24 Chwefror 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae datblygu cadwyni cyflenwi bwyd byr yn cynnig cyfleoedd i ffermwyr i gynyddu eu cwsmeriaid ac arallgyfeirio eu busnes fferm.
  • Un o egwyddorion pwysicaf cadwyni cyflenwi bwyd byr yw darparu gwybodaeth ychwanegol o ran ansawdd a tharddiad y cynhyrchion.
  • Mae datblygu cadwyn gyflenwi bwyd fer yn gofyn am sgiliau arbenigol, ac yn aml mae’n dibynnu ar rwydwaith cymunedol i barhau yn gynaliadwy a llwyddiannus.

 

Cyflwyniad

Gall cadwyni cyflenwi bwyd gael eu disgrifio fel rhai byr pan fydd ychydig o weithredwyr yn y canol rhwng y cynhyrchwyr a’r defnyddwyr. Rhai o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o gadwyni cyflenwi bwyd byr yw marchnadoedd ffermwyr a siopau fferm. Yn y sefyllfaoedd yma, mae ffermwyr yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid, a all fod yn aelwydydd unigol neu sefydliadau bwyd. Bydd hyn yn lleihau presenoldeb gweithredwyr yn y canol fel proseswyr, canolfannau pecynnu, dosbarthwyr, cyfanwerthwyr, neu adwerthwyr.

Gall Cadwyni Cyflenwi Bwyd Byr hefyd gael eu disgrifio fel rhai sydd â phellter ffisegol byr rhwng y cynhyrchwr a’r defnyddiwr. Mae hyn yn hollol i’r gwrthwyneb i gadwyni cyflenwi bwyd byd-eang, ar raddfa ddiwydiannol sy’n seiliedig ar fasnach pellter mawr. Ond, heddiw, nid yw cadwyn gyflenwi fer gydag ychydig o weithredwyr yn y canol o angenrheidrwydd yn gorfodi cael pellter ffisegol byr rhwng cynhyrchydd a defnyddiwr gan fod cyfathrebu uniongyrchol dros bellter maith rhwng y ddwy ochr yn gynyddol rwydd ac effeithlon. Felly, tra bod rhai cadwyni cyflenwi bwyd byr yn parhau yn lleol iawn, gall eraill ymestyn i fodloni gofynion defnyddwyr ar raddfa ranbarthol neu genedlaethol.

Felly mae tri math o gadwyn gyflenwi bwyd fer yn cael eu cydnabod yn gyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Cynlluniau wyneb yn wyneb, lle mae’r defnyddwyr yn prynu’n uniongyrchol gan y ffermwr.
  2. Cynlluniau agos, lle mae cynhyrchion yn cael eu gwerthu trwy adwerthwyr lleol.
  3. Cynlluniau pellter estynedig, lle mae cynhyrchion yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr tu allan i’r ardal leol.

Er bod y pellter rhwng y defnyddiwr a’r cynhyrchydd yn gwahaniaethu yn ôl y math o gadwyni cyflenwi bwyd byr, yr elfen gyffredin sy’n berthnasol i’r holl gadwyni cyflenwi bwyd byr hyn yw bod y cynhyrchion yn cael eu trosglwyddo ar hyd cadwyn gyflenwi sy’n ychwanegu gwybodaeth werthfawr am gynhyrchu, y gallu i olrhain, cynaliadwyedd ac ansawdd.

 

Manteision cadwyni cyflenwi byr

Mae cadwyni cyflenwi bwyd byr yn dod yn gynyddol boblogaidd gyda defnyddwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd gan fod ganddynt y potensial i ddiwallu gofynion defnyddwyr sy’n cynyddu a rhoi manteision busnes diriaethol i gynhyrchwyr. Mae cadwyni cyflenwi bwyd byr hefyd yn gynyddol yn cael eu gweld fel dewis arall cynaliadwy i gyflenwadau bwyd y byd, a gan eu bod yn ailgysylltu ffermwyr â defnyddwyr, cyfeirir atynt yn aml fel dulliau o arallgyfeirio busnes a datblygu cymunedau gwledig. Felly mae cadwyni cyflenwi bwyd byr yn cynnig manteision i’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas.

Gall gofynion defnyddwyr amrywio yn sylweddol, ond, yn aml mae defnyddwyr eisiau cynhyrchion gyda nodweddion cynaliadwy, fel bod yn ffres, tymhorol, organig, neu leol. Mae cwsmeriaid hefyd yn dod yn gynyddol ymwybodol o effeithiau ac oblygiadau ehangach eu penderfyniadau eu hunain fel defnyddwyr. Mae cwsmeriaid yn gynyddol ymwybodol o les anifeiliaid ac oblygiadau moesegol systemau cynhyrchu anifeiliaid gwahanol, fel systemau dwys mewn cymhariaeth â rhai eang. Fel y cyfryw, mae llawer o gwsmeriaid hefyd eisiau sicrwydd am amodau rheoli penodol, fel sicrhau cludiant heb straen a dulliau lladd trugarog, er enghraifft. Mae defnyddwyr hefyd yn gynyddol yn ystyried oblygiadau amgylcheddol systemau cynhyrchu ac arferion rheoli gwahanol. Gall ystyriaethau o’r fath gynnwys effeithiau patrymau pori ar fioamrywiaeth, neu effaith gwrteithiau cemegol a naturiol ar ansawdd dŵr. Mae’r drafodaeth fyd-eang am achosion ac effeithiau newid hinsawdd hefyd yn golygu bod defnyddwyr yn dod yn fwy ymwybodol o filltiroedd bwyd, yr ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â systemau cynhyrchu, a chynaliadwyedd cyffredinol systemau cynhyrchu. Mae’r dyhead am y wybodaeth hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i gynhyrchwr yn y gadwyn gyflenwi bwyd fer i fodloni’r angen hwn trwy gyflenwi gwybodaeth werthfawr am darddiad y bwyd. Gall hyn fod ar ffurf sgwrs sy’n digwydd wyneb yn wyneb wrth werthu, neu trwy ymgyrchoedd marchnata neu becynnau’r cynnyrch. Mae’r gallu i ddarparu’r wybodaeth hon yn bwysig iawn, achos pan fydd cwsmeriaid yn cael sicrwydd o safonau ansawdd, maent yn fwy tebygol o gefnogi cynhyrchion a chynhyrchwyr.

Un o nodweddion pwysicaf cynnyrch a werthir ar gadwyni cyflenwi bwyd byr yw tarddiad. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer cynnyrch cig gan fod defnyddwyr yn gynyddol yn gwerthfawrogi gwybodaeth am y prosesau sy’n digwydd ar y fferm, a rhwng giât y fferm (chwith) a’r man gwerthu (dde).

Mae cadwyni cyflenwi byr yn gallu hwyluso perthynas werthfawr rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr. Mae’r berthynas hon yn fwy nag un o drafodion syml, gan fod y cynhyrchydd yn gallu darparu nodweddion cynnyrch y mae’r defnyddiwr yn eu gwerthfawrogi, ac mae perthynas uniongyrchol yn hwyluso deialog sy’n seiliedig ar werthoedd a rennir. Mae’r berthynas felly yn arwydd o ansawdd y cynnyrch, ffydd yn y naill a’r llall, a gwerthoedd moesegol. Mae’r berthynas gymdeithasol uniongyrchol rhwng defnyddiwr a chynhyrchydd hefyd yn rhoi teimlad i’r defnyddiwr ei fod yn ymwneud â’r fenter cadwyn gyflenwi bwyd fer, gan roi ymdeimlad o deyrngarwch, bodlonrwydd a boddhad personol. Mae hyn yn bwysig gan y gall y nodweddion yma fod yn gryfach na meini prawf eraill pwysig y defnyddiwr, a all fel arall atal cwsmeriaid rhag prynu ar gadwyn gyflenwi bwyd fer fel cyfleustra a phrisiau cystadleuol.

Mae byrhau cadwyn gyflenwi hefyd yn cynyddu’r manteision posibl ar gyfer y cynhyrchydd. Wrth i’r nifer o weithredwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi leihau, mae cynhyrchwyr yn gallu cadw cyfran fwy o’r buddion economaidd a chymdeithasol. Er enghraifft, gan fod cynnyrch mewn cadwyn gyflenwi fer yn aml yn cael y prisiau gorau, gellir addasu’r prisiau, gan adael i gyfran fwy o’r elw aros ym musnes y fferm. Bydd osgoi gweithredwyr yn y canol hefyd yn golygu y gall ffermwyr ddatblygu strategaethau marchnata unigol ar sail cryfderau eu cynnyrch, eu system gynhyrchu, neu hyd yn oed amgylchedd y fferm i gyd. Mae cadwyni cyflenwi bwyd byr hefyd yn helpu ffermwyr i gadw gwerth yn eu cymunedau lleol. Bydd hyn yn digwydd achos bod byrhau cadwyni cyflenwi yn aml yn gofyn am ehangu perthynas broffesiynol. Gall hyn arwain at gyfraddau cyflogaeth uwch gyda busnesau lleol yn yr ardal leol. 

 

Beth sydd ei angen i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd byr?

Yn ychwanegol at farchnadoedd ffermwyr traddodiadol a siopau fferm, mae’r cadwyni cyflenwi bwyd byr sy’n bodoli hefyd yn cynnwys gwerthiannau uniongyrchol ar y fferm, cynlluniau blychau, gwerthiannau uniongyrchol ar y rhyngrwyd, casglu eich hun, adwerthwyr bwyd arbenigol, a rhwydweithiau cymunedol. Mae’r creadigrwydd angenrheidiol i sefydlu dulliau gwerthu fel y rhain yn golygu bod cadwyni cyflenwi bwyd byr yn gofyn i gynhyrchwyr ddod yn entrepreneuriaid a rheoli amrywiaeth o wahanol agweddau ar fusnes. Gall y rhain gynnwys datblygu cynnyrch, cynhyrchu, prosesu, pecynnu a brandio, marchnata, a hyrwyddo. Bydd llwyddiant yn y meysydd hyn yn hwyluso datblygiad perthynas rhwng cynhyrchwyr, gweithredwyr lleol yn y canol a defnyddwyr. Mae sefydlu perthynas o’r fath yn bwysig oherwydd bod ymchwil yn awgrymu bod rhwydweithiau a gefnogir gan gymunedau yn allweddol er mwyn i gadwyni cyflenwi bwyd byr ffynnu. Mae hyn yn wir oherwydd y gall gymryd blynyddoedd i gynhyrchwyr a gweithredwyr rhanbarthol lunio perthynas gyda defnyddwyr lleol a chreu’r seilwaith i fodloni a chreu mwy o alw gan ddefnyddwyr yn effeithiol. Ond, ar ôl llwyddo i sefydlu rhwydweithiau o’r fath, mae gan gadwyni cyflenwi bwyd byr fwy o obaith o fod yn gynaliadwy ac o oroesi.

Gyda gwaith datblygu galw ac ehangu sylweddol, gall rhai cadwyni cyflenwi bwyd byr gynnwys nifer o gynhyrchwyr gwahanol a bod â’r potensial i ddod yn ganolbwynt i sector amaethyddol y rhanbarth. Gall hyn arwain at weld cynnyrch yn dod yn gynhyrchion o darddiad dynodedig sydd â statws daearyddol a warchodir, fel Champagne, sydd yn rhanbarth ac yn gynnyrch. Mae’r enghreifftiau eraill o gynhyrchion o darddiad dynodedig o’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Hufen Bwthyn o Gernyw, caws Wensleydale o Swydd Efrog, Selsig Cumberland, Tatws Cynnar Sir Benfro, Cig Oen Mynyddoedd Cambrian, Cig Oen Morfa Heli Penrhyn Gŵyr, a Chig Eidion Cymru.

Mae siopau fferm (chwith), mentrau casglu eich hun, a gwerthiannau rhyngrwyd yn ddulliau cyffredin a ddefnyddir gan gynhyrchwyr i ryngweithio gyda defnyddwyr a chreu cadwyni cyflenwi bwyd byr. Bydd cadwyn fer yn galluogi cynhyrchwyr i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy frandio a marchnata unigryw (de).

 

Yn naturiol, gydag unrhyw fodel busnes mae rhai risgiau. Canfu un astudiaeth  oedd yn gwerthuso cryfderau a gwendidau chwe chadwyn gyflenwi bwyd fer oedd yn destun astudiaeth achos mai un anfantais gyffredin oedd nad oedd gwerthiannau o farchnadoedd ffermwyr yn ddibynadwy. O ganlyniad, mae nifer o fusnesau yn dewis cyfyngu eu presenoldeb mewn marchnadoedd ffermwyr, yn hytrach yn dewis cyflenwi sefydliadau arlwyo ac adwerthu annibynnol gan fod y rhain yn cael eu hystyried yn ddewisiadau mwy dibynadwy. Anfantais arall gyffredin i nifer o fusnesau oedd costau dosbarthu uchel. Roedd y costau yma yn cael eu tynnu pan oedd gwerthiannau y tu allan i’r ardal leol yn ehangu, a’r pellter rhwng cynhyrchwyr a’r adwerthwyr yn cynyddu. Mae’r risg hon, fodd bynnag, yn anodd ei lliniaru gan y gall y galw lleol am rai cynhyrchion fod yn gymharol isel. Dynodwyd risgiau eraill yn gysylltiedig â sectorau penodol, fel cyflenwi cig ffres, hefyd gan yr astudiaeth. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg staff lladd-dy a chigyddiaeth medrus, neu fod lladd-dy neu fan i fygu cig yn cau.

Roedd un prosiect, Arloesedd Ewropeaidd, yn cynnwys pum teulu amaethyddol, yn anelu at ddatblygu’r grŵp Cig Eidion Mynyddoedd Cambrian. Er bod y grŵp wedi ei sefydlu yn barod gyda chigydd arlwyo yn cyflenwi bwytai ym mhen drud y farchnad, roedd y grŵp eisiau rheoli ac ehangu eu cadwyn gyflenwi. Canfu’r prosiect bod rhoi sgiliau cigyddiaeth i’r cenedlaethau iau mewn teuluoedd amaethyddol yn hanfodol i’r busnes gael sicrwydd tymor hir. Roedd cynnwys aelodau iau o’r tîm hefyd yn galluogi’r busnes i ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer eu brand yn cynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein a gwefan i’r busnes.

 

Crynodeb

Mae datblygu cadwyn gyflenwi bwyd fer yn ffordd greadigol o ehangu ac arallgyfeirio busnes fferm. Caiff cynhyrchwyr mewn cadwyn gyflenwi fwyd fer gyfle i frandio a marchnata cynnyrch yn ôl ei rinweddau a’i werth unigol, gan roi’r cyfle i gael y prisiau gorau. Bydd lleihau’r nifer o weithredwyr yn y canol yn y gadwyn gyflenwi hefyd yn cynyddu’r gyfran o’r elw sy’n cael ei dychwelyd yn uniongyrchol i fusnes y fferm. Ond, mae sefydlu a chynnal cadwyn gyflenwi fer yn gofyn am sgiliau arbenigol, ac yn dibynnu ar i’r cynhyrchydd ddeall a bodloni anghenion a gofynion y defnyddiwr.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr