27 Chwefror 2019

 

Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth

 

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae’r cyfnod ychydig cyn ac ychydig wedi genedigaeth yn heriol iawn i famogiaid o ran cyfanswm yr egni a ddefnyddir.
  • Gall rheoli annigonol yn ystod y cyfnod hwn achosi clefydau difrifol a chostus yn aml iawn.
  • Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae proffilio metabolig yn dod yn fwy cost effeithiol, a gellir defnyddio samplu cyfun i leihau costau profion a chael data manwl ar yr un pryd.

Mae llunio proffil metabolig o anifail yn golygu dadansoddi sampl o waed i werthuso ei swyddogaethau mewnol; yna, gellir dehongli’r canlyniadau i asesu statws iechyd a maeth. Mae mamogiaid yn ystod y “cyfnod pontio”– sef y cyfnod dair wythnos cyn a thair wythnos wedi’r enedigaeth – o ddiddordeb penodol. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i wneud diagnosis o glefydau a’u rhagweld yn y ddiadell ac mewn anifeiliaid unigol.

Fel rhan o’r broses o broffilio metabolig, mae angen tynnu sampl o waed o anifeiliaid. Mae adeg y samplu mewn perthynas â phorthi yn bwysig, oherwydd dylai rheoli porthi fod yn gyson ar draws anifeiliaid i sicrhau canlyniadau cywir sy’n adlewyrchu’r sefyllfa go iawn. Yna, caiff y gwaed ei ddadansoddi i asesu lefel y sylweddau sy’n gysylltiedig ag afiechydon a phroblemau iechyd pwysig.  Mae’r broses proffilio metabolig fodern yn gallu ymdopi â diadelloedd mawr a darparu dadansoddiadau cywir, manwl a chost effeithiol. Mae’n bwysig nodi hefyd y dylai proffil metabolig gael ei gyfuno â gwybodaeth arall yn cynnwys cofnodion ynghylch y ddiadell ac anifeiliaid, cyfleusterau a dognau i sicrhau ei fod yn effeithiol fel adnodd diagnostig.

 

Egwyddorion Biolegol

Mae’r cyfnod pontio yn gam neilltuol o bwysig a bydd metabolaeth y famog yn allweddol, oherwydd gall achosion o aflonyddu ac anghydbwysedd arwain at anhwylderau metabolig (e.e. tocsaemia beichiogrwydd) a chynnydd yn y tebygolrwydd o ddal clefydau heintus (e.e. mastitis).

Ceir galw sylweddol iawn am egni yn ystod y cyfnod pontio, gan y ffoetws sy’n tyfu (yn amrywio o un i bump), y broses o esgor a genedigaeth, ac i gynhyrchu colostrwm a llaeth. Bydd galwadau o’r fath yn aml yn achosi anifeiliaid i fynd i gyflwr o Gydbwysedd Egni Negyddol (NEB) sy’n digwydd pan fydd yr anifail yn defnyddio mwy o egni na chyfanswm yr egni a gaiff. Er bod hyn yn ymateb dros dro arferol, gall achosion difrifol achosi problemau. Bydd y diffyg egni hwn yn tueddu i ddigwydd yn hwyr yng nghyfnod y beichiogrwydd pan fydd cymeriant porthiant yn isel (oherwydd cyfaint groth, sy’n llenwi cyfaint cynyddol abdomen) ond bydd y galw am egni yn uchel. Mae lefelau isel o siwgr yn y gwaed yn gwneud i gronfeydd o fraster corfforol ymddatod, a chaiff hynny ei droi yn egni gan yr afu. Mae cetonau yn un o sgil-gynhyrchion y broses hon. Maent yn bodoli’n naturiol yn y corff, ond gall lefelau uchel achosi problemau iechyd difrifol (h.y.  tocsaemia beichiogrwydd ac asidosis). Bydd rhai o’r brasterau sy’n cael eu rhyddhau yn osgoi’r broses o ymddatod, ac yn lle hynny, cânt eu gadael yn yr afu gan arwain at fraster yn ymdreiddio i’r afu a’r arennau,  sy’n niweidio swyddogaethau’r organau hyn yn sylweddol.

Mae β - hydrocsibwtyrad (BHB) yn un ceton o’r fath, a ddefnyddir yn helaeth mewn profion diagnostig a phroffiliau metabolig. Mae lefelau uchel o BHB yn ddull o ragweld statws egni yn fanwl gywir ac i wneud diagnosis o docsaemia beichiogrwydd. Mamogiaid sydd â mwy nag un ffoetws yw’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o docsaemia, ond nid yw oedran na’r brid yn ddylanwad sylweddol. Mae ffetysau mewn mamogiaid y mae tocsaemia arnynt yn llawer mwy tebygol o farw mewn cymhariaeth â mamogiaid iach, a bydd y mamogiaid hynny yn dangos symptomau clinigol megis anorecsia, gwendid ac iselder, ac os na chaiff y clefyd ei drin, gall arwain at eu marwolaeth.

Mae cysylltiad cryf hefyd rhwng sgoriau cyflwr corfforol (BCS) a statws metabolig a lefelau hormonau (Ffigur 1). Fe wnaeth profion ar famogiaid oedd yn rhy ysgafn ac â sgoriau cyflwr corfforol isel (1.25 a 2) ddatgelu lefelau is o glwcos a lefelau uwch o getonau. Mae lefelau uchel o inswlin ac wrea wedi cael eu canfod mewn mamogiaid gordrwm â sgoriau cyflwr corfforol uchel (4+). Argymhellir y dylid ceisio sicrhau BCS o 2.5-3 i sicrhau lles maethol a metabolig mamogiaid, a gellir cyflawni hynny trwy sgorio rheolaidd a manwl gywir. Bydd hyn yn amrywio yn ôl y brid a cham y famog yn y cylch atgynhyrchu (Tabl 1). Er mwyn cadarnhau a mireinio’r mesuriadau BCS cyntaf, gellir defnyddio proffil metabolig.  Wrth ddewis anifeiliaid unigol ar gyfer profion metabolig, gellir defnyddio BCS i glustnodi anifeiliaid i’w cynnwys yn y grŵp priodol.

 

                          

sgorio cyflwr corfforol 0

 

Cam

Defaid mynydd

Defaid yr ucheldir

Defaid yr iseldir

Diddyfnu

2

2

2.5

Gofyn hwrdd

2.5

3

3

Canol cyfnod y beichiogrwydd

2

2.5

3

Yn hwyr yng nghyfnod y beichiogrwydd

2

2.5

3

Tabl 1: Y sgoriau cyflwr corfforol delfrydol ar gyfer defaid mynydd a defaid yr ucheldir a’r iseldir yn ystod camau amrywiol o’r cylch atgenhedlu.

 

Mae lefelau mwynau yn ddylanwad allweddol yn y broses o gynhyrchu defaid, yn enwedig calsiwm (sy’n ymwneud â chlwy’r llaeth/hypocalsemia) a magnesiwm (sy’n ymwneud â dera’r borfa/hypomagnesemia). Fel arfer, caiff y mwynau hyd eu cydbwyso’n ofalus gan swyddogaethau mewnol yr anifail. Fodd bynnag, mewn achosion o gydbwysedd egni negyddol, bydd y cydbwysedd hwn yn cael ei niweidio. Yn ychwanegol, mewn defaid, ni cheir unrhyw gronfeydd o fagnesiwm yn y corff, a chaiff calsiwm ei ddefnyddio’n gyflym i gynhyrchu llaeth ac i ddatblygu esgyrn y ffoetws, a bydd hynny’n arwain at ddiffygion. Efallai y gall proffil metabolig ragweld diffyg mwynau cyn i symptomau ddod i’r amlwg, sy’n caniatáu i anifeiliaid gael triniaeth brydlon a bydd y perygl o gymhlethdodau yn lleihau. Gall ychwanegu calchfaen, ychwanegion sy’n cynnwys magnesiwm neu hylifau llyfu yn cynnwys calsiwm helpu i atal dera’r borfa a chlwy’r llaeth. Dylid grwpio mamogiaid ar sail nifer yr ŵyn sydd yn y groth yn ogystal â BCS, fel gellir porthi’n briodol.

