Profion pellach ym Moelogan Fawr
Canlyniadau sganio 2023
|
Nifer mamogiaid |
Wyna |
Gwag |
1 |
2 |
3 |
2023 yn gyffredinol |
2022 yn gyffredinol |
Grŵp hwrdd terfynol |
212 |
21/3/23 |
3 |
73 |
123 |
13 |
169 |
174 |
Mamogiaid Cymreig |
382 |
4/4/23 |
17 |
157 |
198 |
10 |
153 |
151 |
Mamogiaid dau ddant |
268 |
4/4/23 |
23 |
168 |
76 |
1 |
121 |
136 |
Cyfanswm |
862 |
|
43 |
398 |
397 |
24 |
149 |
|
% o’r ddiadell |
|
|
5 |
46.2 |
46.1 |
2.8 |
|
|
Roedd y mamogiaid gyda’r hyrddod am ddwy gylchred oestrws llawn (5 wythnos) yn yr hydref yn 2022. Roedd sganio yn 2023 yn debyg iawn i 2022 ond roedd y gyfradd o ddefaid gwag yn uwch na’r targed o 2% ar gyfer y mamogiaid Cymreig, gan ei fod wedi cyrraedd 4.5%, a chyfradd y mamogiaid dau ddant oedd 8.6%. Gall hyn gael ei briodoli i’r haf sych iawn a’r cyfyngiad posibl ar gyfradd tyfu’r mamogiaid ifanc, ac efallai oherwydd nad oeddent wedi cyrraedd y targed o 80% o’u pwysau corff llawndwf erbyn hyrdda.
Profi dŵr
Casglwyd dau sampl dŵr ar y fferm, un o dap ar fuarth y fferm, wedi’i fwydo o ffynnon sydd yn cyflenwi’r siediau defaid a gwartheg (Buarth), a’r llall o lyn sydd yn cyflenwi’r caeau pori (Llyn).
|
Unedau |
Lefel derbyniol * |
Buarth |
Llyn |
Cyfanswm calsiwm |
mg/l |
<1000 |
10.1 |
6.7 |
Cyfanswm magnesiwm |
mg/l |
|
2.3 |
1.45 |
Cyfanswm sodiwm |
mg/l |
<400 |
3.0 |
4.9 |
Dargludedd trydan |
uS/cm |
|
87 |
66 |
Bicarbonad |
mg/l |
|
17 |
<10 |
Clorid |
mg/l |
<15,000 |
4.8 |
9.3 |
Nitrad nitrogen |
mg/l |
10 - 30 |
4.0 |
0.6 |
Nitrad |
mg/l |
45 – 132 (100) |
17.7 |
2.7 |
Sylffad |
mg/l |
<125 |
7.6 |
7.1 |
Cyfanswm copr |
mg/l |
<0.5 i ddefaid, <1.0 i wartheg |
1.16 |
0.01 |
Cyfanswm haearn |
mg/l |
<0.3 – mwy na 0.3 yn gallu blasu’n ddrwg |
0.01 |
0.4 |
Solidau toddedig |
mg/l |
<3000 |
61 |
46 |
Amonia N |
mg/l |
|
<0.1 |
<0.01 |
pH |
|
>5.5 |
6.1 |
6.3 |
Caledwch fel CaCO3 |
mg/l |
<500 (cen ar beipiau yn digwydd os yn uchel iawn). Ystyrir y dŵr hwn yn ‘feddal’. |
34.7 |
22.6 |
Carbonad |
mg/l |
|
<10 |
<10 |
Molybdenwm toddedig |
ug/l |
5 (Gall Mo leihau amsugniad copr) |
0.06 |
0.08 |
*Dehongliad dadansoddiad dŵr ar gyfer da byw Univ of Alberta (2007).
Roedd y samplau yn gyffredinol o fewn y terfynau derbyniol ar gyfer dŵr addas i dda byw. Fodd bynnag, roedd dwy elfen i’w nodi:
- y copr uchel yn y sampl Buarth (gall achosi tocsigedd mewn defaid yn benodol – er hyn, roedd y lefel yn y sampl Llyn yn isel a gan fod yr anifeiliaid ddim ond dan do am gyfnod byr, mae hyn yn annhebygol o achosi unrhyw broblemau). Mae’n bwysig ystyried holl ffynonellau copr pan yn atchwanegu i osgoi tocsigedd.
- y haearn uchel yn y sampl Llyn (gall hyn leihau blasusrwydd ac achosi cen)
Dadansoddiad mwynau ac elfennau hybrin chwe sampl glaswellt (24/8/21)
|
|
Cymedr |
Nodweddiadol |
Anghenion defaid |
|
Deunydd sych (g/kg) |
175.50 |
||
Mwynau Macro |
Ffosfforws (%) |
0.42 |
0.39 |
|
Magnesiwm (%) |
0.24 |
0.17 |
||
Calsiwm (%) |
0.79 |
0.59 |
||
Sodiwm (%) |
0.33 |
0.23 |
||
Potasiwm (%) |
2.76 |
2.77 |
||
Clorid (%) |
0.86 |
|||
CAB (mEq/kg) |
512.50 |
|||
Mwynau Micro |
Manganîs (mg/kg) |
168.25 |
102.00 |
50 |
Copr (mg/kg) |
8.45 |
9.00 |
6 + |
|
Sinc (mg/kg) |
34.05 |
51.00 |
40 |
|
Seleniwm (mg/kg) |
0.22 |
0.07 |
0.11 |
|
Cobalt (mg/kg) |
0.16 |
0.13 |
0.11 |
|
Ïodin (mg/kg) |
0.35 |
0.23 |
0.15 - 0.5 |
|
Gwrthwynebwyr |
Haearn (mg/kg) |
242.00 |
<500 |
|
Alwminiwm (mg/kg) |
102.50 |
<300 |
||
Molybdenwm (mg/kg) |
1.37 |
1.32 |
<1.5 |
|
Sylffwr (%) |
0.44 |
0.25 |
<0.25 |
|
Plwm (mg/kg) |
0.53 |
Casglwyd samplau glaswellt ffres yn Awst 2021 ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer dadansoddiad mwynau.
Dangosodd y canlyniadau sinc isel (gall fod yn berthnasol i gloffni), ïodin isel yn y gaeaf a sylffwr uchel (fyddai’n gallu effeithio ar argaeledd copr).
Mae sinc yn bwysig ar gyfer gwella clwyfau, cyfanrwydd croen a chyrn a twf charnau ond mae diffygion yn anghyffredin yn y DU.
Mae ïodin yn elfen allweddol ar gyfer gweithrediad hormon thyroid a rheolaeth o raddfa metabolaidd. Mae hefyd yn hanfodol, ynghyd â selemiwm, ar gyfer symudiad braster brown mewn ŵyn newydd-anedig gan helpu i osgoi hypothermia yn yr ychydig oriau cyntaf o fywyd. Mae ganddo swyddogaeth allweddol mewn ffrwythlondeb ac iechyd.
Mae copr, er yn ddigonol ar gyfer defaid ond yn is na’r targed ar gyfer gwartheg yn y samplau hyn, ynghlwm â nifer o systemau ensym yn y corff. Mae’n hanfodol ar gyfer ffrwythlondeb (cychwyn oestrws) a metabolaeth egni mewn da byw. Un symptom allweddol o ddiffyg copr yw cyflwr ‘tindro’ (‘swayback’) mewn ŵyn, gan fod copr hefyd ynghlwm â datblygiad nerfau. Mae ei argaeledd yn cael ei effeithio’n negyddol gan lefelau uchel o sylffwr, molybdenwm a haearn.
Rhoddwyd bolws i’r mamogiaid i gyd (gan gynnwys copr ar ddechrau Hydref).
Ffocws ar faeth mamogiaid cyn wyna
Dadansoddiad silwair 2022
|
Clamp silwair ochr dde |
Clamp silwair ochr chwith |
Cymedr |
% Deunydd sych |
44.7 |
43.9 |
44.3 |
% Protein crai |
12.1 |
12.4 |
12.3 |
Amonia N (% o’r cyfanswm N) |
2.5 |
2.5 |
2.5 |
pH |
4.3 |
4.4 |
4.4 |
ME (MJ/kgDM) |
10.4 |
10.4 |
10.4 |
Gwerth D |
65 |
65 |
65 |
Dognau mamogiaid
Mae hi’n ymarfer cyffredin ar y fferm i bori’r mamogiaid ar swêj hyd at oddeutu pythefnos cyn wyna, ac yna eu symud dan do i wyna ar silwair a deiet cyfansawdd. Mae hyn wedi gweithio’n dda iawn yn y gorffennol ac mae’r mamogiaid wedi wyna gyda cholostrwm o safon a digonedd o laeth. Ar gyfer y dogn dan do, mae’r deiet yn seiliedig ar ME, FME, ERDP a DUP o 10.4 MJ/kgDM, 8.4 MJ/kgDM, 82 mg/kgDM a 18.4 mg/kgDM yn ôl eu trefn.
Roedd cymeriant silwair wedi’i amcangyfrif ar tua 1.6% o bwysau’r corff – neu 1.1kg o bwysau sych silwair (2.5kg pwysau ffres ar gyfer mamogiaid 70kg) hyd at yr wythnos olaf cyn wyna, yna efallai byddai gostyngiad yng nghymeriant silwair i tua 1.0kg pwysau sych neu 2.2kg deunydd ffres. Mae risg wrth fwydo swêj y bydd y mamogiaid yn fyr o brotein yn y dair wythnos olaf cyn iddynt wyna.
Gofynion egni mamog 70 kg (MJ/dydd).
MJ/dydd |
Wythnosau cyn wyna |
||
|
5 |
3 |
1 |
Defaid ag un oen |
11.2 |
12.6 |
14.4 |
Gefeilliaid |
13.1 |
15.3 |
18.3 |
Tripledi |
14 |
16.7 |
20.3 |
Dognau bwyd cyfansawdd gyda silwair yn ad-lib.
Bwyd cyfansawdd kg/mamog/dydd |
Wythnosau cyn wyna |
||
|
5 |
3 |
2 |
Defaid ag un oen |
- |
0.15 |
0.35 |
Gefeilliaid |
0.2 |
0.4 |
0.7 |
Tripledi |
0.3 |
0.55 |
0.9 |
Yn ddelfrydol, mae angen i’r bwyd cyfansawdd fod yn cynnwys tua 19/20% o brotein crai. Unwaith y mae mwy na 0.5kg yn cael ei fwydo ar unwaith, yna dilyd rhannu i ddau sesiwn fwydo y pen fesul diwrnod. Dylid rhoi digon o borthiant i unrhyw famogiaid tenau ar gyfer un oen yn ychwanegol i’r hyn y maent yn ei gario.
Proffiliau metabolig
Cafodd samplau gwaed y mamogiaid eu cymryd ar 21/2/23 tua 4 wythnos cyn wyna er mwyn asesu digonolrwydd y deiet pan fo’r mamogiaid yn pori’r swêj. Roedd sgôr cyflwr corff (BCS) y defaid ag un oen yn 2.4 ar gyfartaledd (2.0 to 3.0) ac yn 2.8 ar gyfer yr efeilliaid (2.25 – 3.5). O ganlyniad, roedd y BCS cyfartalog o dan y targed ar gyfer y cyfnod hwn o’r beichiogrwydd.
Profwyd y gwaed ar gyfer:
- BOHB – ‘beta-hydroxybutyrate’ – dangosydd statws egni
- Wrea – dangosydd cymeriant protein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen
- Albwmin – dangosydd maeth protein hirdymor a phroblemau iechyd gwaelodol
- Magnesiwm – dangosydd digonedd o fagnesiwm
- Copr – dangosydd tocsigedd neu diffyg copr posibl
Gall cymeriant annigonol hirfaith o ERDP effeithio swyddogaeth rwmen, colostrwm a chynhyrchiant llaeth, a twf y ffetws. Yn yr un modd, mae albwmin isel yn ddangosydd o gyfradd goroesi isel mewn ŵyn o ganlyniad.
Canlyniadau (Prifysgol Caeredin 21/2/23) – 17 o famogiaid wedi’u profi, 10 o efeilliaid a 7 o ddefaid ag un oen.
|
BOHB (mmol/l) |
Urea (mmol/l) |
Albwmin (g/l) |
Magnesiwm (mmol/l) |
Copr (umol/l) |
|||||
|
cymedr |
amrediad |
cymedr |
amrediad |
cymedr |
amrediad |
cymedr |
amrediad |
cymedr |
amrediad |
Gefeilliaid |
0.41 |
0.24-0.61 |
1.56 |
0.79-1.48 |
24.84 |
22.6-28.6 |
0.98 |
0.83-1.18 |
16.61 |
13.16-20.91 |
Defaid ag un oen |
0.38 |
0.27-0.44 |
1.11 |
0.5-2.2 |
22.21 |
18.2-28.6 |
0.81 |
0.6-1.01 |
17.5 |
10.94-23.02 |
Trothwy |
<0.9 |
>1.7 |
30 |
0.7-1.3 |
9.0 -19 |
Mae’n amlwg o’r canlyniadau fod y mamogiaid i gyd yn brin o brotein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen tra’n pori swêj, sydd ddim yn syfrdanol oherwydd cynnwys protein isel swêj o 9.5% o brotein crai yn y deunydd sych. Roedd hefyd arwydd fod cyflenwad protein hirdymor hefyd yn gyfyngol gan fod albwmin yn y gwaed o dan y targed o 30g/l. Gall Hypalbuminaemia darddu o gyflyrau amrywiol a gall llyngyr cronig fod yn un achos. Gan fod y mamogiaid wedi’u trin ar gyfer llyngyr yr iau ar 5/1/23 gyda closantel (Flukiver), cynghorwyd i gymryd samplau ysgarthol ar gyfer asesu effeithiolrwydd y driniaeth. Os gellir cadarnhau nad oes clefydau fel ‘endoparasitism’, cloffni a chlafr yn bodoli, mae’n debygol fod y lefelau isel o albwmin o ganlyniad i gymeriant protein isel ar ddechrau’r gaeaf. Cafodd y mamogiaid eu brechu yn erbyn clwy’r traed (Footvax) ar 8/2/23.
Cafodd Sian and Llion gyngor (28/2/23) i symud y mamogiaid oddi ar y swêj i ddeiet yn seiliedig ar silwair gyda bwyd cyfansawdd neu i borfa er mwyn gwella eu cymeriant protein yn gyflym. Symudwyd y mamogiaid o dan do ar y 5ed o Fawrth.
Profwyd y mamogiaid gwag yn negyddol ar gyfer y clefydau’r Ffin a Johne’s ond roedd un o’r 8 mamogiaid yn bositif ar gyfer tocsoplasmosis.
Kate Phillips, Mawrth 2023