Osian Jones
Llanbrynmair, Powys
Mae Osian Jones, mab fferm, yn rhagweld taith o ddarganfod, dysgu a chyfeillgarwch wrth iddo gychwyn ar Raglen Iau yr Academi Amaeth.
Cafodd Osian ei fagu ar fferm bîff a defaid ei rieni, Ystrad Fawr, ac mae ar hyn o bryd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen lle mae'n astudio Cymraeg, Daearyddiaeth, Dylunio Cynnyrch, ac Amaethyddiaeth.
Mae’n aelod gweithgar ac ysgrifennydd y wasg yn CFfI Llanbrynmair a Charno lle mae’n mwynhau gwahanol weithgareddau gan gynnwys barnu stoc ac ymweliadau fferm.
Mae hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol gan gynnwys y sioe leol a chymryd rhan mewn gwasanaethau yn yr Hen Gapel yn Llanbrynmair.
Mae Osian yn bwriadu parhau â'i astudiaethau yn y brifysgol, gyda rheoli tir ymhlith nifer o opsiynau gyrfa y mae'n eu hystyried ar hyn o bryd.
Mae'n edrych ymlaen at ehangu ei orwelion a chwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg i'w rai ef ar Raglen Iau yr Academi Amaeth.
Mae'n edrych ymlaen yn eiddgar at yr ymweliad tramor â'r Iseldiroedd yn benodol.