 

Gwerth a Dehongli

Gall cydbwysedd egni negyddol heb ei ddatrys neu gydbwysedd egni negyddol difrifol yn y famog arwain at gynnydd yn y perygl o glefydau metabolig yn y famog yn ogystal â cholledion o ran cynhyrchiant ac felly o ran elw. Yn yr achosion gwaethaf, gallai hyn gynnwys marwolaeth y famog a’i hepil, ac yn yr achosion lleiaf difrifol, bydd angen llafur ychwanegol a dylid rhoi triniaeth feddygol (rhoi calsiwm yn fewnwythiennol, rhoi dos o lyserol neu sodiwm bicarbonad trwy’r geg ayyb). Heb os, mae trin tocsaemia yn ddrutach na mesurau ataliol megis sgorio cyflwr corfforol mamogiaid yn rheolaidd, darparu’r maeth priodol a thrin unrhyw broblemau iechyd yn brydlon.

Mae dau brif reswm dros lunio proffiliau metabolig o dda byw; fel dull o wneud diagnosis o glefyd penodol neu i ragweld anhwylderau. Yn y bôn, dyma’r gwahaniaeth rhwng samplu poblogaeth fechan o anifeiliaid sydd wedi’i heffeithio i wneud diagnosis o glefyd ar y naill law, ac ar y llaw arall, casglu samplau o unigolion “normal” i ganfod y risg o glefydau a statws y maetholion.

Gall defnyddio samplu “cyfun” helpu hefyd i sicrhau fod y broses yn fwy cost effeithiol, ac mae’n ddull defnyddiol p sgrinio am y posibilrwydd o glefyd yn y ddiadell. Mae’r nifer ddelfrydol o samplau yn amrywio rhwng 8 a 12, yn dibynnu ar faint y ddiadell.

Fe wnaiff milfeddyg cymwysedig dynnu’r sampl o waed, ac fe wnaiff unrhyw waith prosesu sy’n ofynnol cyn anfon y samplau i’w proffilio. Mae’n hanfodol fod y ffermwr yn cydweithio’n agos â’i filfeddyg i elwa’n llawn o broffiliau metabolig. Fe wnaiff y milfeddyg sicrhau y caiff y canlyniadau eu dehongli’n fanwl gywir, a gall hynny helpu i sefydlu cynllun iechyd ar gyfer y ddiadell, i sicrhau lefelau maeth ac iechyd delfrydol ar gyfer mamogiaid ac ŵyn.

 

Crynodeb

Yn y gorffennol, mae cost a dehongli proffiliau metabolig wedi bod yn ffactor sy’n cyfyngu, ond wrth i dechnolegau ddatblygu, mae hi bellach yn fwy dichonadwy o safbwynt economaidd i broffilio’r ddiadell. Gall proffilio metabolig ynghyd â sgorio cyflwr corfforol rheolaidd ddarparu gwybodaeth dra-chywir ynghylch y risg o glefydau yn y ddiadell. Pan gaiff proffil metabolig ei wneud ar yr adeg briodol, gall ddarparu gwybodaeth hanfodol i helpu’r ffermwr i wneud y defnydd gorau o faeth, ac yn sgil hynny, lleihau gwastraff, sicrhau’r cynhyrchu gorau ac osgoi biliau costus gan filfeddygon neu golli stoc. Yna, gall hyn well proffidioldeb yn ogystal ag iechyd a lles y ddiadell. 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth