Ymunwch ag Ifan Jones Evans ar gyfer yr ail bennod yn ein cyfres arbennig ar ffermio proffidiol a chynhyrchiol yng Nghymru. Y tro hwn, rydym yn edrych yn fanwl ar systemau ffermio sy'n seiliedig ar laswellt.

Mae Ifan yn teithio i Moelogan, Llanrwst, i gwrdd â Llion a Sian Jones. Mae'r pâr arloesol ar genhadaeth i greu fferm ucheldir broffidiol gan ddefnyddio system sy'n seiliedig ar borfa, gan wthio ffiniau rheoli glaswellt dros 1,000 troedfedd. Darganfyddwch beth sydd wir yn bosibl gyda'r rheolaeth gywir yn y bennod graff hon!

Pwyntiau Allweddol:

  • Cydbwyso Cyflenwad a Galw: Paru twf glaswellt ag anghenion da byw i wneud y mwyaf o elw.
  • Dod o Hyd i'ch Cyfradd Stocio Orau posibl: Gwybod sut i'w chyfrifo ar gyfer eich fferm a'ch amodau eich hun.
  • Rheoli Glaswellt yn Well: Hybu cynnyrch ac ansawdd porfa trwy dechnegau pori.
  • Ymestyn y Tymor Pori: Anelu at fwy o ddyddiau ar laswellt, llai o ddibyniaeth ar ddwysfwyd a brynir i mewn.
  • Osgoi'r Peryglon: Deall y risgiau ariannol o dan-stocio a gor-stocio.
    Defnyddio Pori i Leihau Costau: Mae rheoli pori'n ddoethach yn golygu biliau porthiant is a gwell elw.

Mae'r gyfres hon wedi'i llunio mewn partneriaeth â Precision Grazing Ltd. Maent yn Arbenigwyr mewn mentrau da byw ac yn gweithio gyda nifer o fusnesau cofrestredig Cyswllt Ffermio i greu gwydnwch ac elw cynaliadwy.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 118 - Deall Sut i Gwblhau Cynllun Busnes Syml a Chyfrif Rheoli gydag Aled Evans, Rest Farm, Henllan
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad cyfres newydd arbennig sy'n
Rhifyn 117 - Triniaeth ddewisol wedi'i thargedu ar gyfer ŵyn
Mae Joe Angell yn filfeddyg o Ogledd Cymru sydd â dull
Rhifyn 116 - Manteision cofnodi perfformiad eich diadell
Cyfle arall i wrando yn ôl ar Sam Boon o AHDB, Uwch Reolwr Bridio