*Nid yw Elin yn gallu derbyn ceisiadau mentora ar hyn o bryd. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.*
Pam y byddai Elin yn fentor effeithiol
- Magwyd Elin, sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, ar fferm fynydd yng Nghwm Eidda, Eryri. Roedd hi bob amser yn mwynhau helpu gyda dyletswyddau fferm, ond ei hangerdd o oedran cynnar oedd gweithio gyda diadell o 300 o ddefaid Mynydd Cymreig, ac mae’n dweud bod hynny wedi meithrin pwysigrwydd gweithio gyda chŵn defaid wedi’u hyfforddi’n dda ynddi.
- Gyda thad Elin eisoes yn ymwneud yn helaeth â bridio, hyfforddi a chystadlu gyda’u cŵn defaid, a rhai o’i naw brawd a chwaer yn cymryd diddordeb hefyd, nid oedd yn syndod iddi ddatblygu ei diddordeb gydol oes ei hun hefyd.
- Buan iawn y datblygodd lygad am ddewis cŵn bach o dorllwythi’r teulu ei hun (‘un o fy hoff bethau erioed’), a chydag arbenigwyr o’i chwmpas yn hapus i drosglwyddo eu gwybodaeth, dysgodd yn gyflym y sgiliau trin sydd eu hangen i hyfforddi ei chŵn ei hun.
- Yn ei harddegau cynnar, roedd Elin yn mynd gyda’i thad i’w wylio’n cystadlu ac yn beirniadu cystadlaethau mor bell i ffwrdd â’r Iseldiroedd a’r Eidal. Erbyn 14 oed, roedd hithau hefyd yn cystadlu ac yn ennill nifer o wobrau ‘categori ieuenctid’. Y dyddiau hyn, mae galw mawr hefyd am Elin, sydd bellach yn athrawes ysgol gynradd lawn amser, fel beirniad mewn treialon cŵn defaid ledled Cymru a thu hwnt, er ei bod yn dal i fwynhau llwyddiant fel cystadleuydd hefyd.
- Yn 2010, fe’i gwahoddwyd i gymryd rhan yn y gyfres deledu boblogaidd ‘One man and his dog’, a dywed ei fod yn gyfle gwych. Yn ei harddegau cynnar, dechreuodd gystadlu gyda’i hast, Eryri Taran, gyda llwyddiant sylweddol mewn treialon cŵn defaid Rhyngwladol yn Cumbria.
- Gwahoddwyd Elin hefyd i hyfforddi'r hyfforddwyr ar gyfer cyrsiau hyfforddi Bwrdd Gwlân Prydain.
- Fel athrawes ysgol, mae gan Elin yr holl sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i ysbrydoli ac annog eraill – o unrhyw oedran – i drin a hyfforddi eu cŵn gwaith, sydd â rôl hollbwysig wrth helpu ffermwyr i reoli eu diadelloedd defaid yn effeithiol.
- Yn gyfathrebwraig dda yn y Gymraeg a’r Saesneg, cewch eich ysbrydoli gan ddull tawel a chyson Elin a byddwch yn dysgu sut i efelychu’r cwlwm y mae’n amlwg wedi’i feithrin gyda’i chŵn gwaith ei hun.
Busnes fferm presennol
- Yn ddiweddar, cymerodd Elin a'i gŵr fferm bîff a defaid 600 erw ger Llanrwst drosodd ar gytundeb ffermio cyfran.
- Mae'r cwpl ar hyn o bryd yn adeiladu diadell newydd o famogiaid Mynydd Cymreig
- Buches o 50 o wartheg magu Henffordd
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Prifysgol Aberystwyth - BSc mewn Amaethyddiaeth a Busnes
- Prifysgol Bangor - Cwrs Hyfforddi Athrawon
- Ysgol Bro Elwern - Athrawes gynradd
- Cyn aelod o CFfI Ysbyty Ifan a chyn-ysgrifennydd Bugeiliaid Nant Conwy
- Ysgrifennydd Treialon Cŵn Defaid Ysbyty Ifan
- Ysgol Gynradd Capel Garmon - Pennaeth Cynorthwyol
Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes
“Rhaid bod gennych chi ddigon o amynedd, oherwydd mae angen i chi feithrin perthynas agos â'ch ci, dysgu ymddiried yn eich gilydd a mwynhau'r daith!”
“Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio gyda chi ifanc am y tro cyntaf, disgwyliwch ddyddiau da ond heriau hefyd; bydd ymagwedd gyson, gydag ymarfer dyddiol rheolaidd yn galluogi’r ddau ohonoch i wella.”