8 Mawrth 2023

 

Pan ddaw First Milk, un o brif gwmnïau prosesu llaeth y DU, yn galw am un o'i archwiliadau iechyd anifeiliaid rheolaidd ar Fferm Great Molleston, fferm laeth 400 erw ger Arberth, mae'r ffermwr ifanc Hannah Phillips wedi ei pharatoi'n dda.   

Mae Hannah (28) wedi canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus (CPD) drwy ei gwybodaeth rheoli lloi a symudedd gwartheg, ar ôl cwblhau hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu ar y pynciau pwysig hyn yn 2020.  Mae ganddi hefyd y dystiolaeth ofynnol i brofi ei rhinweddau dysgu i First Milk a Tesco, diolch i Storfa Sgiliau, offeryn cadw cofnodion ar-lein Cyswllt Ffermio, sy'n nodi ei holl gyflawniadau a chymwysterau.  

"Mae Cyswllt Ffermio yn diweddaru fy nghofnod Storfa Sgiliau bob tro rwy'n ymgymryd â hyfforddiant neu'n mynychu unrhyw un o'i weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth megis diwrnodau agored fferm neu grwpiau trafod.

"Mae hyn yn golygu y gallaf gael mynediad cyflym at yr holl dystiolaeth y mae First Milk, neu unrhyw sefydliadau sicrwydd fferm, yn ei hangen i ni brofi bod gennym y sgiliau angenrheidiol ar y fferm a'n bod ni'n gwybod yr arfer a rheoliadau gorau cyfredol," meddai Hannah, sy'n cyfuno ffermio gyda'i swydd ran-amser fel gweinyddwr i un o brif ddarparwyr hyfforddiant ar y tir yn Sir Benfro. 

Mae tyfu i fyny ar y fferm a gweithio ochr yn ochr â'i thad yn golygu bod Hannah wedi dysgu'r ochr ymarferol o ffermio wrth ei gwaith, ond ar ôl astudio dylunio tecstilau yn y coleg, trodd at Cyswllt Ffermio i fynd i'r afael â'r hyn roedd hi'n teimlo oedd yn fwlch yn ei gwybodaeth dechnegol amaethyddol.

"Roeddwn i'n benderfynol o ddysgu'r ddamcaniaeth y tu ôl i gymaint o'r hyn rydyn ni'n ei wneud bob dydd oherwydd mae'n hanfodol bod ein buches o thua 200 o wartheg Holstein Friesian yn bennaf yn perfformio ar eu gorau bob amser, o ran eu hiechyd a'u cynhyrchiant."

Fel rhan o grŵp caws Tesco First Milk, mae angen i Hannah a'i thad ddarparu data cywir ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd anifeiliaid, yn ogystal â thystiolaeth o'u hôl troed carbon blynyddol.  

"Mae'r hyfforddiant iechyd anifeiliaid rydw i wedi'i wneud drwy Cyswllt Ffermio nid yn unig wedi helpu'r fferm i gydymffurfio â gofynion First Milk a Tesco, ond rydym bellach yn edrych ar bopeth ar y fferm trwy bersbectif sydd wedi'i dargedu mwy ac mae canfod yn gynnar yn helpu rheoli buchesi yn fwy effeithlon," meddai Hannah.

Dywedodd Esther Stephens, Rheolwr Ardal (Cymru) ar ran First Milk bod gwneud sgôr symudedd rheolaidd, cywir o'r fuches laeth yn bwysig.

"Bydd cael y gallu i adnabod arwyddion cynnar symudedd gwael a phroblemau newydd posibl yn gynnar yn cael effaith fawr ar iechyd traed gwartheg ac iechyd y fuches yn gyffredinol, tra hefyd yn rhan bwysig o gydymffurfio â chontractau o fewn cronfeydd llaeth manwerthwyr.  

"Mae cael y cyfle i ddysgu'r sgiliau hyn drwy gyrsiau a ariennir a defnyddio Storfa Sgiliau i ddarparu cofnod personol cyfredol i dystiolaethu’r holl hyfforddiant yr ydych wedi cymryd rhan ynddo, yn adnodd defnyddiol ac unigryw iawn y byddem yn annog pob aelod i fanteisio arno," meddai Ms. Stephens.

Gan fod hyfforddiant Cyswllt Ffermio Hannah yn cael ei ddarparu gan filfeddygon fferm arbenigol ac arbenigwyr ar laeth, mae hi bellach yn gallu nodi a rheoli unrhyw broblemau iechyd posibl wrth fagu lloi, yn ogystal â nodi arwyddion cynnar o unrhyw gloffni yn y fuches odro.  

"Erbyn hyn rwy'n llawer mwy hyderus am gymaint o feysydd iechyd buchesi ac rwy’n gallu gweld arwyddion problemau posib cyn iddyn nhw effeithio ar berfformiad buwch neu gynhyrchiant llaeth." 

Mae cynlluniau Hannah ar gyfer y dyfodol agos yn cynnwys gwneud cais am ragor o hyfforddiant ar bynciau iechyd anifeiliaid perthnasol, yn ogystal â dysgu mwy am reoli pridd a glaswelltir.  Mae hi hefyd yn bwriadu cryfhau ei sgiliau drwy gyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio.

"Gyda mwy na 100 o gyrsiau ar-lein wedi'u hariannu'n llawn ar gael, rwy'n bwriadu blaenoriaethu’r math hwn o ddysgu, y gallaf ffitio i mewn i'm hamser hamdden.  

"Mae angen i bob ffermwr edrych ar y darlun ehangach, ein nod yw cael pob elfen o'r busnes yn perfformio mor effeithlon ag y gall, yn enwedig gyda'r pwyslais presennol ar leihau ôl troed carbon y diwydiant, fel y gallwn weithredu'n fwy cynaliadwy a diogelu ein hamgylchedd naturiol," meddai Hannah. 

Mae Hannah yn gobeithio y bydd hi un diwrnod yn dychwelyd i fod yn greadigol, gan wneud yr ystod o eitemau tecstilau cegin a werthodd ar-lein yn flaenorol, mewn digwyddiadau lleol a ffeiriau crefft drwy ei menter 'Cosy Barn'. 

"Rwyf hefyd yn bwriadu defnyddio rhai o opsiynau hyfforddiant rheoli busnes Cyswllt Ffermio oherwydd bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu'r fenter decstilau, a gobeithio bod hynny'n syniad arallgyfeirio y gallaf ehangu pan fydd yr amser yn iawn."  

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac ariennir y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau a gwasanaethau mentora Cyswllt Ffermio, gan gynnwys cyrsiau byr achrededig, e-ddysgu a Storfa Sgiliau, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm