Mae ffermwyr sy'n cynhyrchu silwair o fewn y 25% uchaf yng Nghymru yn sicrhau enillion cynhyrchiant sylweddol. Mae ffermwyr cig eidion yn cyflawni enillion pwysau byw dyddiol ychwanegol o 400g / pen ac mae ffermwyr llaeth yn gweld cynnyrch cynyddol o 2.2 litr o laeth / buwch / dydd, o'i gymharu â'r cyfartaledd. Yn y bennod hon, rydyn ni'n cwrdd â Dr Dave Davies o Silage Solutions Ltd i ddarganfod sut y gall gwella ansawdd eich silwair wella perfformiad ariannol eich busnes.