27 Chwefror 2019

 

Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Mae methan (CH4) yn nwy tŷ gwydr adnabyddus â photensial i achosi cynhesu byd-eang sydd 28 gwaith yn fwy na photensial charbon deuocsid (CO2). Mae’r sector amaethyddol yn cyfrannu’n sylweddol at gynhyrchu CH4 anthropogenig (wedi’i gynhyrchu gan bobl), er bod yr amcangyfrifon yn amrywio yn dibynnu ar y dull o gyfrifo. Yn ôl y consensws, mae’r diwydiant amaethyddol yn cyfrannu rhywbeth rhwng 7 a 18% o gyfanswm y nwyon tŷ gwydr anthropogenig a thua 6% o gyfanswm allyriadau CH4. Mae dadelfennu deunydd planhigion yn y rwmen (eplesu enterig) yn cynhyrchu oddeutu 87% o gyfanswm y CH4 a gynhyrchir gan amaethyddiaeth. Mae’r CH4 hwn a gynhyrchir gan eplesu enterig hefyd yn golygu fod yr anifail yn colli egni (hyd at 12%) a allai gael ei ddefnyddio fel arall i dyfu neu gynhyrchu llaeth. Felly, yn ogystal â bod yn rhywbeth allweddol er lles yr amgylchedd ac i liniaru’r newid yn yr hinsawdd, mae lleihau allyriadau CH4 hefyd yn allweddol i sicrhau fod da byw sy’n cnoi cil yn gallu cynhyrchu yn fwy effeithiol. Nid anifeiliaid cnoi cil yw’r unig gynhyrchwyr CH4 ar y fferm, ac mae tail/gwastraff, cerbydau a pheiriannau amaethyddol a chynhyrchu porthiant i anifeiliaid hefyd yn cyfrannu (Ffigwr 1).

 

  • Mae’r newid yn yr hinsawdd yn dal y broblem allweddol ar y lefel byd-eang, ac mae’n hysbys iawn fod y nwyon tŷ gwydr toreithiog a gynhyrchir gan y ddynoliaeth yn ffactor sy’n cyfrannu at hyn. Mae methan yn nwy tŷ gwydr â photensial i achosi cynhesu byd-eang sydd 28 gwaith yn fwy na photensial CO2.
  • Mae’r sector amaethyddol yn cyfrannu’n sylweddol at y CH4 a gynhyrchir, yn enwedig yn sgil yr eplesu a wneir gan anifeiliaid cnoi cil (gwartheg, defaid, geifr ac ati).
  • Mae strategaethau lliniaru sy’n targedu’r rwmen yn ffynhonnell o ymchwil wyddonol ddynamig a gwreiddiol, ond ychydig iawn o’r strategaethau presennol sy’n wastad yn effeithiol neu’n addas i’w defnyddio’n fasnachol.

     

methane cymraeg

     

Sut a pham gaiff methan ei gynhyrchu?

Daw’r enw ‘anifeiliaid cnoi cil’ yn sgil y system dreulio unigryw sydd gan yr anifeiliaid hyn, sy’n cynnwys pedair siambr: y reticwlwm, y rwmen, yr omaswm a’r abomaswm. Y rwmen yw testun ein sylw yn yr achos hwn, oherwydd mae’n cynnwys poblogaeth amrywiol a gweithgar o ficro-organebau sy’n caniatáu i’r anifail ddadelfennu deunydd planhigion gwydn a’i droi'n faetholion o safon uchel  Mae’r boblogaeth o ficrobau yn y rwmen yn cynnwys bacteria, ffyngau, protosoa, firysau ac archeae, sy’n gweithio’n symbiotaidd i ddarparu maetholion iddynt hwy eu hunain ac i’r anifail. Mae’r rwmen wedi bod yn destun arwyddocaol ym maes ymchwil gwyddonol dros y blynyddoedd, yn cynnig cyfansoddion gwrthfiotig ac ensymau amgen sydd wedi gwella effeithlonrwydd amrywiaeth o brosesau diwydiannol. Mae ymchwil wedi cael ei gynnal i archwilio effeithiau dylanwadu ar y boblogaeth o ficrobau o ran cynhyrchu, effeithlonrwydd porthiant, ansawdd cig a llaeth, ac wrth gwrs, allyriadau CH4. Bydd nifer o brosesau treulio yn y rwmen yn cynhyrchu CH4 (ymhlith nwyon eraill), a chânt eu gollwng trwy dorri gwynt neu trwy’r anws (Darlun 2). Mae methan yn un o sgil-gynhyrchion prosesau hanfodol sy’n darparu maetholion sy’n rhoi protein ac egni i’r anifail (e.e. asidau brasterog byr) (Darlun 2). Mae’r prosesau sy’n cynhyrchu CH4 yn y rwmen yn hynod o gymhleth ac maent yn dibynnu ar ficrobau a elwir yn archaea sy’n troi CO2 a Hydrogen (H2) yn CH4. Mae archaea yn ficro-organebau ungellog hynafol sy’n wahanol iawn i ficrobau eraill fel bacteria a ffyngau. Is-grŵp o archaea a elwir yn fethanogenau sy’n gyfrifol am fwyafrif helaeth y CH4 a gynhyrchir yn y rwmen, ac maent ar gyfartaledd yn cyfrif am 78% o’r holl boblogaeth o archaea yn y rwmen. Wrth ddadansoddi helaethrwydd a strwythur cymunedau methanogenau yn y rwmen, mae ymchwil wedi canfod nad cyfanswm cyffredinol y methanogenau sy’n pennu faint o CH4 a gaiff ei gynhyrchu. Yn lle hynny, mae strwythur y gymuned microbau a phresenoldeb neu ddiffyg gwahanol rywogaethau yn dylanwadau mwy o lawer. Ar y sail hon, mae tri math gwahanol ('rwminoteipiau') wedi cael eu canfod, sy’n pennu faint o CH4 a gynhyrchir gan yr anifail: mae mathau Q ac S yn cynhyrchu llai o CH4 na math H. Mae astudiaethau ychwanegol gan Difford ac eraill  (2018) hefyd yn awgrymu cydberthyniad cryf rhwng geneteg anifeiliaid ac allyriadau CH4, sy’n golygu fod dethol ar sail geneteg yn strategaeth addawol i fridio poblogaeth newydd o fuchod sy’n allyrru llai o fethan.

                 

methane 2

Ffigwr 2: Diagram o ffynonellau methan o anifeiliaid cnoi cil.

 

 

Lliniaru allyriadau methan o anifeiliaid cnoi cil

Mae amrywiaeth eang o strategaethau arbrofol i liniaru CH4 wedi cael eu cynnig, yn cynnwys bridio detholus i sicrhau anifeiliaid sy’n cynhyrchu llai o fethan, brechlynnau, newidiadau mewn arferion rheoli stoc, ychwanegion at borthiant a thechnegau eraill sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ficrobïom y rwmen. Mae’r mwyafrif helaeth o ymyriadau yn dal yn arbrofol, ac nid yw’r mwyafrif o’r dulliau wedi cael eu defnyddio mewn arbrofion ag anfeiliaid eto. Serch hynny, mae strategaeth o’r fath yn cynnig cysyniadau pwysig a gwreiddiol, ac heb os, byddant yn cael eu gweithredu yn y dyfodol a rhoddir sylw iddynt mewn erthygl ddilynol.


Newidiadau mewn dwysfwydydd a phorthiant

Canfuwyd fod y gyfran o ddwysfwydydd yn neiet anifeiliaid cnoi cil yn dylanwadu’n uniongyrchol ar allyriadau CH4. Bydd lleihau cyfradd y dwysfwydydd a chynyddu cyfradd y cnydau porthi a roddir i anifail cnoi cil yn golygu cynyddu cyfanswm y CH4 a gynhyrchir. Bydd dwysfwydydd sy’n seiliedig ar starts yn benodol yn  lleihau cyfanswm y CH4 a gynhyrchir oherwydd caiff llai o asetad a mwy o bropionad eu cynhyrchu, sy’n cyfyngu ar y cyflenwad o hydrogen sydd ar gael i’w droi’n CH4 (Ffigwr 2). Mae’r bwydydd hyn hefyd yn gwneud i pH y rwmen ostwng i lefelau sydd ychydig yn asidaidd (oherwydd lefelau uwch o bropionad sy’n asidaidd ei natur), a bydd hynny’n lleihau gweithgarwch y microbau sy’n cynhyrchu CH4. Gwelwyd hefyd fod dwysfwydydd sy’n seiliedig ar ffibr yn lleihau cyfanswm y CH4 a allyrir pan fwydir hwy i anifeiliaid ar borfa; canfu un astudiaeth fod 16-19g yn llai o CH4 yn cael ei gynhyrchu fesul cilogram o laeth. Fodd bynnag, nid yw bwydo lefelau uwch o ddwysfwydydd yn ddewis sy’n ddichonol yn economaidd i lawer o ffermwyr, a gall arwain at broblemau iechyd megis asidosis. Mae ffibr yn elfen hanfodol o ddeiet anifeiliaid cnoi cil a dylai fod yn 20-30% o gyfanswm eu cymeriant, felly dylid bod yn ofalus iawn wrth newid cymarebau dwysfwydydd: cnydau porthi.

Mae mathau o gnydau porthi a’u hansawdd hefyd wedi cael eu hastudio i ganfod eu heffeithiau ar allyriadau CH4. Fe wnaeth bwydo cnwd porthi oedd yn llai aeddfed neu wedi’i brosesu rhagor (oedd yn golygu ei fod yn fwy treuliadwy)  arwain at leihad o 15-20% yn y senarios a gafodd eu modelu. Gwyddys fod cnydau porthi sy’n seiliedig ar godlysiau yn lleihau allyriadau CH4 oherwydd presenoldeb taninau sy’n digwydd yn naturiol. Me taninau yn wenwynig i rai microorganebau yn y rwmen, yn enwedig methanogenau, sy’n lleihau gallu’r boblogaeth o ficrobau yn y rwmen i gynhyrchu CH4. Bydd cnydau porthi codlysol yn symud yn gyflymach o’r rwmen, oherwydd strwythur llai ffibrog y planhigion sy’n golygu eu bod yn haws i’w treulio ac yn cyfyngu ar y hyd y cyfnod y gall methanogenau fach ua threulio, gan greu CH4. Profwyd hefyd fod cnydau porthi codlysog yn cynyddu cyfanswm y llaeth a gynhyrchir, ac maent yn darparu ffynhonnell wych o borthiant yn achos rhai mathau o gnydau porthi, megis Ffawlys a Phys Ceirw, ac mae hynny’n helpu i atal ymchwyddo. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio unrhyw ddull sy’n dylanwadu ar ficrobïom y rwmen, oherwydd mae astudiaethau wedi canfod gostyngiad cyffredinol mewn treuliadwyedd oherwydd y lleihad yng nghyfanswm y microbau sy’n rhan o’r broses o gynhyrchu CH4 a dadelfennu planhigion. Yn ychwanegol, gwyddys fod nifer o rywogaethau codlysiau yn achosi ymchwyddo (maglys ac amrywiaeth helaeth o feillion) pan roddir cyfraddau sylweddol ohonynt i anifeiliaid cnoi cil.

 

Ychwanegu lipidau

Mae tystiolaeth dda yn bodoli i gadarnhau lleihad mewn allyriadau CH4 wrth borthi lipidau ychwanegol, a chaiff 25% yn llai o CH4 enterig ei gynhyrchu. Mae ychwanegu lipidau i’r deiet yn gweithio trwy leihau eplesu deunydd organig a thrwy wenwyndra i fethanogenau yn y rwmen. Gall asidau brasterog annirlawn (h.y. y rhai sydd heb eu dirlenwi â hydrogen) yn benodol weithredu fel storfa hydrogen, oherwydd caiff yr asidau brasterog eu hydrogenu’n flaenoriaethol gan adael ychydig iawn o hydrogen i’w droi yn CH(Darlun 2). Fodd bynnag, argymhellir na ddylai braster fod yn fwy na 7% o ddeiet anifeiliaid cnoi cil, neu gall cymeriant deunydd sych (DMI) leihau gan arwain at leihau cymeriant ffibr a threuliadwyedd gwael. Mae effeithiolrwydd ychwanegu lipidau yn dibynnu ar nifer o ffactorau: faint a ychwanegir, ffynhonnell y braster, proffil y braster a’r deiet yn gyffredinol. Cafwyd rhai o’r canlyniadau mwyaf addawol wrth ddefnyddio olew cnau coco (gostyngiad o 63% mewn CH4 pan ychwanegwyd 7% o olew) ac olew palmwydd (gostyngiad o 58% mewn CH4 pan ychwanegwyd 5%). 

Mae bwydo olewau puredig fel dull o liniaru methan yn anhebygol o fod yn ddichonol o safbwynt masnachol oherwydd cost uchel ychwanegu’r olewau hyn. O’r herwydd, mae hadau olew a brasterau anifeiliaid hefyd wedi cael eu hastudio; er nad yw’r brasterau hyn yn cynhyrchu canlyniadau i’r un graddau, nid ydynt yn lleihau DMI a threuliadwyedd i’r fath raddau. Yn achos buchod godro, gall lefelau uchel o fraster ychwanegol leihau canran y braster mewn llaeth a newid proffil yr asidau brasterog. Gallai’r canlyniad fod yn ffafriol neu’n anffafriol. Felly, dylid bod yn ofalus iawn wrth ddewis y ffynhonnell briodol o fraster a faint ohono a ychwanegir.

 

Bwydo Probiotigau

Mae ychwanegion microbaidd i’w hychwanegu at borthiant wedi cael eu datblygu i ddylanwadu’n uniongyrchol ar y boblogaeth o ficrobau yn y rwmen ac i wella eplesu. Y probiotigau a ddefnyddir yn fwyaf helaeth yw burum ac Aspergillus oryzae, er na wyddys beth yn union yw eu dull o weithredu. Damcaniaethir fod yr ychwanegion hyn yn gweithio yn unol ag un neu ragor o’r dulliau canlynol:

  1. Cynyddu lefelau bwtyrad a phropionad a lleihau’r gyfradd o asetad, ac felly lleihau’r rhagsylweddion sy’n ofynnol i gynhyrchu CH4 (Ffigwr 2).
  2. Lleihau nifer y methanogenau a’r microbau cysylltiedig.
  3. Cynyddu dadelfennu’r asetad fel bydd llai ohono ar gael i gynhyrchu CH4 (Ffigwr 2).
  4. Gwella cynhyrchiant anifeiliaid.


Fodd bynnag, mae canlyniadau anghyson wedi cael eu harsylwi; yn ôl rhai astudiaethau, ni chafwyd gwahaniaethau arwyddocaol yng nghyfanswm y CH4 a gynhyrchwyd, ac yn ôl astudiaethau eraill, cafwyd gostyngiadau o hyd at 8%. Yn ychwanegol, mae’n rhaid porthi probiotigau yn feunyddiol, felly nid ydynt yn addas i bob system ffermio, ac yn yr achos hwn, gall y defnydd o’r rhain fod yn fwyaf priodol mewn systemau cynhyrchu llaeth a bîff dwys.

 

Crynodeb

Mae brwydro’r newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod ar frig agenda Cyngor y Cenhedloedd Unedig, ac mae’r angen i leihau allyriadau o nwyon tŷ gwydr anthropogenig yn eglur. Mae methan yn nwy tŷ gwydr cryf iawn, ac mae ei botensial i achosi cynhesu byd eang 28 gwaith yn fwy na photensial CO2. Yr unig nwy sy’n fwy niweidiol o ran ei botensial i achosi cynhesu byd eang yw NO2, ond ceir llai ohono.  Os ydym ni’n dymuno lleihau effaith y trychineb tymor hir hwn, mae’n rhaid i’r gymdeithas fyd-eang gydweithredu i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr. Nid yw’r sector amaethyddol yn eithriad; mae’n cyfrannu oddeutu 6% o’r holl allyriadau o CH4 anthropogenig, felly mae lle i wella heb os nac oni bai. Mae nifer o ddulliau lliniaru yn bodoli, ac mae’r awydd i ddatblygu strategaethau newydd a chadarn wedi sbarduno ymchwil gwyddonol. Yn yr erthygl hon, trafodir rhai o’r dulliau lliniaru mwy adnabyddus a mwy sefydliedig. Fodd bynnag, mae’r technegau hyn ymhell o fod yn foddhaol. Canlyniadau anghyson, effeithiau niweidiol ar yr anifail a’r ffaith eu bod yn anaddas i systemau ffermio penodol yw’r pryderon pennaf. Felly, mae bellach yn bryd i ni gyflymu ymchwil a datblygu hynny yn strategaethau lliniaru gwreiddiol, gan ddefnyddio’r technolegau biolegol arloesol newydd sydd ar flaenau ein bysedd.

 

                  

methane 3

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Phytoremediation: The Role of Plants to Purify Agricultural Wastewaters
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub, Aberystwyth University. April
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023