Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn ystod un o 15 digwyddiad fferm arddangos Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd drwy gydol mis Medi 2024. Rydym ar Fferm Lower House ger Llandrindod gyda Robert a Jessica Lyon. Maent yn ffermio 146 hectar ac yn rhedeg menter gymysg, gan wyna 900 o famogiaid yn ogystal â 32,000 o frwyliaid. Maen nhw hefyd yn pesgi 150 o heffrod croes Belgian Blue yn flynyddol.  

Mae Fferm Lower House wedi treialu cynnwys pys a ffa a brynwyd i mewn yn y dogn i famogiaid cyfeb y gaeaf diwethaf er mwyn cynyddu gwytnwch a lleihau ôl troed carbon ei fferm, mae Robert eisiau tyfu cymaint â phosibl o’r dwysfwyd ar y fferm. Maent wedi cychwyn ar brosiect ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio i werthuso sut y gallai pys a ffa eu helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Gwrandewch ar y podlediad i gael clywed y canfyddiadau!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 107 -Cloffni mewn Gwartheg Llaeth: Pennod 2
Mae Sara Pedersen yn ymweld â Fferm Maenhir, Hendy-gwyn ar Daf
Pennod 106: Rhifyn Arbennig gyda Mari Lovgreen ac Ifan Jones Evans
Gwrandewch ar rifyn arbennig o bodlediad Clust i’r Ddaear sy’n
Rhifyn 105 - Gwella Effeithlonrwydd ar fferm Glascoed, Y Drenewydd
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files