Cerys Mai Jenkins
Llanddowror, Sir Gaerfyrddin
O’r diwrnod y bu iddi gyfarfod â’i buwch gyntaf a hithau ond ychydig wythnosau oed, mae Cerys Mai wedi bod yn frwd dros ffermio a da byw.
Bellach, yn 17 oed, mae ganddi wartheg Jersey pur ei hun ar fferm y teulu yn Great Bishops Court o dan y rhagddodiad, Jerseys Dyfroedd.
Mae Cerys Mai yn rhannu ei hamser rhwng astudio am Ddiploma Lefel 3 mewn Gwyddor Anifeiliaid yng Ngholeg Hartpury a threulio amser gartref ar y fferm lle mae’r teulu’n cynhyrchu llaeth, cig oen, a chig oen.
“Wrth weld sut mae rhai pethau fel TB yn effeithio ar ffermwyr, fy nheulu a minnau, penderfynais astudio cwrs sy'n berthnasol i hyn er mwyn sicrhau y gallaf helpu i wneud gwahaniaeth yn y dyfodol,'' meddai.
Mae Cerys Mai hefyd yn mwynhau arddangos gwartheg yng nghylch y sioe, gan ddangos Gwartheg Bîff Byrgorn a Henffordd pur, ac mae’n bwriadu gwneud yr un peth un diwrnod gyda’i gwartheg ei hun ac o bosibl arddangos defaid hefyd.
Yn fabolgampwraig ddawnus, sydd wedi chwarae nifer o chwaraeon ar hyd ei hoes, criced yw ei hoff chwaraeon. Ar ôl chwarae ar lefel uchel am rai blynyddoedd, fe wnaeth anaf ei gorfodi i ymddeol o'r gamp ond mae hi'n cymryd rhan weithredol o hyd, fel sgoriwr tîm Creseli 1af XV am yr ail dymor yn olynol.
Wrth iddi edrych i’r dyfodol, mae Cerys Mai yn gobeithio astudio am radd mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid neu fiowyddorau milfeddygol a chael ei busnes ffermio ei hun gartref gyda’i theulu.
Fel aelod o Raglen Iau yr Academi Amaeth, mae’n awyddus i ddysgu mwy am systemau ffermio yng Nghymru a thramor, gan roi’r wybodaeth hon ar waith yn ei haddysg a’r busnes ffermio teuluol.
Mae hi hefyd yn bwriadu defnyddio’r Academi Amaeth fel platfform i annog mwy o bobl ifanc i ddilyn ei hesiampl.