Negeseuon i’w cofio:

  • Mae tail dofednod yn cynnwys cyfoeth o faetholion, sy’n ei wneud yn wrtaith effeithiol.
  • Gall compostio cyn ei chwalu wella cyfansoddiad maetholion y deunydd hwn.
  • Dylid ceisio arweiniad gan yr APHA cyn ei symud rhwng ffermydd.

Mae cynhyrchu dofednod yn sector amaethyddol sy’n tyfu yn y Deyrnas Unedig, oherwydd y cynnydd yn y galw am gynnyrch cig ag wyau dofednod.  Mae tail dofednod yn sgil-gynnyrch y cynhyrchu hwn ac mae’n cynnwys cyfoeth o faetholion, sy’n gallu darparu ffynhonnell bwysig o nitrogen (N), ffosfforws (P) ac elfennau hybrin ar gyfer cynhyrchu cnydau.  Gall y defnydd hwn wella ffrwythlondeb materol a biolegol pridd, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol i’w chwalu fel gwrtaith ar dir. 

poultry 0

Mae argaeledd tail dofednod yn cynyddu’n gyflym, yn enwedig yng Nghymru, sy’n golygu fod ei ddefnydd mewn cynhyrchu amaethyddol yn fwy cyffredin.  Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd tail dofednod fel gwrtaith wedi cael ei gwestiynu oherwydd cyfraddau carbon (C):P ac N:P isel, a’r posibilrwydd sylweddol o golli N a P trwy drwytholchi. Yn ychwanegol, gall gorddefnydd neu chwalu heb gynllunio arwain at ddirlawnder maetholion, ac yn sgil hynny, niwed i’r amgylchedd. Oherwydd hynny, mae cynnal profion rhagarweiniol o’r pridd a llunio cynlluniau penodol i reoli maetholion cyn chwalu gwrtaith yn hanfodol.

Felly, mae canfod dulliau effeithiol o reoli’r adnodd posibl hwn yn hollbwysig er mwyn sicrhau strategaeth i reoli gwastraff yn effeithiol, a hefyd i uchafu effeithiolrwydd busnes y fferm.  

Compostio tail dofednod:

Gall compostio tail dofednod cyn ei chwalu wella cyfraddau’r maetholion sydd ynddo a chynhyrchu

poultry 2 0
ffynhonnell fwy rhagweladwy a dibynadwy o N a P, sy’n dal ar gael yn dilyn compostio yn union fel mae ar gael yn y deunydd gwasarn ffres. Gallai compostio tail dofednod arwain at fanteision ychwanegol megis dadelfennu cyffuriau milfeddygol. Gallai hyn fod yn ffactor bwysig, oherwydd mae adroddiad wedi dangos fod meddyginiaethau milfeddygol yn treiddio i mewn i blanhigion o’r pridd yn ganlyniad posibl o’r defnydd o dail dofednod.

Mae arbrofion wedi’u cynnal â deunyddiau porthiant gwahanol i’w compostio ynghyd â thail dofednod i sicrhau’r cyfraddau maetholion gorau.  Mewn astudiaeth yn cymharu gwahanol ddeunyddiau porthiant, compost a gynhyrchwyd trwy gymysgu tail dofednod â malurion a rhisgl pren (42.5%), gwellt gwenith (30%) a glaswellt wedi’i dorri (20%) oedd â’r ansawdd gorau fel deunydd gwella’r pridd o ran y cynnwys deunydd organig, cyfradd C:P, cyfradd C:N a sefydlogrwydd.  Yn ddiddorol iawn, roedd yr elfen o dail dofednod yn weddol fychan (7.5%) er mwyn cyflawni’r cyfraddau maetholion gorau.  Mae astudiaethau eraill wedi dangos defnydd effeithiol wrth gynnwys cyfradd uwch o dail dofednod.  Mewn un, darparodd cymysgedd o 83% o dail dofednod ac 17% o wellt gwenith (pwysau sych) yr amgylchiadau gorau ar gyfer y broses compostio o blith tair cyfradd a brofwyd (y rhai eraill oedd: 73.5% tail/26.5% gwellt ac 88% tail/12% gwellt). Serch hynny, mae ychwanegu deunydd sydd â chyfoeth o C yn hanfodol i osgoi cyfraddau C:N isel yn y gymysgedd compost, a all lesteirio’r broses compostio.  Gwelwyd hefyd fod y tymereddau a gynhyrchwyd gan y gymysgedd hon yn ystod compostio yn ddigonol i gael gwared ar bathogenau.

Dulliau eraill o ddefnyddio tail dofednod:

Gall chwalu tail ffres ar y tir arwain at allyrru nwyon tŷ gwydr, megis N2O. Gall strategaethau eraill ar gyfer defnyddio’r deunydd tail gynnwys cynhyrchu trydan.  Bydd hyn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r tail a hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â llosgi tanwydd ffosil.  Yn ychwanegol, mae gan y lludw sy’n deillio o’r broses gyfoeth o P a K a gellir ei ddefnyddio fel gwrtaith. Mae’r defnydd o fio-olosg  yn deillio o dail dofednod hefyd wedi cael ei brofi i fod yn effeithiol i’w ddefnyddio fel gwrtaith wrth dyfu cnydau ffa ac India corn. Gallai’r ymagwedd hon gynnig dull o leihau’r problemau sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dail ffres, gan gynhyrchu ynni ar yr un pryd, ac yn sgil hynny, cynyddu’r C a storir yn y pridd ar ôl chwalu.

Cynllunio i reoli maetholion a ffactorau i’w hystyried

Yn sgil ei gyfansoddiad amrywiol, mae tail heb ei brosesu (a elwir hefyd yn dail ‘gwyrdd’) yn peri nifer o anawsterau o ran gwasgaru maetholion yn wastad wrth ei chwalu ar dir.  Yn ychwanegol, mae’r lefelau uchel o N a P yn golygu y bydd rhaid cyfyngu ar y cyfraddau chwalu i osgoi trwytholchi maetholion.  Gall chwalu tail dofednod dros y tymor hir hefyd effeithio ar statws P y pridd, gan arwain yn y pen draw at golli P.  

Mae cyfansoddiad tail dofednod o wahanol systemau ffermio dofednod yn amrywio oherwydd natur yr arferion ffermio rhwng systemau.  Mae gwasarn dofednod o adar a fegir ar y llawr (cywion brwylio, tyrcwn, cywennod bridio brwyliaid) yn cynnwys tail a gwasarn (naddion pren neu lwch lli fel arfer).   Plu a phorthiant gwastraff yw gweddill elfennau’r gwasarn.  Cysylltir tail ieir sy’n cynnwys carthion yn unig ag ieir dodwy a gedwir mewn cewyll a ffermydd bridio cywion brwylio.  Fe wnaeth astudiaeth o dail dofednod o systemau gwahanol o bob cwr or DU ddangos, yn gyffredinol, fod gan wasarn cywion brwylio/tyrcwn gyfradd uwch o ddeunydd sych (tua 60%) na thail ieir dodwy (oddeutu 35%), ond roedd gan bob math o dail grynodiadau tebyg o faetholion (N, P, K, Kg, S) ar sail eu pwysau sych. Yn nodweddiadol, roedd y cyfraddau N:P:K yn 6:2:2 yn achos gwasarn ieir dodwy ac yn 6:2:3 yn achos gwasarn cywion brwylio/tyrcwn.

Rheolau/rheoliadau presennol ynghylch y defnydd o dail dofednod:

poultry 3 0

Yn ôl gwybodaeth ar GOV.UK, i werthu tail, mae angen cyflawni nifer o ofynion.  I’w werthu yn yr UE, rhaid ei drin yn gyntaf mewn gwaith prosesu cymeradwy, ac yno, bydd rhaid i dail gael ei gynhesu i dymheredd o 70°C am o leiaf 60 munud.  Rhaid cael cymeradwyaeth hefyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).  Gellir defnyddio dulliau eraill o brosesu, ond bydd yn rhaid i’r rhain gael eu cymeradwyo gan yr APHA a bydd angen gwneud dadansoddiad dilynol o’r deunydd sy’n deillio o hynny (yn cynnwys profion am bresenoldeb bacteria, firysau a pharasitiaid).

I werthu tail yn y DU, gellir gwerthu deunydd wedi’i brosesu’n rhannol.  Bydd cymeradwyaeth yr APHA i wneud hynny yn dal yn ofynnol.  Fodd bynnag, gall dosbarthu deunydd na chaiff ei gyfnewid yn fasnachol fod yn dderbyniol serch hynny. Yn ôl y wefan, ‘gallwch chi chwalu tail dofednod ar eich tir eich hun neu ei gyflenwi i’w ddefnyddio ar ffermydd ac mewn gerddi masnachol os byddwch chi’n cymryd y camau canlynol i atal botwliaeth rhag lledaenu: archwiliwch eich adar yn rheolaidd a chliriwch unrhyw rai marw o’r gwasarn yn syth fel na fydd unrhyw garcasau yn y tail; peidiwch â chael gwared ar blu neu wyau wedi’u cracio yn eich tail (fe wnaiff rhywfaint o blu ddisgyn yn naturiol i mewn i’r gwasarn, ond peidiwch â rhoi cyfansymiau swmpus o blu yn eich tail, e.e. yn dilyn lladd tyrcwn yn ystod y Nadolig)’.

Mae angen cyflwyno cais ymlaen llaw hefyd i losgi tail dofednod mewn uned llosgi.  Argymhellir felly y dylid ceisio arweiniad cyn mynd ati i symud tail rhwng ffermydd neu i wneud unrhyw weithgareddau dosbarthu eraill.

Crynodeb

Bydd twf cynhyrchu dofednod yn y diwydiant amaeth, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, yn sicrhau y gwnaiff cyflenwadau o dail dofednod gynyddu hefyd ar yr un pnyryd.  Un her sylweddol i’r sector cynyddol hwn yw rheoli’r baich gwastraff helaeth hwn, sy’n ffynhonnell werthfawr o faetholion os caiff ei reoli’n briodol.  

Mae gan dail dofednod y potensial i fod yn wrtaith hynod effeithiol, oherwydd mae’n cynnwys cyfradd sylweddol iawn o faetholion.  Serch hynny, gall y defnydd o dail gwyrdd fod yn broblemus oherwydd y cyfraddau cymharol o faetholion ynddo.  Gall compostio’r deunydd hwn ymlaen llaw wella’r nodweddion hyn, a gellir storio’r deunydd compost sy’n deillio o hynny am gyfnodau hwy, ac mae’n haws ei chwalu ar gaeau na gwasarn ieir heb ei brosesu.  

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth