Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House, Llandrindod. Y tro hwn cawn glywed gan Dr Rhys Jones, Darlithydd o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth. Daw Rhys yn wreiddiol o Ogledd Cymru, ac fe’i magwyd ar fferm bîff a defaid yr ucheldir. Mae'n dal i gymryd diddordeb mawr yn y fferm deuluol yn ogystal â materion Amaethyddol ehangach. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes parasitoleg filfeddygol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu technegau rheoli parasitiaid cynaliadwy ar gyfer cynhyrchwyr da byw.

Mae Rhys yn trafod sut mae Rob Lyons wedi bod yn rhan o brosiect ehangach sy’n cynnwys 16 fferm sy’n edrych ar Lyngyr yr Iau. Wrth i boblogaethau llyngyr yr iau ddatblygu ymwrthedd yn gyflym i rai triniaethau cyffuriau, mae'n rhaid defnyddio strategaethau rheoli amgen sy'n canolbwyntio ar osgoi haint trwy bori a rheoli tir ar ffermydd. Fodd bynnag, er mwyn i’r mesurau hyn fod yn effeithiol, mae’n hollbwysig ein bod yn gallu nodi’n gywir yr ardaloedd lle mae risg o haint llyngyr yr iau ar ffermydd a chaeau.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pennod 124 - Datrysiadau ynni adnewyddadwy mewn tirwedd sy'n esblygu
Croeso i drafodaeth sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth
Pennod 123 - Datguddiad y Pridd: Sut arweiniodd arbed arian at ffermio adfywiol gyda Stuart Johnson
Croeso i bennod arall o bodlediad Clust i'r Ddaear Cyswllt