Mae llyngyr yr iau neu Fasciola hepatica yn barasit cyffredin mewn da byw. Mae heintiad llyngyr yr iau yn achosi salwch, yn ogystal â lleihad mewn cyfraddau twf a pherfformiad atgenhedlu'r da byw sydd wedi eu heffeithio. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cael ei gydnabod bod llyngyr yr iau yn dod yn fwy cyffredin yn y DU a bod cyfnodau peryglus o ran heintiad bellach yn dod yn hirach, yn ogystal â dod yn anoddach i'w rhagweld. Gan fod llyngyr yn ffynnu mewn hinsoddau gwlyb a mwyn, mae natur gyffredin gynyddol y parasit yn y DU wedi cael ei feio ar newid hinsawdd. Mae’r cynnydd yn nifer y blynyddoedd gwlyb a welwyd yn ddiweddar wedi gwella cynefinoedd ar gyfer malwoden y llaid sy'n cynnal llyngyr yr iau. Mae modelu gwyddonol wedi awgrymu y bydd Cymru’n un o’r rhanbarthau gyda’r risg uchaf yn yr UE ar gyfer fasciolosis yn y dyfodol. Yn ogystal, mae ymwrthedd i driniaeth llyngyr yr iau a dryswch ynglŷn â gweithgareddau trin llyngyr yr iau yn arwain at ddiffyg rheolaeth. Mae’r ffeithiau hyn yn galw am welliannau mewn arferion rheolaeth fferm a thriniaethau yn ogystal â datblygiad brechiadau neu driniaethau newydd ar gyfer rheoli fasciolosis. Mae hefyd gwir angen i brotocolau rheoli sydd â hanes o lwyddo i gael eu mabwysiadu ar raddfa ehangach gan ffermwyr.

Rheolaeth fferm

Y cam cyntaf wrth reoli llyngyr yr iau yn effeithiol yw sefydlu p’un ai yw'r heintiad yn bresennol ar y fferm ai peidio. Gellir gwneud hyn trwy adborth o ladd-dai a chyfrifon wyau ysgarthol (FEC), ymysg dulliau eraill, a ddylai hefyd fod yn arfer cyffredinol ar ffermydd sydd â hanes o lyngyr yr iau. Mae defnyddio triniaeth llyngyr yr iau a strategaethau rheolaeth heb gadarnhad pendant o barasitiaid yn wastraff amser yn ogystal ag adnoddau.

Mae cadw da byw a brynir dan amodau cwarantin yn broses hanfodol er mwyn osgoi heintio porfeydd heb barasitiaid, fodd bynnag, nid yw'n ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n eang gan ffermwyr. Bydd mesurau cwarantin llym ar bob anifail a brynir hefyd yn osgoi cyflwyno llyngyr gydag ymwrthedd i’r fferm. Dylid holi am gyngor milfeddygol er mwyn datblygu gweithdrefn cwarantin effeithiol. Mae hyn yn bwysicach byth os oes cynefinoedd malwod ar yr holl borfeydd.

Mae cylchred bywyd llyngyr yr iau yn ddibynnol ar falwoden y llaid, Galba truncatula, fel lletywr canolradd. Heb fodolaeth cynefinoedd gwlyptir ar gyfer y malwod, bydd y cylchred bywyd yn dod i ben. Felly, mae rheoli porfeydd yn hanfodol ar gyfer rheoli fasciolosis. Gan hynny, mae asesu pob porfa am fodolaeth y cynefinoedd hyn a mapio'r ardaloedd sydd â'r risg uchaf yn fesur rheoli. O ganlyniad, dylid cael gwared â ffynonellau cynefinoedd malwod neu wahanu da byw oddi wrth ardaloedd sydd mewn perygl gan ddefnyddio systemau megis ffensio neu bori cylchdro. Os oes rhaid defnyddio porfeydd gyda chynefinoedd malwod, mae'n hanfodol nad yw'r anifeiliaid yn gallu pori yma yn ystod cyfnod pan fydd wyau parasitiaid yn cael eu gwaredu.

Triniaethau llyngyr yr iau

Mae pryder cynyddol ynglŷn ag ymwrthedd i gynnyrch trin llyngyr yr iau, yn enwedig y rhai hynny sy’n cynnwys triclabendazole (TCBZ). Mae arolygon wedi dangos bod fasciolosis yn fwy cyffredin ar ffermydd sy'n defnyddio TCBZ o’u cymharu â’r rhai sy’n defnyddio anthelminitigau eraill, fwy na thebyg oherwydd ymwrthedd i TCBZ. TCBZ yw’r unig gyfansoddyn gweithredol sydd ar gael sy’n effeithiol ar gyfer trin llyngyr llawn dwf a’r rhai sydd mewn cyfnodau mudo. Dylid ystyried hynny wrth ddefnyddio cyfansoddion gweithredol eraill megis closantel sydd ond yn effeithiol ar gyfnod llawn dwf y gylchred bywyd. Fodd bynnag, mae nifer o ffermwyr yn trin gyda’r cynnyrch hyn unwaith y flwyddyn yn unig, ac mae'n bosib nad ydynt bob amser yn defnyddio'r driniaeth gywir ar yr adeg iawn o'r flwyddyn. Felly dylid ymchwilio i unrhyw fethiannau cyffur posib trwy brawf lleihad FEC er mwyn sicrhau mai o ganlyniad i ymwrthedd i’r cyffur, yn hytrach na pharasitiaid ifanc sydd wedi goroesi’r driniaeth, mae’r diffyg effeithiolrwydd. Mae’r materion hyn yn amlygu’r ffaith bod angen mwy o wybodaeth ar arferion rheoli triniaeth fel bod mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â gweithgaredd y cyffuriau, gan gynyddu effeithiolrwydd rheolaeth llyngyr yr iau. Dylid trafod protocolau triniaeth gyda milfeddyg bob amser cyn cychwyn arni.

Ffactor arall i’w ystyried yw’r cyfnod cilio angenrheidiol wrth ddefnyddio triniaeth llyngyr yr iau. Mae angen ystyriaeth benodol mewn systemau rheoli gwartheg godro er mwyn sicrhau’r enillion gorau posib o’r fuches, gan drin yr haint yn effeithiol ar yr un pryd. Dylid sicrhau bod cyfnodau cilio’n cael eu dilyn ar gyfer cynhyrchu llaeth, yn ogystal â da byw ar y ffordd i'r farchnad gig.

Brechiadau

Ar hyn o bryd, nid oes brechiad ar gael i ddiogelu rhag llyngyr yr iau. Er ei fod yn cael ei gydnabod na fyddai brechiad yn rhoi sicrwydd 100% o ddiogelwch rhag y parasit, derbynnir y ffaith bod angen brechiad ymarferol er mwyn rheolaeth cynaliadwy ar lyngyr yr iau. O ganlyniad, bydd hyn yn lleihau defnydd triniaethau llyngyr yr iau ac felly'n arwain ymwrthedd i'r driniaeth. Hefyd, mae brechiadau’n cael eu hystyried yn ddiogel i’r amgylchedd gan nad oes gweddillion cemegol yn cael eu trosglwyddo i’r borfa. Er mwyn sicrhau bod brechiad yn effeithiol o fewn buches, rhagwelir bod angen i 90% o’r anifeiliaid gael eu diogelu’n llwyddiannus am dymor cyfan. Mae ymchwil gwyddonol wedi adnabod sawl targed ar gyfer brechiad posib sy'n benodol ar gyfer llyngyr yr iau, ond mae'r canlyniadau wedi bod yn anghyson wrth gynnal treialon ar anifeiliaid byw. Gan fod poblogaethau llyngyr wedi'u profi i fod yn amrywiol iawn yn nhermau geneteg, mae angen mwy o ddealltwriaeth am strwythur geneteg, swyddogaeth a dynameg y parasit wrth ddatblygu brechiad. Trwy ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'r boblogaeth parasitiaid ehangach, bydd ymchwil i ddatblygiad brechiad yn fwy parod i fynd i'r afael â'r broblem llyngyr yr iau ar sail fyd-eang. Felly, er bod dyfodol addawol i ddatblygu brechiad, mae tipyn o ffordd i fynd o ran ymchwil gwyddonol cyn gallu dechrau treialon fferm ar raddfa fawr.

Rheolaeth gynaliadwy hir dymor

Er mwyn rheoli llyngyr yr iau’n gynaliadwy ar sail hir dymor, dylid monitro pa mor gyffredin yw’r afiechyd ar sail fferm unigol bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r canfyddiadau i arwain mesurau rheoli ar gyfer y flwyddyn olynol. Mae angen teilwra trefniadau i bob fferm unigol, boed hynny trwy driniaeth neu reolaeth. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, bydd angen cyfnewid gwybodaeth yn barhaus rhwng ffermwyr, milfeddygon, y diwydiant ac academyddion i arwain y defnydd o arferion sy'n gweithio'n effeithiol ar lefel fferm. 

Ceir mwy o fanylion ynglŷn â’r materion yn ymwneud â llyngyr yr iau ar y gwefannau canlynol: www.scops.org.uk neu www.cattleparasites.org.uk. Gall Cyswllt Ffermio hefyd gynnig adnodd e-ddysgu ynglŷn â rheoli llyngyr yr iau ar eich fferm.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr