Ymunwch â'r arbenigwyr o dîm Cyswllt Ffermio wrth iddynt agor y llen ar yr astudiaethau llinell sylfaen hanfodol a gynhaliwyd o fewn Rhwydwaith Ein Ffermydd.

Yn y bennod hon, rydym yn edrych yn fanwl ar y broses o gasglu data a chamau ymarferol asesiadau sy'n canolbwyntio ar reoli coetiroedd, gwella bioamrywiaeth, ac ôl troed carbon ar y fferm. Mae'r tîm yn trafod sut mae'r astudiaethau manwl hyn yn nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd busnes a stiwardiaeth amgylcheddol.

Darganfyddwch: Diben a chanfyddiadau astudiaethau llinell sylfaen coetiroedd, bioamrywiaeth a charbon.

- Enghreifftiau o sut mae'r canfyddiadau hyn wedi llunio arbrofion newydd ar y fferm.
- Cyngor ymarferol i ffermwyr ar sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Y camau ymarferol cyntaf y gall ffermwyr eraill eu cymryd i baratoi ar gyfer asesiadau tebyg ar eu ffermydd eu hunain ac i'w rhoi ar waith.

Mae'n bwysig i unrhyw ffermwr sy'n edrych i feincnodi agweddau allweddol ar eu system a gwella gwerth amgylcheddol eu busnes fferm wrando ar y podlediad.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 129 - Ffermio'n ddoethach, nid yn galetach: Llwyddiant Wallog i Arbed Dŵr
Yn y bennod hon o Glust i’r Ddaear, mae'r cyflwynydd Ifan Jones
Rhifyn 128- Mantais Amaethgoedwigaeth – lloches, pridd a da byw
Gwrandewch i ddarganfod pam mae mwy a mwy o ffermwyr yn plannu
Rhifyn 127 - Defnyddio synwyryddion acwstig i fonitro bioamrywiaeth ffermydd
Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well nag unrhyw un - ond gall