Negeseuon i’w cofio:

  • Mae asidau brasterog omega 3 yn gysylltiedig â llawer o fuddion iechyd i ddefnyddwyr
  • Gall lefelau omega 3 mewn llaeth gael eu dylanwadu gan ddeiet y fuwch, megis cynyddu cyfanswm y porthiant ffres a fwyteir
  • Mae’r galw gan ddefnyddwyr am gynnyrch llaeth organig a bwydydd iachach yn golygu y gall ffermwyr sicrhau elw ychwanegol trwy gynyddu’r lefelau o borthiant ffres yn y system cynhyrchu.

Crynodiadau asid brasterog omega 3 mewn llaeth
Mae asidau brasterog omega 3 yn cael eu cysylltu â llawer o fuddion iechyd i ddefnyddwyr,
megis lleihau nifer yr achosion o glefyd cardiofasgwlar (CVD) a gweithredu niwrolegol gwell.
Mae llaeth yn cynnwys dros 400 o asidau brasterog gwahanol, ac yn benodol, mae omega 3
a 6 yn asidau brasterog hanfodol na chaiff eu cynhyrchu yn y corff dynol, felly mae’n rhaid
eu cynnwys yn y deiet. Yn aml iawn, ceir lefelau uchel o omega 6 mewn deietau yn y
gorllewin, a gall hynny arwain at gynyddu’r risg o CVD, canser a chlefydau llidiol. Mae’r
gyfradd a argymhellir o omega 6 ac omega 3 yn oddeutu 1-4:1, ond gall y gyfradd fod yn fwy
na 10:1 mewn rhai deietau yn y byd gorllewinol. Fodd bynnag, gall cyfraddau is fod yn
bresennol yn llaeth gwartheg a fwydir â phorfa. Mae cyfansoddiad proffiliau asidau
brasterog mewn llaeth yn dibynnu ar yr asidau brasterog a gaiff yr anifail a’r broses
biohydrogeniad sy’n digwydd yn y rwmen. Felly mae amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio
ar y proffil asidau brasterog, megis brîd, tymor, lleoliad a phorthiant. Gall cyfansoddiad
omega 3 llaeth gael ei ddylanwadu gan ddeiet y fuwch, felly mae’r mathau o blanhigion sy’n
rhan o’r borfa yn bwysig. Mae rheoli porfa hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at
gyfansoddiad asidau brasterog porthiant, ac mae planhigion iau yn cynnwys lefelau uwch o
asidau brasterog na phlanhigion hŷn. Mae’r tymor hefyd yn dylanwadu ar gyfansoddiad
asidau brasterog llaeth, a bydd yn cynyddu yn y planhigyn ar ddechrau’r gwanwyn ac yn yr
hydref.

 

Cynyddu lefelau omega 3 mewn llaeth
Mae asidau brasterog omega 3 yn asidau brasterog amlannirlawn, ac mae tri phrif fath, sef
ALA (asid alffa-linolenig), DHA (asid docosahecsaenoig) ac EPA (asid eicoasapentaenoig).
Mae ALA yn asid brasterog hanfodol, ac mae angen ei gynnwys yn y deiet oherwydd ni all y
corff ei gynhyrchu. Gall y corff gynhyrchu DHA ac EPA o ALA. Gall newid asidau brasterog
dirlawn (SFA) yn neiet pobl am PUFA leihau nifer yr achosion o glefydau a chyfraddau
marwoldeb. Felly, gall lleihau lefelau SFA a chynyddu’r crynodiad o PUFA mewn llaeth roi
hwb i fuddion iechyd llaeth a chynnyrch llaeth. I gynyddu cyfanswm yr omega 3 a gaiff pobl,
mae cryfhau cyfanswm omega 3 mewn bwydydd a fwyteir yn gyffredin yn cynyddu. Gellir
cryfhau llaeth ag omega 3 sy’n seiliedig ar blanhigion. Fodd bynnag, gall cryfhau deiet y
fuwch ei hun ddylanwadu ar lefel yr omega 3 mewn llaeth.


Mae maeth y fuwch yn ffordd naturiol ac economaidd i ffermwyr addasu cyfansoddiad
asidau brasterog llaeth. Fodd bynnag, mae’r gyfran o laswellt yn neietau gwartheg wedi
gostwng yn ystod blynyddoedd diweddar, a chafwyd cynnydd mewn bwydydd ategol ar ffurf
grawn neu ddwysfwydydd ar ffurf pelenni i gynyddu cyfanswm y llaeth a gynhyrchir. Gellir
dadlau fod pori yn system fwy cynaliadwy na bwydo anifeiliaid dan do, ond mae hyn yn
dibynnu ar y fferm a maint y fuches. Mae llawer o ymchwil wedi dangos fod gan laeth
anifeiliaid sy’n pori lefelau uwch o PUFA na llaeth anifeiliaid a gedwir dan do, er y gall
ychwanegu bwydydd megis hadau olew neu algâu at fwyd anifeiliaid a gedwir dan do hefyd
gynyddu’r cyfanswm o PUFA mewn llaeth. Mae grawn yn cynnwys cyfoeth o asid linoleig ac
oleig, ac mae oddeutu 50-70% o’r asid brasterog sydd mewn glaswellt ffres yn ALA. Fodd
bynnag, mae astudiaethau wedi dangos y bydd unrhyw brosesau a wneir i’r planhigion (e.e.
cynhyrchu silwair) yn lleihau faint o ALA sydd yn y porthiant, felly bydd hynny’n effeithio ar y
crynodiad o ALA mewn llaeth.


Mae’r mathau o blanhigion sy’n rhan o’r borfa yn bwysig, ac mae astudiaethau wedi dangos
fod porfeydd mwy amrywiol yn cynhyrchu crynodiadau uwch o PUFA mewn llaeth, trwy atal
neu addasu biohydrogeniad yn y rwmen. Profwyd fod gan feillion grynodiad uwch o ALA na
rhygwellt, ac mae gan feillion coch grynodiad uwch o ALA na meillion gwyn. Gellir sicrhau
lefelau uwch o asidau brasterog omega 3 mewn llaeth organig ardystiedig, oherwydd mae
llawer o ffermydd llaeth organig yn pori eu hanifeiliaid ar feillion. Mewn astudiaeth a
gynhaliwyd gan Ellis et al, (2006), fe wnaethant geisio pennu gwahaniaeth rhwng crynodiad
FA llaeth swmp-danciau o ffermydd organig a chonfensiynol yn y DU, ac ystyriwyd effeithiau

maethol a thymhorol hefyd. Roedd y canlyniadau’n ategu’r ddamcaniaeth fod gan laeth
organig lefel uwch o omega 3 na llaeth confensiynol. Fe wnaeth eu canlyniadau ddangos
fod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar gynnwys FA llaeth, yn cynnwys cynnydd mewn omega
3 yn ystod misoedd yr haf a mwy o omega 3 mewn buchesi o fridiau cymysg, sydd hefyd yn
gysylltiedig â gwahaniaethau mewn proffiliau FA. Yng Nghymru, fe wnaeth astudiaeth
ymchwilio i’r gwahaniaeth yng nghyfanswm yr omega 3 o system dwysedd uchel
gonfensiynol (CH) a system dwysedd canolig organig (OM) a system dwysedd isel
gonfensiynol yn seiliedig ar system gynhyrchu Seland Newydd (CL). Fel y disgwylid, cafwyd y
cyfansymiau mwyaf o omega 3 o’r system OM, a phriodolwyd hynny’n i’r lefel uwch o
feillion yn neiet yr anifeiliaid. Mae’r astudiaethau hyn yn dangos fod dewis systemau
cynhyrchu llaeth sy’n seiliedig ar borfa yn sicrhau cynnydd ym muddion iechyd omega 3
mewn llaeth, ac yn lleihau lefelau diangen o SFA ar yr un pryd.

 

Y potensial i wella proffidioldeb y fferm
Heb os, yn ystod blynyddoedd diweddar, gwelwyd diddordeb cynyddol mewn gwella
buddion iechyd llaeth trwy leihau’r defnydd o borthiant grawn a dwysfwyd a chynyddu’r
defnydd o ddognau sy’n cynnwys porthiant ffres, megis llaeth a chodlysiau. Mae’r galw gan
ddefnyddwyr am gynnyrch llaeth organig a bwydydd iachach yn golygu y gall ffermwyr
sicrhau elw ychwanegol trwy gynyddu’r lefelau o borthiant ffres yn y system cynhyrchu. Er
enghraifft, fe wnaeth prosiect Llaeth Piedmont Noble yn yr Eidal ddangos y gellir
gwahaniaethu cynnyrch ffermydd a hybu model cynhyrchu llaeth yfed newydd. Roedd
pedair fferm laeth yn rhan o’r prosiect, a chafodd gwartheg eu bwydo â phorthiant ffres yn
unig yn ystod yr haf. Gwelwyd y crynodiadau uchaf o FA omega 3 yn llaeth Piedmont Noble,
yn cynnwys cymarebau ffafriol o omega 6 ac omega 3 o’i gymharu â llaeth masnachol. Pan
ofynnwyd i ddefnyddwyr ei brofi, gallai 88% o’r profwyr adnabod llaeth Noble, ac ystyrid ei
fod yn fwy ffres ac â mwy o flas, a bod y blas yn ddwysach ac yn para mwy. Awgrymwyd
hefyd y gallai ffermydd eraill a reolir yn ddwys ddefnyddio’r model a ddefnyddir ar gyfer
Llaeth Piedmont Noble. Felly, gall llaeth gwell a gaiff ei greu trwy newid deiet gwartheg fel i
fod yn cynnwys rhagor o borthiant ffres fod yn strategaeth farchnata amgen i hybu deiet
iachach i ddefnyddwyr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr