Bydd miloedd o ddefaid magu a defaid stôr yn cael eu symud o amgylch y DU dros y misoedd nesaf. Nid yw pob ffermwr yn gweld y peryglon posib a all godi wrth symud anifeiliaid wedi eu prynu i’w daliad, ac yn aml, maent mewn perygl o brynu problemau diangen i mewn.

Mae ymwrthedd i driniaeth llyngyr, afiechydon traed a chlafr yn rai o’r problemau posib a ellir eu cyflwyno i’ch fferm trwy stoc sydd wedi eu prynu. Mae astudiaethau’n dangos mai 10% o ffermwyr yn unig sy’n dilyn y gweithdrefnau cwarantin cywir ar ôl prynu defaid newydd. Mae’n debygol mai ffactorau ymarferol megis lle, amser, costau triniaeth, ac yn aml iawn, diystyru’r perygl sy’n gyfrifol am ddiffyg dilyn y gweithdrefnau cwarantin cywir.

Yn ôl yr arbenigwr defaid, Lesely Stubbings, mae tri phrif elfen i gwarantin effeithiol sydd angen i bob ffermwyr eu cofio. “Mae’n bwysig iawn i neilltuo’r holl ddefaid sy’n dod i mewn. Rwy’n argymell eu cadw i mewn neu ar iard am o leiaf 24-48 awr, lle y dylid eu trin i warchod rhag peryglon anweledol. Cofiwch - yn ystod y cyfnod hwn, dylid eu cadw ar wahân i’r brif ddiadell”.

“Dylai’r arwahanu barhau dros gyfnod o dair wythnos o leiaf. Dylai defaid newydd gael eu rhyddhau i borfa ar wahân - yn ddelfrydol, bydd y borfa wedi cynnal defaid yn ddiweddar fel bod y defaid yn cael eu cyflwyno i’r boblogaeth llyngyr,” ychwanegodd Lesley.

Er bod prynu defaid mewn da bryd cyn y tymor hyrdda yn gallu bod yn heriol, mae rhai ffermwyr yn gweld bod cadw’r holl ddefaid newydd ar wahân ac yn yr un man yn arbed amser yn y pen draw, yn enwedig wrth frechu.

Gall trefnu cyfleusterau arwahanu addas a sicrhau bod y triniaethau cywir yn rhan o weithdrefn cwarantin effeithiol ymddangos yn gostus, ond mae’n cael ei ystyried yn gyfran fechan o’r gost  pe byddech wedi cyflwyno CODD neu glafr i’ch diadell. Gall clafr gymryd hyd ar chwe mis i ymddangos, ac erbyn hyn, bydd mwyafrif y mamogiaid magu wedi’u heffeithio, yn ogystal â’r ŵyn ifanc.

Gall prynu ymwrthedd anthelminitig hefyd fod yn fygythiad mawr i’r ddiadell. Dychmygwch y costau cysylltiedig â methu defnyddio unrhyw un o’r tri phrif driniaeth llyngyr yn effeithiol. Byddwch yn wyliadwrus.

Mae bob amser yn anodd rhoi amcan o risg trosglwyddo afiechyd a geir gan stoc wedi eu prynu, gan nad ydynt gan amlaf yn tueddu i ddangos unrhyw arwyddion y gallant fod yn fygythiad i’ch stoc. Gall rhai problemau megis ymwrthedd anthelminitig beidio â dod i’r amlwg nes ychydig fisoedd neu flynyddoedd yn hwyrach. Erbyn hyn, mae’r difrod wedi ei wneud.

Mae Clwy’r Traed, Orff, CODD, CLA a Maedi Visna ar restr y peryglon posib wrth brynu stoc. Nid yw’r rhain bob amser yn weledol, gallwch brofi am rai ohonynt, a gall rhai cymryd blynyddoedd i ymddangos.

Mae SCOPS (Sustainable Control of Parasites in Sheep) wedi argymell triniaeth ar gyfer llyngyr main a chlafr sydd ag ymwrthedd. Mae eu hargymhelliad yn seiliedig ar yr egwyddor o roi dau anthelminitig sbectrwm eang, y ddau ohonynt gyda lefel isel o risg ymwrthedd, sy’n sicrhau bod 100% neu mor agos â phosib o’r llyngyr yn cael eu lladd.

Maent yn awgrymu dau opsiwn ar gyfer trin llyngyr sydd ag ymwrthedd: Drensh gydag un ai Zolvix neu Startec a brechu gydag 1% Moxidectin, neu ddrensh gydag un ai Zolvix a Startect a drensh moxidectin. Os defnyddir Footvax, mae SCOPS yn awgrymu cymryd lle’r 1% moxidectin gydag un ai 2% moxidectin neu Doramectin.

Maent yn awgrymu dau opsiwn ar gyfer trin clafr:  bod y defaid wedi eu gwarchod gan y brechiad Moxidecton a roddwyd wrth drin llyngyr oedd ag ymwrthedd, neu drochi mewn dip O. Mae SCOPS yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd cydymffurfio gyda rheoliadau cyfnod cilio.

Wrth fynd i’r afael â llyngyr yr iau, mae elfen o asesiad risg yn bresennol. Dylai ffermwyr ystyried perygl trosglwyddo llyngyr yr iau o’r fferm wreiddiol, ac felly dylai drin yr anifeiliaid. Mae hefyd yn bwysig bod ffermwyr yn ymwybodol o’u statws llyngyr yr iau eu hunain er mwyn dewis y driniaeth fwyaf effeithiol.

Os oes hanes o lyngyr yr iau ar y fferm sy’n derbyn, dylai’r driniaeth fod wedi’i anelu at atal afiechyd yn y defaid sy’n dod i mewn yn ogystal ag atal trosglwyddo llyngyr yr iau sy’n ymwrthod â Triclabendazole ar y fferm.

Mae SCOPS yn argymell amrywiaeth o opsiynau ar gyfer defaid sy’n dod i mewn. Mae’r opsiwn cyntaf yn cynnwys trin y defaid sy’n dod i mewn gyda Triclabendazole, er dylid dilyn hyn gydag ail ddrensh i sicrhau ei fod wedi gweithio’n effeithiol. Gallai fod angen dilyn y driniaeth gyda Closantel neu Nitroxynil chwe wythnos yn ddiweddarach.

Yr ail ddewis yw trin defaid sy’n dod i mewn gyda Closantel neu Nitroxynil ddwywaith, bythefnos ar wahân. Mae’n rhaid i’r anifeiliaid bori porfeydd sydd â lefel isel o risg rhwng triniaethau, ac yn dilyn yr ail driniaeth os yn bosib. Os nad yw anifeiliaid mewn perygl uniongyrchol o afiechyd, gellir oedi’r driniaeth nes iddynt gael eu cadw dan do am o leiaf 5-6 wythnos. Yn yr achos hwn, dim ond un driniaeth sydd ei angen.

 

Gallwch lawr lwytho taflen “Know Your Anthelminitics’ SCOPS 2015 drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.scops.org.uk <http://www.scops.org.uk&gt;

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr