15 Mai 2023

 

A ydych chi’n arddwriaethwr sefydledig, neu’n un o lawer o dyfwyr masnachol arbenigol ar raddfa fach Cymru? Neu efallai eich bod yn dirfeddiannwr sy'n chwilio am gyfle arallgyfeirio cynaliadwy newydd? Mae Cyswllt Ffermio eleni yn estyn allan nid yn unig i ffermwyr, ond hefyd at yr holl dyfwyr garddwriaethol masnachol sefydledig a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r sector hwn sy'n ehangu'n gyflym.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn esbonio bod y rhaglen arddwriaeth - 'Tyfu ar gyfer Twf' - yn un o wasanaethau mwyaf newydd Cyswllt Ffermio. Wedi’i lansio fis diwethaf fel gwasanaeth ychwanegol pwysig o fewn y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd yr holl wasanaethau cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant yn parhau i gael eu darparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru.  

“Garddwriaeth fasnachol yw un o’r diwydiannau arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU gydag arbenigwyr eisoes yn rhagweld cymaint â 25% o gynnydd mewn busnes newydd dros y blynyddoedd nesaf. 

“Mae llawer o siopwyr a ddaeth i drefn newydd o ‘brynu’n lleol’ yn ystod y pandemig wedi parhau i gefnogi siopau fferm a chynhyrchwyr lleol eraill a’r newid hwn mewn patrymau prynu, ynghyd â defnyddwyr heddiw, sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac yn benderfynol o chwilio am gynnyrch ‘wedi’i dyfu’ yn hytrach na chynnyrch ‘wedi’i gludo’ sy’n cael ei fewnforio o wledydd eraill, wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw.”  

Bydd rhaglen ‘Tyfu ar gyfer Twf’ Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ar gyfer ystod enfawr o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n cynnig ffrwythau, coed ffrwythau gan gynnwys mathau treftadaeth, blodau, llysiau, cynnyrch salad, perlysiau a sbeisys, bwydydd nad ydynt yn fwytadwy, addurniadau, helyg, pwmpenni a grawnwin, i goed Nadolig a llawer mwy o opsiynau cyffrous. 

“Mae ymchwilio i beth i'w dyfu, plannu, meithrin, tocio, bwydo ac impio i gyd yn rhan annatod o'r hyn sydd ei angen i redeg menter arddwriaeth lwyddiannus yng Nghymru ac mae'r rhain i gyd yn feysydd y gallwch ddysgu amdanynt gyda'n cefnogaeth ni,” meddai Mr. Thomas. 

Bydd tîm Cyswllt Ffermio wrth law i hyrwyddo pob elfen o’r gwasanaeth, gan gynnwys y ddarpariaeth hyfforddiant ac e-ddysgu, sydd i gyd naill ai wedi’u hariannu hyd at 80% neu’n cael eu hariannu’n llawn. Bydd hyn yn berthnasol i bawb sydd am gryfhau naill ai sgiliau ymarferol neu dechnegol, neu i wella eu gwybodaeth am bynciau busnes, ariannol a marchnata gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol. 

I gael rhagor o wybodaeth am Cyswllt Ffermio a’i ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth, arweiniad a hyfforddiant neu i wirio meini prawf cymhwysedd, cliciwch yma neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu