Er gwaethaf yr heriau y mae'r diwydiant twristiaeth wedi'u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf y sgil pandemig Covid-19, bu diddordeb o'r newydd mewn arallgyfeirio i fythynnod gwyliau. Gyda mwy o bobl yn ystyried aros yn y DU ar gyfer eu gwyliau, a allai hyn fod yn gyfle i fusnesau ffermio? Yn y bennod hon, rydym yn clywed stori un o’n cyd-gyflwynwyr, Jim Ellis. Mae ei deulu wedi cyfuno ffermio â thwristiaeth ers blynyddoedd lawer ac yn ddiweddar mae Jim wedi cwblhau prosiect adnewyddu mawr ar ffermdy Plas Gwyn. Tiwniwch fewn i glywed mwy am ei brofiadau a sut mae Jim wedi defnyddio'i sgiliau mewn marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol i ddefnydd da.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 109- Mae rheoli llyngyr yr iau yn llwyddiannus yn bwysig ar gyfer cynhyrchu defaid yn gynaliadwy
Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House
Rhifyn 108 - Gweithio tuag at hunangynhaliaeth o ran protein
Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn ystod un o 15 digwyddiad
Rhifyn 107 -Cloffni mewn Gwartheg Llaeth: Pennod 2
Mae Sara Pedersen yn ymweld â Fferm Maenhir, Hendy-gwyn ar Daf