6 Ebrill 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth a Kate Hovers (MRCVS)

 

  • Mae’r diwydiant geifr yn ymddangos fel pe bai’n tyfu yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang    
  • Er mwyn gwneud y gorau o gynhyrchu geifr a’u lles oherwydd bod bioleg geifr yn wahanol mewn cymhariaeth â chilgnowyr eraill rhaid ymchwilio ymhellach i barasitiaid a’r dos o gyffuriau.
  • Mae geifr yn cynnig potensial unigryw fel anifail sy’n cael ei ddefnyddio fwy a mwy ond mae angen i gyngor ac ymchwil milfeddygol ar arferion da a thriniaeth symud oddi wrth y dybiaeth bod defaid yn gymhariaeth addas.
  • Mae’n hanfodol cael cyngor milfeddygol cyn cychwyn ar unrhyw driniaeth i eifr i sicrhau bod strategaethau addas ac effeithiol yn cael eu defnyddio.

 

Ffermio geifr yn y Deyrnas Unedig

Gwelodd ffermio geifr yn y Deyrnas Unedig donnau o gynnydd anferth, gan gynnwys ehangiad o tua 20% o flwyddyn i flwyddyn rhwng diwedd y 90au a dechrau’r 00au, gyda chynnydd arafach ond mwy cyson o 2010 ymlaen. Er bod o leiaf hanner y niferoedd yma yn ymddangos fel pe baent yn ymwneud â’r diwydiant llaeth geifr ym Mhrydain mae’r systemau hyn yn dal i gynhyrchu cig o groesi eu hanifeiliaid llaeth sy’n perfformio salaf â bridiau cig (yn debyg i’r diwydiant gwartheg llaeth). Yn fyd-eang mae bwyta cig geifr i bob pen y flwyddyn wedi cynyddu bron ddwywaith cymaint rhwng yr 1960au a’r 2010au a niferoedd geifr sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o unrhyw dda byw yn y degawd diwethaf, sy’n awgrymu bod hon yn farchnad sy’n tyfu. Gall llawer o’r twf fod yn gysylltiedig â’r manteision o ran maeth sy’n gysylltiedig â chig geifr oherwydd bod braster a cholesterol yn isel o gig coch, yn neilltuol wrth i lawer o ddefnyddwyr yn gynyddol brynu bwyd ar sail ei rinweddau iechyd.

Nifer y geifr yn y Deyrnas Unedig o 1990 i 2016

Er gwaethaf y cynnydd yn nifer y geifr, mae ymchwil cyhoeddedig sy’n berthnasol i ffermio geifr yn y Deyrnas Unedig yn brin ac i raddau helaeth yn canolbwyntio ar gynhyrchu llaeth gyda pheth ymchwil geifr yn dod o ranbarthau mwyn yn Ewrop ond llawer mwy yn ymwneud â rhanbarthau trofannol neu isdrofannol lle mae’r niferoedd yn uwch. Fel y cyfryw mae’n debyg bod heriau penodol i’r Deyrnas Unedig i ffermio geifr a all fod yn atal twf y sector. Adroddodd arolwg trwy’r Deyrnas Unedig  yn defnyddio aelodau’r ‘Gymdeithas Geifr Godro’ yn 2019 bod y problemau allweddol yn ymwneud â niwmonia, ysgôth, peidio cyfebu, angen help i fwrw myn, afiechyd Johne, twbercwlosis a maethiad cywir ym maes ffermio geifr yn y Deyrnas Unedig. Yn ychwanegol, dynododd yr un arolwg ddiffyg arwyddocaol o borfa tu allan i eifr (dim ond 17% o ffermwyr geifr llaeth a holwyd yn y Deyrnas Unedig oedd yn gadael iddynt bori allan) roedd hyn yn rhannol oherwydd nad yw’n hysbys pa mor agored ydyn nhw i heintiadau gan barasitiaid nematod gastro-berfeddol (GIN). Er bod parasitiaid yn broblem lai mewn cymhariaeth mewn geifr godro oherwydd y duedd i systemau dan do fod yn haws eu rheoli gyda nifer uwch o anifeiliaid, gall cynlluniau lles a llesiant ar draws cynhyrchu da byw i gyd wthio cynhyrchwyr tuag at adael iddynt fynd allan yn rhannol o leiaf, a all wneud heintiad gan barasitiaid yn broblem gryn lawer yn fwy.

Un o agweddau mwyaf dymunol cynhyrchu cig geifr yw eu bod wedi addasu i  oroesi a ffynnu mewn ardaloedd ymylol lle nad yw’r tir yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddibenion amaethyddol. Mae gan eifr fwy o duedd i bori llwyni a llystyfiant ymylol arall yn hytrach na phori fel defaid a dylent yn naturiol gael cysylltiad â llai o gyfleoedd i barasitiaid drosglwyddo iddynt. Oherwydd hyn nid yw ymatebion imiwnedd llawer o rywogaethau o eifr wedi datblygu’n llawn pan fyddant yn agored i barasitiaid am y tro cyntaf gan eu gwneud yn llai abl i wrthsefyll heintiad a hefyd ddim yn ymateb yn ddigonol i heriau parhaus.

 

Heintiad parasitiaid mewn geifr

Mae hwsmonaeth fodern wrth ffermio geifr wedi symud oddi wrth borthi geifr ar dir ymylol mewn llawer enghraifft tuag at bori porfa (er mwyn ei gwneud yn haws i’w rheoli a phennu’r egni y maent yn ei gael o borthiant ymhlith rhesymau eraill). Pan gaiff hyn ei gyfuno â phori rhywogaethau cymysg neu bori cylchdro gyda nifer o rywogaethau, mae mwy o berygl y bydd y geifr yn dod i gysylltiad â chyfnodau heintus parasitiaid. Cadarnhawyd bod geifr yn dioddef nifer o’r un afiechydon â defaid a gwartheg gan gynnwys parasitiaid lle mae geifr yn agored i ddioddef oddi wrth yr un rhywogaethau pathogenig â defaid gyda pheth amrywiad yn ymwneud â rhywogaethau Teladosargia, Trichostrongylus, Haemonchus a Fasciola. Gall heintiadau mewn geifr arwain at symptomau yn cynnwys llai o awch bwyd, diarrhoea a cholli pwysau a bod yn llesg ynghyd â symptomau penodol gan ddibynnu ar leoliad y parasit yn yr anifail (fel bronco-niwmonia ac emffysema pan fydd yn yr ysgyfaint). Gall y rhain i gyd ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd effeithio ar gynhyrchiant anifeiliaid gan arwain at leihad yn y cig, llaeth a llwyddiant wrth atgenhedlu. Mewn achosion difrifol, mae heintiadau hefyd yn cynyddu cyfraddau marwolaeth gan fod parasitiaid o’r fath yn creu bygythiad clir i les a llesiant yr anifail.

 

Goblygiadau imiwnedd a metaboledd cyffuriau

Dangosodd nifer o astudiaethau bod ymatebion imiwnedd i rywogaethau GIN mewn geifr yn llawer llai effeithiol na’r rhai a welir mewn defaid, gall ymateb imiwnedd llawn gymryd bron i ddwywaith yr amser mewn cymhariaeth (12 mis - geifr, 6 mis - defaid). Pan fydd ymatebion imiwnedd yn datblygu mewn geifr maent yn dueddol o ymwneud â lleihau twf y larfa’n fewnol ac effeithio ar gynhyrchu wyau, fel y cyfryw maent yn dal yn agored iawn i larfa sefydlu a’r niwed sy’n gysylltiedig â hynny. Mae hyn yn awgrymu bod manteision pellach i beirianwaith rheoli fyddai’n lleihau neu atal rhyngweithio gyda’r llwybrau heintio cychwynnol ar borfa. Mae’r heriau pellach yn cynnwys y gwahaniaeth yn y cof imiwnedd a awgrymir rhwng geifr a defaid  lle mae’n ymddangos bod ymatebion imiwnedd geifr yn ymddangos yn llawer byrrach fel sy’n cael ei awgrymu gan lefelau heintiad tebyg mewn geifr ifanc a llawn dwf mewn cymhariaeth â defaid lle mae datblygiad y gwrthedd yn arwain at lai o faich mewn anifeiliaid hŷn. Yn syml, heb heintiadau cronig lefel isel, neu ail-heintio cyson, mae systemau imiwnedd geifr yn ymddangos fel pe baent yn ‘anghofio’ sut i ymateb, ond, nid yw hyn yn awgrymu y dylid rhoi geifr ar borfa lawn llyngyr yn fwriadol. Ar y cyd â’r ystyriaethau hyn o ran imiwnoleg, fe welwyd bod geifr yn dangos ymddygiad gwahanol gan gyffuriau yn y corff  i ddefaid, er gwaethaf hyn, ar hyn o bryd dim ond llond llaw o gynhyrchion eprinomectin sydd ar gael gyda chyfraddau dosio cyhoeddedig wedi eu trwyddedu’n benodol ar gyfer geifr yn y Deyrnas Unedig. Mae geifr yn metaboleiddio cyfansoddion yn gyflymach na defaid  felly gall rhoi’r un gyfradd o ddos arwain at beidio rhoi digon a bod poblogaeth o barasitiaid yn goroesi sydd wedi rhyngweithio â chyfansoddyn ac yn fwy tebygol o ddatblygu gwrthedd. Yn ychwanegol mae’n hysbys y gall fod problemau yn ymwneud â rhoi dos o gyffuriau ar sail pwysau cywir yr anifail wrth ffermio defaid a gall camau tebyg mewn geifr gael effaith sydd hyd yn oed yn fwy ar effeithlonrwydd y dos. Yn ychwanegol, gall argaeledd cyfyngedig dewisiadau o driniaethau trwyddedig i eifr fod â rhan yn ymddangosiad triniaethau heb eu hawdurdodi. Mae cyngor dosio a defnyddio trwyddedig cyffuriau ar gyfer da byw eraill yn atal cemegolion rhag mynd i mewn i’r gadwyn gyflenwi bwyd trwy aros yn y cig a’r llaeth. Gall triniaethau heb eu hawdurdodi mewn geifr fod â chyfnodau cilio amrywiol (yn neilltuol oherwydd eu metaboledd gwahanol) gan arwain at anifeiliaid neu gynnyrch anifeiliaid yn mynd i systemau cyflenwi a chreu risg. Felly cynghorir ffermwyr i beidio â defnyddio dewisiadau trin o’r fath.  Wrth ymateb i rai o’r bylchau hyn mewn gwybodaeth mae prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) wedi bod yn digwydd trwy Cyswllt Ffermio ar bedwar busnes cig geifr yng Nghymru i ddechrau edrych ar effeithiau dos mewn geifr yn ogystal ag effeithiau eraill parasitiaid sy’n benodol i’r Deyrnas Unedig.

 

Rheoli

Gall strategaethau rheoli o erthygl GIN flaenorol o ran defaid a gwartheg hefyd gael eu defnyddio mewn geifr, mae hyn yn cynnwys ceisio cyngor milfeddygol i greu cynlluniau iechyd trosfwaol ystyrlon ar ffermydd. Fel sy’n cael ei nodi’n barhaus ar draws sectorau da byw mae bioddiogelwch yn ystyriaeth allweddol wrth ystyried afiechydon, oherwydd natur gynyddol y sector geifr, mae’n hanfodol archwilio anifeiliaid a brynir i mewn yn ofalus a’u rhoi mewn cwarantin. Mae’r dulliau rheoli eraill yn cynnwys triniaeth ddethol wedi ei thargedu (TST) a chynnal cronfa loches o barasitiaid a all fod yn bwysig iawn mewn geifr oherwydd yr angen am bresenoldeb heintiad parhaus i gynnal unrhyw ymateb imiwnedd (a hefyd oherwydd risg uwch y bydd gwrthedd yn digwydd). Yn yr un modd â gwartheg, mae rhywfaint o ystyriaeth o drin geifr gan ddefnyddio cyfansoddion planhigion meddyginiaethol sydd â nodweddion anthelmintig effeithiol. Mae geifr yn cynnig hyd yn oed fwy o botensial oherwydd bod eu haddasiadau pori yn gadael iddynt gael trothwyon gwenwynig uwch ar gyfer nifer o gyfansoddion meddyginiaethol. Gall hyn, mewn rhai enghreifftiau, gynnig y potensial i roi dos digon trwm i gael effaith ar barasitiaid heb gael effaith negyddol ar y geifr, er bod eithriadau nodedig yn bodoli gan gynnwys problemau yn ymwneud â lefelau uwch o wenwyn Levamisole mewn geifr na defaid. Awgrymwyd bod marcwyr imiwnedd blaenorol gan y baich llyngyr mewn geifr penodol trwy’r cyfri eosinophil ac IgA. Er nad yw astudiaethau mwy diweddar wedi dod o hyd i dystiolaeth arwyddocaol o’r marcwyr hyn ar gyfer gwytnwch i barasitiaid mewn geifr, fe fu ymchwil sylweddol sy’n dangos bod gwytnwch a baich llai o lyngyr yn nodweddion y gellir eu hetifeddu y gellir magu ar eu cyfer trwy genedlaethau. Dylai archwilio ysgarthion yn gyson trwy gyfrif wyau ysgarthol a dulliau arnofio er mwyn helpu i bennu pa rywogaeth o barasitiaid sy’n bresennol (trwy gyfuniadau McMasters FLOTAC neu systemau FECPAK integredig) fod yn rhan o reoli arferol. Gall gwybod pa barasitiaid sy’n bresennol a’r difrifoldeb gynorthwyo i wneud newidiadau yn y dull rheoli a thriniaethau ar sail gwybodaeth. Ond pan fydd geifr dan sylw, nodwyd o’r blaen y gall lefelau’r wyau i bob gram yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd yr anifail a chynhyrchiant fod yn amrywiol rhwng bridiau. Gall hyn amlinellu maes sydd angen rhagor o ymchwil a’i fireinio i sicrhau bod triniaethau’n cael eu rhoi ar yr amser cywir wrth ddefnyddio anthelmintigau a TST er enghraifft.

Dengys astudiaethau blaenorol yn cymharu dewisiadau pori rhwng defaid a geifr a’r effaith ar yr heintiad gan barasitiaid, os bydd geifr yn cael eu gorfodi i bori porfa, bod geifr yn llawer mwy agored i heintiad na defaid, ond, wrth bori tir ymylol, bod geifr yn gwneud yn llawer gwell gyda heintiadau mewn geifr llawn dwf yn llai dwys. Mae hyn yn awgrymu y byddai defnyddio geifr ar diroedd ymylol ac ardaloedd llai ffafriol, yn ogystal â’r fantais allweddol oherwydd eu gallu i addasu i ardaloedd o’r fath (gan droi tir o safon isel yn gig o safon uchel), ar yr un pryd yn gweithio fel dull o reoli parasitiaid. Yn y cyfamser, gallai geifr gael effaith gadarnhaol ar dir llai ffafriol a’r ucheldir (sydd yn niferus ar gyfartaledd yng Nghymru, gweler y map isod) o ran amrywiaeth rhywogaethau a chynnal llystyfiant a chydbwysedd tir gyda swyddogaethau yn cynnwys rheoli ailgoedwigo a all gael effaith ar ddiogelu rhag tân mewn rhai ardaloedd.

O adolygiad 2014 i wytnwch ffermio yng Nghymru

 

Crynodeb

Dylid gweld ffermio geifr fel dewis gwahanol hawdd ei addasu i systemau pori cilgnowyr, llaeth a chig eraill yn y Deyrnas Unedig. Er bod gan eifr eu heriau eu hunain o ran eu rheoli a chynhyrchiant, cyfyngedig yw’r ymchwil ar gyfer y Deyrnas Unedig yn benodol sydd wedi ei gyflawni ar y systemau hyn. Yn hytrach, rydym yn ddibynnol iawn ar fodelu cynhyrchu geifr ar systemau defaid neu ddefnyddio astudiaethau o ranbarthau trofannol. Mae hwn yn fwlch arwyddocaol mewn gwybodaeth y mae angen ei gywiro trwy arbrofi a threialon wedi eu targedu, gan ei bod yn hysbys bod gan eifr ymatebion imiwnedd a metaboledd cyffuriau gwahanol iawn. Mae parasitiaid a’u gwrthedd yn faes allweddol sy’n peri pryder ar draws cilgnowyr o ran llesiant a chynhyrchiant. Mewn geifr mae’r rhain yn bryder mwy fyth oherwydd bod llai o wrthedd mewn llawer o fridiau geifr mewn cymhariaeth â’r rhan fwyaf o wartheg a defaid. Os na fydd y pryderon yma’n cael sylw gallant atal potensial y sector i dyfu, a allai, fel arall, fod o werth uchel, yn neilltuol yng Nghymru, oherwydd perfformiad da geifr ar diroedd ymylol a’r potensial am effeithiau amgylcheddol cadarnhaol cysylltiedig.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth