Anwen Jenkins
Enw
Anwen Jenkins
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Prif Arbenigedd
Ymgynghorydd cymwys FACTS.
Dadansoddi a meincnodi busnes.
Cymhwyster R-SQP.
Sector
Llaeth, Bîff, Defaid, Tir âr a Glaswelltir
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Mae Anwen wedi gweithio yn y sector amaethyddol ers 15 mlynedd.
Mae hi wedi gweithio gyda CARA Ltd fel ymgynghorydd amaethyddol am y ddwy flynedd ddiwethaf yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Fel ymgynghorydd cymwys FACTS, mae Anwen wedi darparu cynlluniau rheoli maetholion ar gyfer busnesau fferm dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n gallu rhoi cyngor ar bridd a gwrtaith.
Cwblhaodd Anwen rôl ymgynghorydd yn ystod y Clinigau Porthiant yn 2022 gan arwain at gyngor ar ddwysfwyd pellach.
Ers dechrau’r flwyddyn, mae Anwen wedi darparu cyngor ac arweiniad manwl i ffermwyr ar Lyfrau Gwaith a Mapiau Risg Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Rheoliadau Llygredd Dŵr newydd.
Ar ôl gweithio ym maes iechyd anifeiliaid yn y gorffennol, mae hi wedi ennill cyfoeth o wybodaeth ym maes parasitoleg ac mae ganddi'r cymhwyster i allu darparu cyngor.
Wrth ei bod yn gweithio yn y diwydiant am nifer o flynyddoedd, mae Anwen yn darparu cyfoeth o wybodaeth dechnegol a brwdfrydedd dros y sector amaethyddol.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh) mewn Amaeth a Gwyddor Anifeiliaid
- Ymgynghorydd cymwys FACTS
- R-SQP – RAMA
Awgrym /Dyfyniad
"Cymerwch gam yn ôl cyn gwneud penderfyniad mawr."