar y llaw arall, gall denwyr byw megis cŵn a phobl fod yn fwy effeithiol ond mae’r rhain yn ddwys o ran llafur ac yn ddrud. Yn yr un modd, mae hebogyddiaeth ac adar ysglyfaethus eraill yn effeithiol, a’r adar a ddefnyddir gan amlaf yw hebogiaid a gwyddweilch. Serch hynny, gall defnyddio adar ysglyfaethus fod yn ddrud a chymryd llawer o amser, ond mae’n gwaredu adar pla’n sydyn iawn dros ardaloedd mawr iawn a allai fod yn anhygyrch, ond mae’n rhaid gwneud hyn yn rheolaidd.

 

Nid oes un strategaeth liniaru a fydd yn addas ar gyfer pob fferm ac ychydig iawn o ddatblygiadau technolegol sydd wedi bod yn y maes. Yn bendant, gellir defnyddio systemau’n seiliedig ar synwyryddion, ond nid yw’r rhain yn benodol a byddant yn cael eu sbarduno gan unrhyw symudiad. Byddai hyd yn oed synwyryddion batri angen eu gwefru a gallant fod mewn perygl o gael eu difrodi wrth gael eu gosod yn y storfa o fewn cyrraedd da byw. Fel y nodwyd eisoes, gwaith ymchwil i faint gronynnau porthiant yw’r datblygiad diweddaraf a gyhoeddwyd, ac mae’n cynnig strategaeth dymor hir, cost effeithiol er mwyn lleihau ysbeilio gan adar. Dylai cyfuno cydrannau’r TMR sy’n uchel mewn egni o fewn y pelenni hefyd leihau dirywiad maetholion mewn cydrannau penodol o’r bwyd. Yn y dyfodol, gallai adeiladu ar yr ymchwil hwn a chydweithio â chwmnïau porthiant annog datblygiad yr agwedd hon mewn bwydydd sydd ar gael yn fasnachol.

 

Crynodeb

Fel yr amlygwyd yn y llenyddiaeth, mae drudwyod yn bwyta dognau cymysg cyflawn (TMR) sy’n cael ei fwydo i dda byw yn broblem sylweddol, gan achosi colledion amcangyfrifedig o £9.60 fesul buwch, fesul diwrnod. Yn ogystal â cholledion ariannol sylweddol, mae potensial hefyd i adar ledaenu pathogenau rhwng ffermydd fel E. Coli a Salmonela sp. Mae amrywiaeth eang o strategaethau lliniaru yn bodoli ac yn cael eu defnyddio yn y DU gyda llwyddiant cymysg. Dull effeithiol o atal adar rhag bwyta porthiant yw defnyddio pelenni sy'n rhy fawr iddynt eu bwyta. Er mai strategaeth syml yw hon, gall argaeledd ac amrywiaeth y porthiant pelenni mawr fod yn ffactor cyfyngol. Gall arddangosfeydd gweledol, recordiadau clywedol o alwadau gofidus a saethu i godi ofn fod yn effeithiol yn y tymor byr, ond maent yn ymgyfarwyddo’n rhwydd gan wneud y dull yn aneffeithiol. Mae adar ysglyfaethus yn hynod effeithiol, yn enwedig pan fydd y rhywogaeth o adar ysglyfaethus yn cael ei dargedu ar gyfer rhywogaethau pla craidd. Gall adar ysglyfaethus hedfan gwmpasu ardaloedd mawr ac anhygyrch o dir ond gallant fod yn ddrud a chymryd llawer iawn o amser. Ystyrir bod rhwystrau ffisegol yn effeithiol wrth atal yr adar rhag ysbeilio, ac er eu bod yn gostus i'w gosod, byddant yn parhau i fod yn effeithiol os byddant yn cael eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n dda. Gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol, gellid hefyd addasu amseroedd bwydo er mwyn atal adar, ond byddai angen teilwra unrhyw ddull lliniaru i amgylchiadau unigol pob fferm.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth