21 Rhagfyr 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Nod economïau a systemau cylchol yw gwella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff ar yr un pryd drwy ailgylchu, ailddefnyddio ac adnewyddu deunyddiau ac ynni gydol y broses gynhyrchu
  • Ym maes amaethyddiaeth, mae llawer o’r agweddau ar gynhyrchu yn agored i’w cylchu
  • Ar hyn o bryd mae cynhyrchiant da byw a chadwyni bwyd o darddiad anifeiliaid yn un o’r agweddau ar amaethyddiaeth sydd leiaf effeithlon, oherwydd yr allbynnau nwyon tŷ gwydr a gwastraff
  • Mae’n ymddangos mai cylchu prosesau cynhyrchu da byw sydd â’r gobaith gorau er mwyn cynnal cynhyrchiant bwyd o darddiad anifeiliaid yn gynaliadwy

 

Mewn amaethyddiaeth fodern mae’n bwysig edrych ar ein systemau mewn ffyrdd mwy cynaliadwy sy’n gwarchod adnoddau nag erioed o’r blaen. Mae pendraw ar lawer o adnoddau.  Wrth gynhyrchu allbynnau o’r rhain, rydym yn tueddu i ryddhau nwyon tŷ gwydr ac os ydym yn dal i ddisbyddu’r rhain ar y gyfradd hon bydd yr effaith ar yr amgylchedd yn cynyddu fwyfwy. Ar draws cyfres o erthyglau, byddwn yn pwyso a mesur fel mae systemau amaethyddol mewn sefyllfa ddelfrydol i ffitio i mewn i systemau cylchol, ac yn amlygu’r gwahanol feysydd allweddol ym maes amaethyddiaeth lle dylid canolbwyntio ar gylcholdeb. Bydd yr erthygl gyntaf hon hefyd yn gweithredu fel cyflwyniad i rai nad ydynt yn gyfarwydd â systemau cylchol fel cysyniad er mwyn cyflwyno ychydig o gefndir.   

 

Cyflwyniad byr i economïau a systemau cylchol

Prif bwrpas amaethyddiaeth, fel unrhyw ddiwydiant arall, yw cynhyrchu cynhyrchion. Y ffordd safonol o gynhyrchu, ar draws diwydiannau, yw drwy system linellol. Mae systemau llinellol yn cymryd y ‘cynhwysion’ craidd sy’n ofynnol i wneud cynnyrch, i’w werth neu’i ddefnyddio, cyn i’r cynnyrch hwn wedyn, yn y pendraw, gael ei waredu neu’i anfon fel gwastraff ar ddiwedd ei gylch oes defnyddiol.

  O safbwynt cyflenwad bwyd da byw, y ‘cynhwysion’ yw maethynnau’r pridd, haul a dŵr a ddefnyddir i gynhyrchu porfa i fwydo da byw. Gellid disodli, neu ychwanegu at, borfa gydag elfennau porthiant bwyd a gynhyrchir neu a brynir. Y ‘cynhwysyn’ arall, yn y cam cychwynnol hwn o systemau cynhyrchu llinellol, yw’r anifail da byw ei hun. Mae da byw yn gweithredu fel peiriannau addasu i drawsnewid mewnbynnau o ansawdd is yn allbynnau o ansawdd uwch. Caiff yr allbynnau hyn wedyn eu defnyddio a’u bwyta neu’u gwastraffu, naill ai’n uniongyrchol neu ar ffurf gwastraff dynol. Mewn system linellol o’r fath, mae maethynnau’n cael eu cymryd o’r pridd yn barhaus, gan gyfyngu ar faint o borfa a all dyfu mewn cylchoedd cynhyrchu i’r dyfodol, neu gan fynnu bod mwy a mwy o faethynnau neu borthiant allanol yn cael ei gyflenwi. Er mwyn atal y gofyn parhaus hwn am adnoddau, argymhellir bod systemau cylchol yn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y broses gynhyrchu. Mae’r rhain yn dibynnu ar ailgylchu, ailddefnyddio ac adnewyddu elfennau o’r cylch cynhyrchu er mwyn cau, i bob pwrpas, y cylch o ddefnyddio deunyddiau ac ynni.  

 

Mae cylcholdeb eisoes yn eithaf cyffredin ym maes cynhyrchu da byw; yn enwedig wrth ddefnyddio gwastraff anifeiliaid fel maethynnau i fwydo’r pridd ac i gynhyrchu cnydau porfa i’r dyfodol. Mae’r gadwyn dda byw gylchol yn edrych yn debycach i hyn.

 

I bob pwrpas, po fwyaf o gylcholdeb a geir rhwng elfennau’r cylch cynhyrchu, y mwyaf o effeithlonrwydd a geir. Mae hyn yn lleihau’r costau cynhyrchu ac yn gwella cynaliadwyedd cynhyrchu yn y tymor hir. Gan feddwl am y diagram uchod yn or-syml, os gall 50% o’ch gofynion maeth rydych yn eu ‘Cymryd’ o’r borfa gael ei gyflenwi o gyfuniad o wastraff a thail da byw, yna bydd costau eich mewnbynnau 50% yn is o wrtaith artiffisial. Mae hyn yn lleihau’r gost o brynu a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, cludo a defnyddio gwrtaith synthetig.

Un agwedd bwysig arall er mwyn gwella cylcholdeb yw lleihau’r pellteroedd cysyniadol (drwy strategaethau cynhyrchu arloesol) a’r pellteroedd ffisegol rhwng y camau cymryd a gwneud, ynghyd â lleihau faint o ddeunydd sy’n cyrraedd y cam gwaredu. Un agwedd sy’n cynorthwyo â hyn, mewn cadwyni cyflenwi bwyd da byw, yw anelu at gael cadwyni cyflenwi byrrach rhwng ffermwyr a defnyddwyr, gan fod hyn yn gallu lleihau’r gwastraff a’r colledion sy’n digwydd yn sgil cludo, prosesu a storio, cyn i’r defnyddwyr fwyta’r cynhyrchion yn y pendraw. Mae’r rôl hon o leihau cadwyni cyflenwi yn faes diddorol mewn ffermio, fe’i trafodwyd mewn erthygl flaenorol os hoffech ddysgu rhagor.

 

Pam bod arnom angen systemau da byw cylchol?

Fel dywedwyd, mae pendraw i’r adnoddau ar ein planed.  Mae’r adnoddau sydd ar gael, ynghyd â’r gofod tir ffisegol sydd ar gael inni yn gosod ffiniau ar allu poblogaethau dynol i oroesi a thyfu. Er bod llawer yn dadlau bod lleihau bwydydd o darddiad anifeiliaid a symud at ddietau mwy llysieuol a figan yn hanfodol i fwydo poblogaeth y byd a lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd, mae cylchu systemau cynhyrchu da byw yn cynnig llwybr i gynnal o leiaf rhyw gymaint o fwyd o darddiad anifeiliaid. Yr hyn na ddangoswyd yn y system gylchol, ond a grybwyllwyd yn fyr yn y fideo uchod, yw, yn fyd-eang, fod llawer o’r bwyd a fwydwn yn ein systemau anifeiliaid naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn cystadlu â chynhyrchu bwyd ar gyfer pobl. Mae’r ffigurau’n awgrymu, ar hyn o bryd, fod oddeutu 40% o'n tir âr byd-eang yn cynhyrchu porthiant ar gyfer anifeiliaid sydd i raddau helaeth yn addas i bobl ei fwyta.

Cyfrifwyd, mewn amcangyfrifon cychwynnol, drwy weithio at systemau cynhyrchu da byw sy’n bwyta sgil-gynhyrchion a glaswelltir yn gyfan gwbl, y gallai oddeutu un rhan o dair o anghenion protein dyddiol pob unigolyn gael ei gyflenwi’n fyd-eang. Byddai’r senario hwn yn caniatáu i’r holl dir gorau ar gyfer cynhyrchiant âr gael ei ddefnyddio i fwydo pobl, yn hytrach nag i fwydo anifeiliaid. Byddai hyn yn arwain at gwymp eithaf dramatig yn lefel y cynhyrchiant da byw sy’n digwydd. Ond yr hyn mae hefyd yn ei ddangos yw mai rhanbarthau sydd â phriddoedd a thirweddau sy’n fwy addas i borfeydd glaswelltir o ansawdd, nag i dyfu cnydau âr, a fydd yn gweithio orau fel y canolfannau ar gyfer cynhyrchu da byw. Amlygir hyn fel un rôl ar gyfer y tirlun cynhyrchu bwyd Cymreig yn benodol. Mae hefyd yn amlygu manteision rhywogaethau cnoi cil megis defaid a gwartheg oherwydd eu gallu i ddefnyddio maethynnau na all pobl eu bwyta mewn glaswelltiroedd, o’u cymharu â dofednod a moch. Fodd bynnag, pe câi’r rheoliadau ar fwydo gwastraff bwyd eu newid, yna ceir tystiolaeth i awgrymu y byddai hyn yn cynnig ffordd o fwydo anifeiliaid unstumogaidd (moch yn enwedig yn fwy effeithlon), cyn belled â bod rhag-driniaethau gwastraff yn cael eu gwneud.  

 

Ystyriaethau ar gyfer systemau da byw cylchol

Er ei bod yn ymddangos bod y systemau hyn yn ddolenni caeedig, fel y dangoswyd yn y fideo blaenorol, mewn gwirioneddol mae’r broses o ailgylchu gwastraff a chynhyrchion eraill yn anghyflawn, neu ddim yn cael ei chyflawni o gwbl. Byddai unrhyw gamau i wella’r effeithlonrwydd mewn unrhyw ran o’r systemau cylchol hyn o fantais i holl gylcholdeb y system. At hynny, agwedd arall na thynnir sylw ati yn y diagramau hyn (rhag cymhlethu pethau) yw bod bron pob cam o’r cylch yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar amrywiol lefelau. I’r perwyl hwn, fe allai gwelliannau i systemau cynhyrchu da byw cylchol ganolbwyntio ar unrhyw rai o’r canlynol:

 

Un offeryn mwy trosfwaol, i wella’r angen am ddwysfwydydd mewn systemau cynhyrchu da byw, yw ystyried ychwanegu elfennau cylchredol ar gyfer cynhyrchu porthiant da byw amgen sy’n cael llai o effeithiau ar yr amgylchedd ac ar ddefnydd tir. Ymysg yr esiamplau o hyn y mae proteinau diwydiannol o bryfed, ffyngau a bacteria. Tynnwyd sylw at borthiant o’r fath am eu gallu i  gymryd deunydd organig o safon ac ansawdd is na ellir ei ailgylchu gan dda byw yn uniongyrchol a’i ymgorffori mewn organebau y gellir wedyn eu bwydo i dda byw, i’w trosi yn broteinau bwytadwy uchel eu gwerth. Er bod cryn drafod ynglŷn â bod y protein a gynhyrchir yr un mor addas ar gyfer pobl, prin yw’r lefel defnyddio ymysg defnyddwyr ar gyfer rhai o’r systemau mwyaf effeithlon megis protein trychfilod ar hyn o bryd oherwydd agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol. O’r herwydd, yn y tymor byr, ymddengys bod y rhain yn fwy derbyniol i’w defnyddio mewn porthiant da byw.

 

Mae’r technolegau sy’n gallu gwella effeithlonrwydd systemau cylchol da byw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn cynnwys rhai sy’n cael manteision pellach o wastraff. Mae’r rhain yn cynnwys treulio anaerobig ac amrywiol strategaethau compostio ar gyfer gwastraff, sy’n cynhyrchu ynni a gweddillion ar gyfer ailgylchu mwy deuol a rheoli maeth porfa. Caiff y broses hon o ailgylchu gwastraff ac ynni ei thrafod yn fanylach mewn erthyglau i’r dyfodol.

 

Fe all systemau cylchol gael eu hymgorffori’n barhaol mewn ymgais i sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl. Yn yr esiamplau uchod, fe all yr ynni sydd ei angen i gynhyrchu protein ddod o ynni adnewyddadwy er mwyn gwella’r effaith, ond fe allai yn yr un modd hefyd ddod o’r broses cynhyrchu da byw ei hun drwy dreulio anaerobig ynghyd â chyfuniad o’r ddau batrwm cylchol hwn.

 

Fe all gwaith gofalus i gynllunio a gwerthuso dulliau rheoli maethynnau mewn ffordd gylchol chwarae rôl allweddol mewn systemau dwys. Dengys astudiaethau o gynhyrchiant ffermio cymysg, integredig cnydau a da byw cyfunol fod y rhain yn gallu lleihau effeithiau amgylcheddol rhwng 39 a 62%, cyn belled ag y gwneir asesiad gofalus o ofynion maethol y planhigion a’r anifeiliaid, a rhyngweithiad cylchol y rhain, (i osgoi mewnbynnau maethynnau allanol). Fe wnaeth astudiaethau cylchol o’r fath ddangos gostyngiad mewn elw, oherwydd cyfuniad o golledion yn y refeniw a geir o gnydau (o’i gymharu â senario lle’r oedd yr holl dir yn dir âr) a cholledion mewn cynhyrchiant cig (gan fod systemau porthiant yn unig yn cynnal llai o anifeiliaid na systemau a ategir â dwysfwydydd). Gellid gostwng y colledion i 3% a dal sicrhau gostyngiad o 39% yn yr effeithiau amgylcheddol er gwaethaf hyn. Mae’n bur bosibl y gallai cymorthdaliadau i’r dyfodol gyd-fynd â lliniaru’r mân golledion hyn.

Mae rhai amgylcheddau yn llesol i gynhyrchu da byw ac yn fwy addas ar gyfer da byw na dewisiadau amgen fel cynhyrchu cnydau neu fiomas. Mewn achosion o’r fath, mae hyn yn gweithredu fel dewis posibl yn lle canolbwyntiau cynhyrchu lleol oherwydd fe allai dal fod yn fwy effeithlon yn amgylcheddol i gludo cynnyrch o’r lleoliadau cwbl addas hyn, at ei gilydd, na’u cynhyrchu’n lleol ym mhob ardal. Unwaith eto, mae ffocws o’r fath ar systemau cynaliadwy cylchol yn fyd-eang yn debygol o roi Cymru ar flaen cynhyrchiant da byw domestig y Deyrnas Unedig, er nad yw hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i niferoedd da byw yng Nghymru gwympo’n aruthrol hefyd, i sicrhau’r arbedion gorau o ran cynaliadwyedd.

Yn y pendraw, er bod yn rhaid i’r agwedd gynhyrchu ar y system cyflenwi bwyd da byw wneud newidiadau, mae gofyn i newidiadau hefyd gael eu gwneud o safbwynt y defnyddiwr. Fe wnaeth model ddiddorol o’r Swistir o effeithiau ymddygiad defnyddwyr ar systemau bwyd cynaliadwy, asesu 6 strategaeth y gallai defnyddwyr gymryd rhan ynddynt i wella’r sefyllfa. Roedd un o’r strategaethau yn golygu prynu bwyd gan systemau a oedd yn cynnwys cylcholdeb. Fe wnaeth y gwaith modelu asesu allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnydd tir, ansawdd diet, costau diet, nitrogen dros ben a risgiau cymdeithasol (gyda’r risg gymdeithasol yn cael ei seilio ar sgorio cronfa ddata o fannau problemus o ran risg gymdeithasol ar gyfer cadwyni cyflenwi sy’n defnyddio 156 o ddangosyddion cymdeithasol gan gynnwys: natur foesegol llafur, llafur dan orfod, oriau gweithio gormodol a risgiau i iechyd pobl).

 

Roedd canfyddiadau’r model hwn yn mapio’n dda â rhai modelau tebyg eraill. Roedd ychwanegu cylcholdeb at system yn gwella bron bob agwedd yn llawer mwy sylweddol nag unrhyw strategaeth arall. Mae hyn yn awgrymu bod gofyn i ddefnyddwyr fynd ati i brynu bwyd a gynhyrchir mewn ffyrdd penodol, neu newid eu hymddygiadau, er mwyn gwella cynaliadwyedd cyflenwadau bwyd. Mae angen i systemau organig cylchol ac organig gael eu dilysu gan y cyhoedd er mwyn lliniaru’r costau cynyddol cysylltiedig. Yr hyn a welwyd hefyd, fel y gellid disgwyl, yw bod y canlyniadau gorau wedi’u cael wrth i ddefnyddwyr gefnogi cyfuniad o’r strategaethau hyn ochr yn ochr â’i gilydd.

 

Crynodeb

Mae’n ymddangos mai cynyddu’r cylcholdeb sy’n bresennol mewn systemau da byw, i’r dyfodol, yw’r unig ffordd o sicrhau bod bwydydd o darddiad anifeiliaid yn gallu ychwanegu at gyfansoddiadau diet pobl mewn ffordd sy’n well i’r amgylchedd. Er bod da byw yn gallu darparu gwasanaethau ecosystem eraill, (yn enwedig mewn gwledydd sy’n datblygu, lle maent nid yn unig yn darparu bwyd, ond cludiant a llafur) maent yn annhebygol o fyth ddiflannu o’r gadwyn cyflenwi bwyd. Fodd bynnag, fe allai’r cymorth ar gyfer parhau i’w cynhyrchu’n ddwys fod mewn perygl. Drwy ddefnyddio maethynnau ac ynni yn y ffordd orau bosibl a chau dolenni gwastraff drwy ailgylchu ac ailddefnyddio, fe allai systemau cynhyrchu da byw leihau eu costau a’u heffeithiau ar yr amgylchedd byd-eang yn sylweddol. Er bod rhywfaint o hyn yn bosibl ar lefel y fferm, mae’n debygol y bydd newidiadau ehangach yn ofynnol yn y seilwaith ac mewn safbwyntiau cymdeithasol economaidd er mwyn cael y canlyniadau gorau.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth