Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University.
Mawrth 2024
Mae tail sych wedi’i ailgylchu (RMS) a elwir hefyd yn dail sych wedi’i wahanu, solidau gwastraff o’r diwydiant llaeth neu sarn gwyrdd, yn fath amgen o ddeunydd gorwedd i wartheg llaeth.
Yn y DU a Chymru, mae defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu wedi’i gyfyngu i wartheg llaeth yn unig, ac yn destun i amodau fel yr amlinellir gan y Llywodraeth. Yn ogystal, mae cynlluniau sicrwydd fferm yn debygol o gael eu meini prawf eu hunain o ran ei ddefnydd.
Gallai tail sych wedi’i ailgylchu fod yn ddeunydd gorwedd addas ar gyfer gwartheg llaeth gan nad yw’n cynnwys llawer o lwch a’i fod yn hybu cysur y fuwch. Fodd bynnag, ceir heriau’n gysylltiedig â sicrhau deunydd sych digonol yn gyson ac o ran effaith baich pathogenau posibl ar iechyd gwartheg.
Cyflwyniad
Mae deunydd gorwedd yn elfen bwysig o hwsmonaeth anifeiliaid, lle caiff ei ddefnyddio i gadw amgylcheddau’n lân ac yn sych, yn ogystal â darparu cysur. Fodd bynnag, gall deunyddiau gorwedd fod yn gostus, yn amodol ar argaeledd, ac yn destun amrywiadau sylweddol mewn pris. Felly, mae deunydd gorwedd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o gostau ar ffermydd. Nid yw’n syndod felly bod gwaith ymchwil yn cael ei wneud i edrych ar wahanol fathau o ddeunydd gorwedd y gellir eu defnyddio ar ffermydd. O fewn systemau llaeth, mae deunydd gorwedd fel arfer yn cynnwys deunydd organig (gwellt, naddion coed neu gynhyrchion papur), neu ddeunydd anorganig (tywod, calch a gypswm). Mae tail sych wedi'i ailgylchu (RMS) a elwir hefyd yn dail sych wedi’i wahanu, solidau gwastraff o’r diwydiant llaeth neu sarn gwyrdd, yn fath amgen o ddeunydd gorwedd yn hytrach na deunyddiau confensiynol. Mae’r math hwn o ddeunydd gorwedd yn gwneud defnydd o’r deunydd organig solid (ffibr heb ei dreulio) mewn slyri, ac felly gellir ei ystyried yn ddewis amgen cynaliadwy yn hytrach na dulliau confensiynol penodol.
Sut y caiff tail sych wedi’i ailgylchu ei gynhyrchu?
Mae cynhyrchu tail sych wedi’i ailgylchu yn golygu gwahanu ffracsiynau hylif a solid o fewn y slyri. Yn ei hanfod, mae slyri yn cael ei waredu o siediau, a gan ddefnyddio dulliau disgyrchol neu beirianyddol, mae cydrannau hylifol a solid o fewn y slyri yn cael eu gwahanu. Mae technegau disgyrchol yn dibynnu ar lif naturiol y slyri drwy waliau tryddiferu neu drwy ardaloedd gwahanu mewnol o fewn storfeydd slyri dros gyfnodau hir. Mae technegau peirianyddol yn defnyddio offer arbenigol megis peiriant sgriw, gwasgu gyda rholiwr, dirgrynu, hidlo, rhidyllu ac arllwyswyr allgyrchu i wahanu’r ffracsiwn solid a hylif, ac yn llawer cynt o’i gymharu â dulliau eraill. Ceir rhagor o wybodaeth ar dechnolegau gwahanu slyri mewn erthygl dechnegol flaenorol ar reoli slyri. Yn y llenyddiaeth, gwelwyd bod tail yn cael ei gompostio neu ei dreulio’n anaerobig mewn rhai gwledydd cyn ei ddefnyddio fel deunydd gorwedd, fodd bynnag, ni chaniateir hyn yn y DU nac yng Nghymru.
Tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd yn y DU
Yn y DU a Chymru, mae tail a slyri da byw yn cael ei ystyried yn sgil-gynnyrch anifeiliaid categori dau, felly ceir rheolau a rheoliadau’n ymwneud â’i drin, ei brosesu a’i ddefnyddio. Mae defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd yn y DU wedi’i gyfyngu i wartheg llaeth yn unig ar hyn o bryd, ac mae’n destun i’r amodau a amlinellir yn y ddogfen hon: “AB143 Conditions of Use in Relation to the Use of Recycled Manure Solids as Bedding for Dairy Cattle”. Yn ogystal, mae gan gynlluniau sicrwydd fferm megis tractor coch eu rheoliadau eu hunain o ran defnydd. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dogfen ganllaw defnyddio-tail-sych-wedii-ailgylchu-fel-deunydd-gorwedd-gwartheg-amodau-ddefnyddio.pdf (llyw.cymru) sy’n amlinellu amodau defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu o fewn systemau llaeth yng Nghymru. Gellir gweld yr amodau hyn yn Nhabl 1.
Manteision cynhyrchu tail sych wedi’i ailgylchu ar y fferm
Ceir nifer o fanteision i gynhyrchu tail sych wedi’i ailgylchu ar y fferm. Yn gyntaf oll, mae tail a slyri bob amser ar gael ac yn cael ei gyflenwi’n barhaus. Mae hyn yn golygu y byddai modd cynhyrchu deunydd gorwedd ar y safle gan alluogi ffermydd i fod yn fwy hunangynhaliol. At hynny, gallai’r ffaith bod mwy o gyflenwad o ddeunydd gorwedd olygu bod modd defnyddio mwy ohono mewn siediau a allai effeithio’n gadarnhaol ar gysur gwartheg. Yn ail, adroddir bod tail sych wedi’i ailgylchu’n cynnwys llai o lwch o’i gymharu â deunyddiau gorwedd organig ac anorganig confensiynol penodol, sydd o fudd i iechyd resbiradol gwartheg a phobl. Yn drydydd, mae gwahanu rhannau solid a hylifol y slyri yn cynnig mantais o safbwynt gwneud slyri'n haws i'w reoli drwy leihau faint sydd angen cael ei storio, sydd hefyd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Yn olaf, gallai defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd weddu gydag economi gylchol. Mewn systemau o’r fath, gellir defnyddio’r deunydd organig solid mewn slyri fel deunydd gorwedd i anifeiliaid, a gellir defnyddio’r hylif sy’n weddill fel gwrtaith hylifol o ganlyniad i’r cydrannau toddadwy mae’n ei gynnwys megis nitrogen, potasiwm, ffosfforws a deunydd organig mewndarddol. Neu, ceir potensial y gallai’r gydran hylifol gael ei buro gan ddefnyddio technolegau gwyrdd megis ffyto-adferiad, gan gynnig potensial i ryddhau’r dŵr yn ddiogel i’r amgylchedd neu ei ail-ddefnyddio mewn systemau. Ceir rhagor o fanylion am ffyto-adferiad drwy glicio ar y ddolen i’r erthygl dechnegol.
Tail sych wedi’i ailgylchu a chysur y fuwch
Mae lles anifeiliaid o fewn systemau cynhyrchu da byw yn hanfodol. Mae’n bwysig bod anifeiliaid yn gallu mynegi ymddygiadau naturiol a’u bod yn gyfforddus yn yr amgylcheddau lle maen nhw’n byw. Un nodwedd ymddygiadol bwysig ymysg gwartheg llaeth yw’r amser maen nhw’n ei dreulio yn gorwedd, gan fod gorwedd yn rhoi cyfle i wartheg orffwys, cysgu a chnoi cil. Roedd papur adolygu yn dod i’r casgliad bod gwartheg llaeth yn treulio 10-12 awr y dydd ar gyfartaledd yn gorwedd, lle mae gwartheg fel arfer yn gorwedd am oddeutu 9-11 cyfnod o 60-99 munud. At hynny, mae gorwedd yn galluogi’r coesau a’u traed i orffwys, gan fod sefyll am gyfnodau hir wedi cael ei nodi fel risg posibl ar gyfer cloffni. Yn yr un modd, gall gorwedd fod yn bwysig ar gyfer cynhyrchiant, lle bu un astudiaeth ar raddfa fach a oedd yn edrych ar un fuwch sych ac un fuwch sy’n llaetha yn dangos llif gwaed i’r gadair 24% yn uwch pan fo gwartheg yn gorwedd o’i gymharu â phan maent ar eu traed. Felly, mae’n bwysig bod siediau ac unrhyw ddeunydd gorwedd yn annog ymddygiad gorwedd ac yn darparu cysur digonol.
Mae gwahanol ddeunydd gorwedd yn cynnig gwahanol lefelau o gysur o’i gymharu â’i gilydd. Yn yr un modd, gallai gwartheg ffafrio rhai deunyddiau gorwedd yn hytrach nag eraill. Gellir ystyried RMS yn ddeunydd gorwedd deniadol o safbwynt cysur y fuwch o ganlyniad i’w gyfansoddiad ffibrog sy’n arwain at greu cynnyrch meddal, heb fod yn sgrafellog, ac sy'n gallu newid siâp. Yn wir, adroddwyd bod defnyddio RMS fel deunydd gorwedd yn gallu cynnig manteision o safbwynt cysur y fuwch pan gaiff ei ddarparu ar fatiau neu ar welyau dwfn. Yn ogystal, roedd arolwg ffermwyr yn y DU yn adrodd bod ffermwyr yn credu bod gwartheg yn gyfforddus ac yn gorwedd am gyfnodau hwy ar RMS. Fodd bynnag, roedd un astudiaeth yn nodi er bod deunydd gorwedd tail sych wedi’i ailgylchu yn gynnyrch meddal sy’n gallu newid ei siâp, gallai hyn fod yn anfantais o safbwynt gwartheg yn datblygu clwyfau ar y gar. Credir bod pwysau’r gwartheg yn gallu achosi i’r deunydd gorwedd gywasgu gan arwain at gefn y ciwbiclau’n dod i’r amlwg a phwyso ar y cymalau.
Mae dyfnder deunydd gorwedd yn ffactor bwysig i’w ystyried. Gan ddefnyddio mesuryddion cyflymder wedi’u gosod ar goesau’r gwartheg, bu astudiaeth yn y DU yn ceisio rhagweld ymddygiad gorwedd dyddiol gwartheg llaeth sy’n llaetha ar ddeunydd gorwedd wedi’i wneud o dail sych wedi’i ailgylchu. Roedd canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod gwartheg yn gorwedd am gyfnodau hwy (2.5 munud) ar ddeunydd gorwedd RMS dwfn o’i gymharu â rhoi RMS ar fatiau. Yn ogystal, bu astudiaeth arsylwi drawstoriadol yng Ngogledd Orllewin yr Unol Daleithiau yn cymharu’r defnydd o dail sych wedi’i ailgylchu ar gyfer gwartheg llaeth sy’n llaetha. Roedd canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod gwartheg a oedd yn gorwedd ar RMS dwfn mewn ciwbiclau agored yn dioddef llai o achosion o gloffni a chlwyfau ar y gar, a llai o achosion difrifol o’r cyflyrau hyn, o’i gymharu â gwartheg a oedd yn gorwedd ar fatiau gyda RMS. Fel y nodwyd eisoes, un o brif fanteision tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd yw bod y swbstrad (tail a slyri) ar gyfer ei gynhyrchu eisoes ar gael ar y fferm, felly mae defnyddio’r deunydd gorwedd ar ddyfnder digonol yn debygol o fod yn bosibl.
Un broblem bosibl wrth ddefnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd yw ei fod yn cynnwys lefel gymharol isel o ddeunydd sych o’i gymharu â deunyddiau gorwedd eraill. Roedd astudiaeth gwmpasu yn y DU yn nodi mai’r cynnwys deunydd sych delfrydol ar gyfer RMS yw 32-34%, ac y gallai cynnwys deunydd sych is na hynny arwain at anawsterau wrth drin y cynnyrch, yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar hylendid ac ansawdd, lle gallai cynnwys deunydd sych isel ddarparu amodau addas ar gyfer twf bacteria pathogenig posibl. O ganlyniad, mae amodau Llywodraeth Cymru ynghylch defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu yn nodi bod rhaid i ddeunydd sych o fewn y deunydd gorwedd fod o leiaf 34% i osgoi hyn. Mewn hinsoddau tymherus megis y DU, mae sicrhau deunydd sych digonol a chyson yn gallu bod yn enwedig o heriol o’i gymharu â mewn hinsoddau poeth a sych lle mae tail sych wedi’i ailgylchu yn fwy cyffredin. Gwelwyd hefyd fod gwartheg yn ffafrio deunydd gorwedd sy’n cynnwys llawer o ddeunydd sych. Bu astudiaeth yn ymchwilio i ddefnyddio solidau tail wedi’u sychu (29% deunydd sych), solidau tail wedi’u dadhydradu (90% deunydd sych) a llwch llif (81% deunydd sych) fel deunydd gorwedd ar gyfer gwartheg llaeth mewn ciwbiclau dewis agored. Roedd canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod gwartheg yn ffafrio’r deunydd gorwedd gyda’r cynnwys deunydd sych uchaf, lle’r oedd gwartheg yn treulio 0.5, 5.0 a 4.1 awr y dydd yn gorwedd ar solidau tail wedi’u sychu, solidau tail wedi’u dadhydradu a llwch llif yn y drefn honno.
Tail sych wedi’i ailgylchu ac iechyd anifeiliaid
Mae’n bwysig sicrhau hylendid ardaloedd gorwedd er mwyn annog gwartheg i orwedd ac i hybu eu hiechyd. Mae’n hanfodol bod deunyddiau gorwedd yn gallu amsugno’n dda er mwyn cadw ardaloedd gorwedd mor sych â phosibl a helpu i reoli gwastraff. Mae potensial deunyddiau gorwedd i amsugno lleithder felly’n ffactor pwysig i’w ystyried. Bu astudiaeth yn cymharu potensial amsugnedd RMS a gynhyrchwyd drwy wasg sgriw, wedi’i gompostio ac wedi’i sychu mewn ffwrn, gyda gwellt gwenith, tywod, naddion coed pîn, papur newydd wedi’i falu, a choesynnau india corn wedi’u malu. Roedd canlyniadau’r astudiaeth yn dangos mai’r deunydd gorwedd RMS oedd â’r amsugnedd gorau o’u gymharu â’r deunyddiau prawf eraill.
Pan fo deunydd gorwedd yn dod i gysylltiad ag wrin, ysgarthion, llaeth sy’n gollwng neu garnau gwlyb neu fudr, mae lleithder y deunydd yn cynyddu. Gall deunydd gorwedd llaith effeithio’n negyddol ar ddewis y fuwch i orwedd. Yn ogystal, gall lleithder o fewn y deunydd gorwedd effeithio ar hylendid a diogelwch drwy ddarparu amgylchedd addas ar gyfer twf a lledaeniad micro-organebau gwenwynig posibl. Yn ogystal, un o’r prif bryderon o ran defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd yw’r baich pathogenau posibl mewn tail a slyri crai. Yn yr un modd, gall tail a slyri ddarparu swbstrad ar gyfer twf a goroesiad microbau. Felly, ceir pryderon o ran goblygiadau defnyddio deunydd gorwedd tail sych wedi’i ailgylchu ar iechyd gwartheg a phobl.
Ceir rhestr o bathogenau sy’n debygol o fod yn bresennol ar lefel uchel mewn slyri yn y DU yma. Oherwydd y cyswllt agos rhwng y gadair a’r deunydd gorwedd, mae un o’r pryderon penodol yn ymwneud â throsglwyddo micro organebau gwenwynig sy’n gallu achosi mastitis clinigol megis colifform (Escherichia spp., Klebsiella spp.), streptococci (Streptococcus uberis, Streptococcus dysgalactiae), Pseudomonas a rhywogaethau Trueperella. O ganlyniad, mae gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar hyn. Ceir gwrthdaro mewn llenyddiaeth o ran goblygiadau defnyddio tail sych wedi’i ailgylchu fel deunydd gorwedd ar iechyd gwartheg, gyda rhai astudiaethau’n dangos nifer fawr o achosion o dwf bacteria a chyfrif bacteriol organebau Streptococcus spp. ac organebau tebyg i Streptococcus mewn llaeth o’r tanc o’i gymharu â deunyddiau gorwedd organig eraill. Mewn cyferbyniad, roedd astudiaethau eraill yn nodi nad oedd mwy o risg o ddatblygu mastitis clinigol neu ddifrifol wrth orwedd ar RMS nag wrth orwedd ar wellt. Felly, mae’n bwysig bod deunydd gorwedd yn cael ei reoli’n briodol ac yn cael ei gadw’n sych ac yn lân. Mae hyn yn cael ei gefnogi mewn cyfathrebiad byr lle gwelwyd fod cyfrif colifform a Klebsiella spp. gwartheg a oedd yn gorwedd ar welyau RMS bas yn yr UDA a oedd yn cael eu glanhau a’u newid yn aml yn is o’i gymharu â’r rhai a oedd yn gorwedd ar RMS dwfn nad oedd yn cael ei newid yn aml.
Crynodeb
Mae tail sych wedi’i ailgylchu yn ddeunydd gorwedd amgen ar gyfer gwartheg llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn dilyn gwahanu cyfrannau solid a hylifol slyri. Ceir rheoliadau ynghylch ei ddefnydd yn y DU a Chymru, ac mae wedi’i gyfyngu i systemau cynhyrchu llaeth. Ceir nifer o fuddion o ganlyniad i gynhyrchu tail sych wedi’i ailgylchu o slyri sy’n galluogi ffermydd i fod yn fwy hunangynhaliol, a gwneud slyri’n haws i’w reoli drwy leihau’r gofynion storio. Yn ogystal, gallai RMS weithio o fewn economi gylchol lle caiff ffracsiwn organig slyri ei ailgylchu a’i ailddefnyddio. Fodd bynnag, mae angen ystyried y costau sy’n gysylltiedig â thechnoleg o’r fath (costau cyfalaf, enillion ar fuddsoddiad, rheolaeth, gwasanaethu a chostau cynnal) o’i gymharu ag arferion confensiynol.
Mae astudiaethau wedi dangos bod potensial i dail sych wedi’i ailgylchu gael ei ddefnyddio fel deunydd gorwedd amgen ar gyfer gwartheg llaeth. Mae rhai o’r manteision yn cynnwys llai o lwch, a chysur y fuwch. Fodd bynnag, ceir anawsterau posibl wrth geisio cynhyrchu RMS gyda chynnwys deunydd sych digonol yn gyson. Yn yr un modd, ceir pryderon mewn perthynas â diogelwch ac iechyd gwartheg; mae hyn oherwydd y llwyth pathogenau posibl sy’n bresennol o fewn tail a slyri crai. Yn ogystal, gall tail a slyri hefyd ddarparu swbstrad ar gyfer twf a goroesiad microbau.